Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nanodechnoleg - cyfaill neu elyn?

Cyflwyniad a chyfle i feddwl

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Meddwl am fanteision a pheryglon nanodechnoleg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gofynnwch i athro gwyddoniaeth eich helpu i baratoi cyflwyniad gweledol ar gyfer cymharu meintiau cymharol a fyddai’n helpu i bwysleisio pa mor fach yw nanoronynnau, gan ddangos eu maint o'u cymharu ag atomau, moleciwlau, gwallt dynol, celloedd croen ac yn y blaen. Trefnwch fodd o ddangos y cyflwyniad yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Ym mis Chwefror 2016, bydd Canberra yn Awstralia yn cynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Nanowyddoniaeth a Nanodechnoleg.

    Beth yw 'nanodechnoleg'? Rheoli a thrin deunyddiau bach iawn yw ei ystyr.

    Pa mor fach? Rydym yn sôn am fater maint moleciwlau ac atomau. 

    Dangoswch y cyflwyniad gweledol er mwyn cymharu meintiau cymharol gwahanol eitemau bychain iawn.

    Yn ôl y rhwydwaith National Nanotechnology Infrastructure Network, mae nanodechnoleg yn ymwneud â gwyddoniaeth pethau sy’n llai na 100 nanometr o ran maint. Hyd un nanometr yw hyd tua thri atom. Mewn cymhariaeth, mae un  blewyn dynol tua 60,000 i 80,000 nanometrau o led. Trwy roi'r deunyddiau bychain gyda'i gilydd, mae gwyddonwyr yn gallu adeiladu pethau bychan iawn, fel sglodion cyfrifiadurol a chydrannau electroneg. 

  2. Technoleg newydd yw hon ac un sy'n hynod o addawol. Mae'r UDA, yr Undeb Ewropeaidd a Japan yn gwario llawer o arian ar ymchwil yn y maes hwn oherwydd gall fod yn bwysig iawn yn y dyfodol. Heddiw, mae nanodechnoleg yn eang. Daw tri neu bedwar o gynnyrch nanodechnoleg newydd i fodolaeth bob wythnos. Mae llawer o gynhyrchion yn defnyddio ychydig o nanodechnoleg i wella'r perfformiad. Er enghraifft, gall peli bowlio ddod yn fwy gwydn, gall trowsus barhau'n hirach a gall cyfrifiaduron gynnwys mwy o gof diolch i nanodechnoleg yn gwella cynllun sglodion cyfrifiadurol. 

  3. Yn ogystal â gwella'r nwyddau traul yr ydym yn eu prynu, gall nanodechnoleg helpu i ddatrys problemau byd eang. Trwy ddefnyddio deunyddiau newydd sydd wedi eu creu gan ddefnyddio nanodechnoleg, gall allyriadau carbon o geir gael eu lleihau, sy'n newydd da oherwydd credir bod yr allyriadau hynny’n achosi cynhesu byd eang. Hefyd, bydd gan feddygon fynediad at ffyrdd newydd i wella heintiau. 

  4. Mae technolegau newydd yn rhoi mwy o rym i ni reoli'r byd, a gwneud iddo ein gwasanaethu ni. Eto, gyda'r grym hwn daw risgiau a chyfrifoldebau. Agwedd bwysig ar wyddoniaeth nanodechnoleg yw adnabod y peryglon sydd ynghlwm wrth y dechnoleg, a chwilio am ffyrdd o leihau'r risgiau. Mae rhai pobl ofn nanobotau milwrol - ysbiwyr electronig bach iawn, sy’n anweledig. Mae rhai hyd yn oed yn gallu dychmygu haid ddireol o drilionau o robotiaid yn dinistrio popeth o'u cwmpas.

    Gall y pryderon hyn swnio fel ffug-wyddoniaeth, ond mae nanodechnoleg eisoes yn newid y byd o'n cwmpas. Gall gronynnau gwrthfacteria, sydd wedi eu llunio mewn labordy i atal hosanau rhag drewi, ddianc i mewn i'n cyflenwad dwr a dinistrio'r bacteria sydd eisoes yn bod ynddo sydd mor bwysig i drin dwr ac ecosystemau naturiol. Gall nanoffibrau - deunyddiau bach iawn sy'n cael eu defnyddio mewn adeiladwaith - gael eu hanadlu ac o bosib achosi trafferthion anadlu. 

  5. Trwy gydol ein hanes, mae technolegau newydd wedi newid y byd o'n cwmpas a'n cynorthwyo i fyw bywydau diogelach a rhwyddach. Hefyd mae technolegau newydd bob amser yn dwyn gyda nhw risgiau a sialensiau newydd. Gall grym nanodechnoleg hefyd ein helpu i fyw bywydau gwell, ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r peryglon y gall y cyfryw dechnoleg ddod gyda hi.

Amser i feddwl

Meddyliwch am declyn technolegol yr ydych yn berchen arno - gall fod yn ffôn, yn gyfrifiadur, teledu, popty microdon neu hyd yn oed yn fwlb golau. Meddyliwch am y modd y mae'n gwneud eich bywyd yn well, ond hefyd meddyliwch am unrhyw broblemau neu risgiau sy'n dod wrth ei sgîl.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,

Diolch i ti am y llu o ryfeddodau ym myd technoleg.

Diolch i ti am y gwyddonwyr sy’n gweithio’n galed i ddatblygu meddyginiaethau newydd ar gyfer gwella clefydau ac yn datblygu ffyrdd newydd i wella ein bywydau.
Helpa ni i gofio bob amser bod y byd yn lle gwerthfawr.
Helpa ni i beidio â cham-drin ein hadnoddau ac i ymddwyn bob amser gyda meddwl a gofal.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon