Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gorffwys, ymlacio, ac adfer eich iechyd

Dod o hyd i amser i orffwys mewn byd prysur

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad o orffwys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi gopi o’r clip fideo 'Cute, speedy hamster falls off wheel!' a’r modd o’i ddangos  yn ystod y gwasanaeth. Mae’n para 0.07 munud.


  • Efallai yr hoffech chi ddewis cerddoriaeth dawel, y gallwch ymlacio wrth wrando arni, i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (dewisol).

Gwasanaeth

  1. A gawsoch chi noson dda o orffwys?Ydych chi'n teimlo eich bod wedi ymlacio?

    Efallai y byddwch yn teimlo ychydig fel y creadur bach blewog hwn. . .

    Dangoswch y clip fideo'Cute, speedy hamster falls off wheel!'


  2. A yw'r fideo yn eich atgoffa o sut y mae eich bywyd chi eich hun ar adegau?

    Darllenwch y gosodiadau a'r cwestiynau canlynol yn araf, gan roi cyfle i'r myfyrwyr fyfyrio arnyn nhw.

    Efallai bod eich bywyd yn rhy brysur. 
    Efallai nad oes gennych amser i orffwys, gormod i'w wneud yn llenwi'ch amser, yn ceisio dal i fyny â ffrindiau, gwaith cartref, teulu, hobïau, chwaraeon, teledu ac ati. 
    Efallai eich bod yn teimlo fod yna ormod o ddisgwyliadau arnoch, yn arbennig wrth i chi baratoi ar gyfer arholiadau TGAU, UG neu A2 yn yr haf . . .  neu ar gyfer y ffug-arholiadau . . . neu waith cwrs i'w gwblhau!
    Efallai ei bod hi’n ymddangos fel pe byddech yn adolygu'n barhaus . . .  yn gwneud gwaith cartref . . .  gwaith dosbarth . . .  mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Ydych chi'n dyheu am y gwyliau nesaf? 
    Ydych chi'n dyheu am ddim mwy na chael hyd i ryw noddfa i orffwys, lle gallwch chi ymlacio, ac anadlu'n ddwfn a dweud, 'Ahhhhhhhh!'? 

  3. Ond, efallai eich bod yn un o'r bobl hynny sy'n hoffi cadw'n brysur. Efallai nad ydych chi’n hoffi cymryd sbel o orffwys! Efallai nad oes unrhyw beth yn well gennych na chael llond gwlad o bethau i'w gwneud. Mewn gwirionedd, rydych chi’n cael teimlad o gyflawniad neu lawenydd yn y ffordd hon o fyw. 

  4. Fe addysgodd un o'r athrawon ysbrydol mawr, y Bwdha, ein bod mewn bywyd, yn teimlo'n anfodlon waeth pa mor brysur y byddwn yn ceisio cadw ein hunain. Galwodd y teimlad hwn o anfodlonrwydd neu anhapusrwydd yn dukkha.Gellir ei gymharu â theimlad nad yw popeth yn union fel y dylen nhw fod ynglyn â’n bywyd, neu fod rhywbeth ar goll ynddo.

  5. Efallai eich bod yn un o'r bobl hynny sy'n cadw eu hunain mor brysur fel nad ydych yn neilltuo amser i feddwl o ddifrif bod ‘rhywbeth ar goll’.

  6. A yw gorffwys yn bwysig? Mae'r ateb yn glir, 'Ydi!' 

    Mae gan fodau dynol angen sylfaenol cyffredinol am orffwys, ymlacio a chwsg o ansawdd da. Daeth yn amlwg bod glaslanciau angen hyd at naw neu ddeg awr a hanner o gwsg bob nos. Ar gyfartaledd, fe ddangosodd astudiaethau mai dim ond 31 y cant o fyfyrwyr ysgol uwchradd adroddodd eu bod yn cael o leiaf 8 awr ar gyfartaledd o gwsg ar noson ysgol.

    Mae'r effaith a gaiff diffyg gorffwys a diffyg cwsg arnom yn cynnwys bod ein hymennydd yn gweithredu'n niwlog, ac mae hynny yn ei dro yn ei gwneud hi'n anodd i ni ganolbwyntio a gwneud penderfyniadau. Heb gwsg, bydd pobl yn dechrau teimlo'n wan ac yn isel eu hysbryd, ac yn aml yn teimlo'r angen i gysgu yn ystod y dydd. Gall peidio ag ymlacio a gorffwys arwain at straen a phryder a  gall hynny gael effaith hirdymor, gan gynyddu'r risg o ordewdra, pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes. 

  7. Felly, beth sy'n ein helpu i allu gorffwys a chael ymlacio o ddifri? 

    - Bydd bath cynnes (nid poeth) yn helpu'r corff gyrraedd tymheredd sy'n ddelfrydol i orffwyso.
    - Gall ysgrifennu rhestrau ‘pethau i'w gwneud’ ar gyfer y diwrnod canlynol ein helpu i roi trefn ar ein syniadau a chlirio ein meddyliau o unrhyw wrthdyniadau.
    - Mae darllen llyfr, neu wrando ar gerddoriaeth ysgafn, neu wrando ar y radio yn ymlacio'r meddwl.
    - Osgoi gormodedd o gaffein (diodydd cola, te a choffi).
    - Peidio â mynd â theclynnau technolegol, fel ffôn, iPad, gliniadur neu deledu i mewn i'ch ystafell wely, neu le arall y byddwch yn ymlacio ynddo.

  8. Roedd gan Awstin o Hippo (OC345-430) rywbeth diddorol iawn i’w ddweud am orffwys: 'O Arglwydd, mae ein calonnau'n aflonydd hyd nes y byddant yn dod o hyd i orffwys ynot ti. (‘O Lord, our hearts are restless until they find rest in you.')

    Darllenwch y dyfyniad eilwaith er mwyn rhoi cyfle i’r myfyrwyr geisio deall yn llawn ystyr y dyfyniad heriol hwn.

    Beth oedd Awstin yn ei olygu gyda hyn? Roedd yn golygu mai dim ond trwy ‘orffwys’ yn Nuw y gallwn ni brofi gwir heddwch. Fe awgrymodd mai heb Dduw, ni fyddwn byth yn cael gwir orffwys. Beth ydych chi'n feddwl o'r gosodiad hwn? 

  9. Yn ddiddorol, fe wnaeth Herbert Benson, meddyg Americanaidd o Brifysgol Harvard, sydd wedi astudio gweddi, ddarganfod bod pob ffurf o weddi yn ennyn ymateb ymlaciol sy'n lleddfu straen, llonyddu'r corff, a hybu gwellhad - [all forms of prayer evoke a relaxation response that] ‘quells stress, quietens the body, and promotes healing.’

    Mae Cristnogion yn credu bod gweddi a gorffwys yn Nuw yn cynnig y posibilrwydd y deuwn o hyd i orffwys mewn byd prysur.

Amser i feddwl

Cyn i mi ddarllen ein gweddi i chi, gadewch i ni gau ein llygaid a chymryd ychydig eiliadau i ddod o hyd i rywfaint o orffwys, llonyddwch a heddwch.

Byddwch yn ymwybodol o unrhyw straen yn eich corff a gadewch iddo fynd.

Os oes amser, gwnewch y canlynol.

Gadewch i ni yn awr gwblhau ‘sgan o'r corff’ syml - yn feddyliol, ystyriwch wahanol rannau o'ch corff yn eu tro, gan wirio a oes unrhyw straen neu dyndra ynddyn nhw. Gadewch iddo fynd. Dechreuwch yn gyntaf â'ch wyneb, a'ch pen, yna eich ysgwyddau, eich breichiau a'ch dwylo, eich stumog a'ch coesau.  

Byddwch yn ymwybodol o'ch anadlu - yr anadl fywiol yn dod i mewn ac yn cael ei gollwng allan o'ch corff. Anadlwch, yna gadewch i unrhyw dyndra sydd ar ôl fynd wrth i chi anadlu allan yn araf. 

Caniatewch ychydig eiliadau er mwyn i'r myfyrwyr brofi'r syniad o orffwys ac ymlacio, gan chwarae eich cerddoriaeth ddistaw os yw amser yn caniatáu.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti dy fod wedi rhoi i ni’r rhodd o allu cysgu ac ymlacio.  
Rydyn ni’n gofyn i ti heddiw am dy help i ddod o hyd i adegau o dawelwch a chyfle i ymlacio.  
Helpa ni i allu gorffwys.
Pan fyddwn ni’n rhy brysur, gwna i ni arafu, Arglwydd.  
Helpa ni heddiw i beidio â rhoi pwysau ar bobl eraill, neu i fynnu gormod ganddyn nhw.  
Bendithia ein gorffwys.  
Amen.

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gerddoriaeth dawel y gwnaethoch ei dewis, ac ymlacio wrth wrando arni.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon