Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bydd newid yn gwneud lles

Sut gallwn ni ddysgu a datblygu trwy newid?

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad o newid a darparu lle i fyfyrwyr feddwl am fanteision a heriau newidiadau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

1. Eglurwch eich bod yn mynd i chwarae cerddoriaeth thema i sioe deledu boblogaidd.

Dangoswch sleid 1.

Chwaraewch y https://www.youtube.com/watch?v=Jv0u18eFj1M (y sain yn unig – peidiwch â dangos y fideo). A yw’r myfyrwyr yn gallu dweud cerddoriaeth thema pa sioe deledu ydyw?

Unwaith y bydd nifer o fyfyrwyr wedi ceisio adnabod y dôn, rhowch yr ateb iddyn nhw:Sixty-Minute Makeover.

Dangoswch sleid 2.

Eglurwch fod y sioe deledu boblogaidd hon yn ymwneud yn gyfan gwbl â gwneud trawsnewidiad sydyn a llwyr i dy. Ar ddiwedd y rhaglen fe ddangosir lluniau o'r ty 'cyn' ac 'ar ôl' y gwaith.

Dangoswch sleid 3.

Weithiau mae perchnogion y cartref yn hoffi'r newid! Ar adegau eraill mae'n dipyn o sioc iddyn nhw, ac – er efallai, eu bod yn ceisio ymddangos yn ddiolchgar o flaen y camera – maen nhw'n cael trafferth i dderbyn y trawsnewidiad sydyn!

Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am newidiadau eraill y bydd pobl yn ceisio eu gwneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn, e.e.gwneud addunedau Blwyddyn Newydd er mwyn newid rhyw agwedd ar eu bywyd: mynd ar ddiet, cynyddu lefelau ymarfer, ymgymryd â hobi newydd.

2. A yw newid bob amser yn rhywbeth cadarnhaol? Cyflwynwch gân gan Keane, 'Everybody’s changing'.

Mae geiriau'r gân hon yn disgrifio rhywun sy'n ei chael hi'n anodd ymaddasu i'r newidiadau sy'n digwydd o'u cwmpas: pobl yn symud i ffwrdd a grwpiau cyfeillion yn addasu.   
Wrth i'r myfyrwyr wrando ar y geiriau, gosodwch her iddyn nhw feddwl am eu teimladau pan fydd pethau'n newid.

Dangoswch sleid 4.

Ar ddiwedd y gân, awgrymwch rai o'r sialensiau sydd ynghlwm wrth newid: ofn i bethau fod yn wahanol, ofn yr anhysbys, colled.

3. Edrychwch ar ddoethineb dau feddyliwr crefyddol pwysig.

Dangoswch sleid 5:Y dyfyniad cyntaf gan John Henry Newman (Cardinal Pabyddol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg).

Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried beth mae'r dyfyniad hwn yn ei ddweud wrthym am newid.Eglurwch fod y dyfyniad yn datgan bod bywyd ar ei hyd yn ymwneud â newid, ac y gall newid helpu i'n ffurfio ni er gwell a'n datblygu yn well pobl. Fodd bynnag, mae'r newid hwn yn cymryd amser(yn wahanol i Sixty-Minute Makeover!).

Dangoswch sleid 6: Mae'r ail ddyfyniad gan Mahatma Gandhi (arweinydd Hindwaidd dros fudiad annibyniaeth yn India dan lywodraeth Brydeinig yn rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif).

Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried beth mae'r dyfyniad hwn yn ei ddweud wrthym am newid.Eglurwch fod y dyfyniad yn datgan bod newid yn y byd yn dechrau gyda ni ein hunain.Os ydym eisiau newidiadau cadarnhaol ddigwydd yn ein byd, rhaid i ni weithredu a newid ein hunain.

Amser i feddwl

Mae newid yn digwydd mewn bywyd.Er ei fod yn gosod sialens o'n blaenau, mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ddysgu, tyfu a datblygu.
Gallwn newid ein byd trwy newid ein hagweddau a'n gweithredoedd ein hunain.

Dangoswch sleid 7.

Treuliwch funud yn dychmygu bod heddiw fel tudalen wag – llechen lân neu ddechrau newydd, cyfle i wneud newid i'ch bywyd.Pa newidiadau ydych chi eisiau eu gwneud heddiw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch dy fod ti’n rhoi dechrau newydd i ni bob dydd – diwrnod newydd gyda chyfleoedd newydd i newid, tyfu a datblygu.
Ambell dro mae’n gallu bod yn anodd pan fydd ein sefyllfa’n newid, ond helpa ni i ddod o hyd i’r nerth i ymdopi â newidiadau anodd heddiw.
Rho i ni’r doethineb i ddysgu o newidiadau.
Helpa ni heddiw i wneud newidiadau cadarnhaol i’n hagwedd a’n gweithredoedd, fel y gallwn ni helpu i newid ein byd er gwell.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon