Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn ymwybodol o Sgamiau

Beth yw sgamiau, a sut gallwn ni eu hosgoi?

gan Hannah Knight

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Gwneud y myfyrwyr yn ymwybodol o wahanol fathau o sgamiau, a sut i’w hosgoi.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

1. A oes unrhyw un yn gwybod beth a olygir â 'sgâm'?

Gwrandewch ar amrediad o ymatebion.

Rhowch eich llaw i fyny os ydych chi neu aelod o'ch teulu wedi derbyn galwad ffôn neu e-bost, ryw dro, yn dweud eich bod wedi ennill cystadleuaeth na wnaethoch chi hyd yn oed gymryd rhan ynddi. 
Dyma enghraifft o sgâm sy'n gyffredinol iawn. Daw sgamiau mewn llawer gwahanol ffurf ac fel arfer maen nhw'n cael eu hanfon trwy'r post, e-bost, y rhyngrwyd neu drwy hysbysebion; daw eraill drwy alwadau ar y ffôn.
Dulliau twyllodrus wedi eu cynllunio i dwyllo pobl o'u harian yw sgamiau, yn enwedig aelodau mwyaf bregus ein cymuned. Y broblem yw bod sgamwyr yn mynd i drafferth fawr er mwyn cael gafael ar ein harian, ac weithiau maen nhw'n gallu bod yn argyhoeddiadol iawn.

Heddiw rydym yn mynd i feddwl am y cwestiwn 'Beth yw sgâm?'

Dychmygwch y senario hon. Mae'r ffôn yn canu pan ydych chi yn eich cartref, ac mae'r person sydd ar ben arall y lein yn egluro ei fod yn galw o'r banc. Mae'n dweud eu bod nhw yn y banc angen trosglwyddo peth o'ch arian i gyfrif arall o ganlyniad i dor-diogelwch.

A fyddech chi'n credu'r sawl sy'n galw?

Treuliwch foment yn derbyn ymateb y myfyrwyr.

Yn anffodus, mae llawer o bobl ddiniwed yn credu'r bobl hyn sy'n galw ar y ffôn. Maen nhw'n tybio os yw rhywun yn honni eu bod yn ffigur awdurdodol, yna mae'n rhaid bod yr alwad yn un dilys. Yn drist, nid yw hyn yn wir bob amser.

2. Rhowch eich llaw i fyny os ydych wedi clywed y term 'rhestr o wirioniaid’ (suckers list). A oes unrhyw un ohonoch yn gwybod beth yw 'rhestr o wirioniaid'?

Gwrandewch eto ar amryw o ymatebion.

Taenlen fawr sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol am bobl o bob rhan o'r byd yw’r ‘rhestr  o wirioniaid’. Ychwanegir enw at y rhestr bob tro y bydd rhywun yn ymateb i scam; bydd y rhestr hon wedyn yn cael ei gwerthu i ddrwgweithredwyr eraill. Mae hyn yn golygu mai trwy ymgeisio mewn un gystadleuaeth yn unig gall hynny arwain at dderbyn cannoedd o e-byst sgâm bob dydd!

3. Felly, os yw sgamwyr yn swnio mor argyhoeddiadol, yna'r prif gwestiwn yw 'Sut y gallwn osgoi cael ein sgamio?'

Yn arferol, mae arwyddion i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw yn y sefyllfaoedd hyn, a all eich helpu i benderfynu a yw rhywun yn ceisio eich sgamio.

Sgamiau e-byst
Fel arfer, mae gan sgamiau e-byst gyfeiriad e-bost sy'n wahanol i gyfeiriad gwefan y sefydliad dilys. Er enghraifft, os gwnaethoch chi dderbyn e-bost oddi wrth Tesco ac os nad yw'r gair Tesco yn rhan o'u cyfeiriad e-bost, mae hwnnw'n debygol o fod yn sgâm. Os oes syniad o frys yn yr e-bost, fel 'Os na fyddwch yn ymateb o fewn 12 awr ni fyddwch yn gallu siopa gyda ni mwyach', neu os gofynnir i chi am eich manylion personol, fel rhif eich cyfrif banc neu gyfrinair, yna mae hynny hefyd yn arwydd arall o sgâm.

Sgamiau ar-lein
Bydd rhai sgamwyr yn sefydlu gwefannau ffug a'u gwneud yn debyg i wefannau poblogaidd er mwyn eich twyllo i brynu cynnyrch. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio system gwrth firws ar eich cyfrifiadur, a'ch bod yn newid eich cyfrinair yn rheolaidd er mwyn atal y sgamwyr gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol.

Sgamiau ar y ffôn
Mae traean o’r holl sgamiau yn digwydd ar y ffôn. Mae'r galwadau mwyaf poblogaidd yn cynnwys cwmnïau cyfrifiadur, gwasanaethau ffôn, PPI, rafflau rhifau lwcus neu dynnu eich enw o het (prize draws),gwasanaethau bancio, cwmnïau hysbysebu, cwmnïau ynni a llywodraeth leol.
Mae'r twyllwyr hyn yn aml yn defnyddio enwau cwmnïau adnabyddus er mwyn gweithredu eu troseddau, ond ar yr un pryd ymddangos yn fwy dilys. Fe allwch chi eu hosgoi trwy beidio ag ildio eich rhif yn ddianghenraid, prynu dyfais atal galwadau neu feddalwedd, a thrwy osod tic (yn y blwch priodol) yn datgan nad ydych yn dymuno cael galwadau â deunydd hyrwyddol na chynigion wrth archebu pethau. Gwyliwch: hyd yn oed os yw eich llinell ffôn yn ymddangos yn farw, neu wedi cael ei gadael, gallwch wynebu orfod talu arian.

Sgamiau trwy'r post
Pobl hyn fel arfer sy'n cael eu targedu gan sgamiau drwy'r post, am mai nhw sydd fwyaf tebygol o ymateb drwy'r post, tra bo pobl ifanc yn fwy tebygol o ymateb ar lein. Fe ddylech fod yn wyliadwrus o lythyrau ‘prize draws’, loterïau a chatalogau, am  mai'r rhain yw'r sgamiau mwyaf cyffredin trwy'r post. Gofynnir yn rheolaidd i bobl brynu rhywbeth o gatalog er mwyn cael hawlio eu gwobr ariannol. Mae'r rhain yn sgamiau a fydd yn golygu bod pobl yn gwario cannoedd, weithiau miloedd o bunnoedd, er mwyn ceisio hawlio eu gwobr. Bydd rhai cliwiau i'w cael yn y llythyrau sgam, fel sillafu gwael, brys i gasglu eich gwobr, a chais am arian gennych chi.

4. Bydd sgamwyr yn aml yn targedu'r aelodau mwy bregus yn ein cymuned fel yr henoed, pobl gydag anableddau dysgu ac weithiau plant. Dim ond 5% o bobl sy'n cyfaddef eu bod wedi cael eu sgamio am eu bod yn teimlo embaras neu gywilydd. Am y rheswm hwn, mae'n bwysig ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth ynghylch sgamiau drwy ledaenu'r wybodaeth ar lafar. Mae angen i bawb weiddi am sgamiau fel bod llai o bobl yn cael eu heffeithio ganddyn nhw.

Sut y gallech chi godi ymwybyddiaeth am sgamiau?
Pe byddech yn ymweld â'ch neiniau a'ch teidiau neu rywun oedrannus, ac yn gweld llythyr sgam ar lawr wrth y drws, yn amlwg wedi cael ei wthio drwy'r blwch postio, fe allech egluro beth ydyw a sôn wrthyn nhw pa mor bwysig yw hi iddyn nhw beidio â'i ateb.

Fe allech chi gynhyrchu posteri codi ymwybyddiaeth am sgamiau a'u harddangos mewn lleoliadau cyhoeddus ac o gwmpas yr ysgol.
Fe allech chi hybu ymwybyddiaeth am sgamiau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddilyn eich Adran Safonau Masnachu am rybuddion.
Fe allech chi hyd yn oed greu perfformiad yn yr ysgol i godi ymwybyddiaeth am sgamiau, y gellid ei ddangos mewn digwyddiadau o fewn yr ysgol.

Cofiwch am y rheolau hyn:
- os nad ydych wedi ymgeisio mewn cystadleuaeth, yna nid ydych wedi ennill
- os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir, yna o bosib mae'n debygol o fod felly
- os nad ydych yn sicr eich bod yn adnabod y sawl sy'n galw, rhowch y ffôn i lawr
- ni ddylech orfod talu unrhyw arian er mwyn ennill gwobr
- peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun i neb, nac ymateb i negeseuon gan bobl nad ydych yn eu hadnabod
- peidiwch â dioddef yn ddistaw: soniwch wrth eraill am sgamiau
- rhowch wybod am sgamwyr drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth :https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/scams/scams

Chwaraewch y fideo ‘Think Jessica’:https://youtu.be/2_0H5j_kSUE

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio'r amser hwn i fod yn ddiolchgar am ein cymuned, yn cynnwys ein ffrindiau a'n teulu, ein hathrawon, gwirfoddolwyr a phawb sy'n cyfrannu tuag at ein diogelwch mewn unrhyw ffordd. Gadewch i ni ymdrechu bob amser i feddwl am ffyrdd y gallwn ni gyfrannu at ein cymuned, boed hynny trwy godi arian, codi ymwybyddiaeth neu ofalu am y bobl yr ydym yn eu caru.

Cerddoriaeth

Mae rhestr o ganeuon am undod ar gael yma

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon