Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dyna beth yw pryder!

Nid yw pryderu am bethau’n cyflawni unrhyw beth

gan Helen Lycitt (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2005)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Canolbwyntio ar y pethau sy’n achosi pryder, a’r atebion i’w leddfu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn y rhan o Efengyl Luc 10.38-42, sy’n sôn am Iesu’n ymweld â chartref Mair a Martha. Fe allwch chi ddefnyddio’r fersiwn sydd i’w gweld yma, yng ngham 7 y Gwasanaeth, neu ailadrodd y stori yn eich geiriau eich hun.

  • Os hoffech chi, fe allech chi arddangos peth o’r wybodaeth sydd i’w chael yng ngham 7 y Gwasanaeth, ar sgrin (dewisol).

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân,'Don’t worry, be happy!' gan Bobby McFerrin, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. A oes unrhyw un ohonoch chi erioed wedi teimlo'n bryderus neu dan straen?

    Ar ryw adeg, bydd pawb ohonom yn teimlo'r ddau emosiwn hyn. Mae pryder a straen yn cael effaith ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Gall rai pobl fod yn ddig ac yn ymosodol; gall rhai ei chael hi'n anodd cysgu; gall eraill fwyta mwy, neu efallai lai nac sydd ei angen arnyn nhw, neu fwyta bwyd sothach (junk food) o ansawdd maeth gwael; gall rhai pobl dreulio cyfnodau hir yn chwarae gemau cyfrifiadur neu hyd yn oed yn mynd yn dawel gan roi'r gorau i siarad â phobl eraill. Yn union fel y mae straen a phryder yn cael effaith ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, mae ganddyn nhw hefyd wahanol ffyrdd o ddelio ag ef. 

  2. Tybed allwch chi roi rhai syniadau i mi pa ffactorau a fyddai’n gallu achosi straen ym mywyd pobl ifanc?

    Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion. 

  3. Rwyf am ddarllen i chi'n awr restr o bethau a all achosi i ni deimlo dan straen. Fe hoffwn i chi feddwl pa rai o'r sefyllfaoedd hyn sy'n berthnasol i chi o ran achosi straen, wrth i mi eu henwi nhw.

    - Ffraeo gyda ffrindiau. 
    - Eraill yn eich pryfocio’n ormodol.
    - Gormod o waith ysgol neu waith cartref.
    - Arholiadau.
    - Pwysau arnoch i lwyddo yn yr ysgol.
    - Bwlio.
    - Eich perthynas â ffrindiau, a pherthnasoedd eraill.
    - Ymdrechu i gyd-fynd â ffyrdd ffrindiau, a phwysau gan gyfoedion.
    - Penderfynu beth i'w wneud ar ôl gadael yr ysgol.
    - Dadleuon gartref.
    - Hunan-barch a hunanhyder isel. 

  4. Beth tybed ddylech chi ei wneud pe byddech yn teimlo eich bod dan straen?

    O bosib, y ffordd orau i ddelio â straen yw ei drafod gyda rhywun - ffrind, rhiant neu athro/athrawes. Ydych chi’n gyfarwydd â’r dywediad Saesneg, ‘A problem aired is a problem shared’? Mae problem wedi ei rhannu’n broblem wedi ei haneru. 

  5. Sut bynnag y mae pethau'n ymddangos, ni fyddwch ar eich pen eich hun pan fyddwch yn ymboeni am bethau. Mae ystadegau'n awgrymu bod miliynau o fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan straen sy'n ymwneud â bwyd ysgol! 

    Gall pryderon fod yn ymwneud â’r ffaith nad ydych yn cyflawni'n ddigon da yn yr ysgol, yn cael eich bwlio gan blant eraill, yn ymwneud â’ch perthynas â ffrindiau, poeni am y dyfodol, pryderu am hunanddelwedd, neu am gyffuriau ac alcohol. 

  6. Mae llawer o rieni'n cyfaddef eu bod yn bryderus am eu plant! 

    Gall y prif bryderon sydd gan rieni gynnwys ymddygiad eu plant a sut y dylen nhw fod yn eu disgyblu, bod â digon o arian wrth gefn i'w cefnogi, sut y mae pwysau cyfoedion a bwlio yn cael effaith ar eu plant, eu hunan-barch a'r posibilrwydd o'u hymwneud, yn gam neu'n gymwys, â chyffuriau ac alcohol. 

  7. Mae straen a phryder yn rhan o fywyd pawb bron y dyddiau hyn, ond nid sefyllfa newydd yw hon. Rhyw 2,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd bywyd pobl bryd hynny hefyd yn llawn o bryderon. Yn y Beibl, mae Luc yn adrodd stori werthfawr am y modd yr aeth Iesu ati i helpu un a oedd pryderu pan ymwelodd â chartref Mair, Martha a Lasarus (Luc 10.38-42).

    Stori Mair a Martha

    Roedd Iesu a'i ddisgyblion ar daith pan wnaethon nhw aros i ymweld â chartref Martha trwy wahoddiad ganddi. 

    Nid oedd gofalu am anghenion y grwp hwn o ymwelwyr yn dasg hawdd. Prysurodd Martha â'r holl waith paratoi yn y gegin, tra roedd ei chwaer, Mair, yn eistedd wrth draed Iesu. 

    Doedd pethau ddim yn dod yn rhwydd i Martha. Yr holl waith a oedd ganddi - ac roedd hi am i bob dim bod yn berffaith! Roedd hi'n teimlo'n rhwystredig ac yn anobeithiol. Edrychodd i mewn i’r ystafell fyw, gan obeithio y byddai Mair yn dod i'w helpu, ond, wedi ei chyfareddu gyda geiriau Iesu, ni ddaeth arwydd oddi wrth Mair ei bod am symud. 

    Yn y pen draw, pallodd amynedd Martha. Brasgamodd i mewn i'r ystafell fyw a gofynnodd mewn difrif, ‘Iesu, a wyt ti ddim yn hidio bod fy chwaer wedi gadael i mi baratoi ar gyfer pawb ar fy mhen fy hun?’ Yna gorchmynnodd i Iesu: ‘Dywed wrthi am ddod i fy helpu.’

    Fe ymatebodd Iesu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, fe wnaeth Martha yn ymwybodol o'i phryder trwy ddweud, ‘Martha, Martha, rwyt ti'n pryderu a thrafferthu am lawer o bethau.’ Roedd yna dinc gwirioneddol o gonsyrn yn ei lais wrth iddo ail-adrodd ei henw. Fe'i helpodd hi i weld bod ganddi broblem i ddelio â hi. Ni chafodd Martha ei beirniadu gan Iesu - nid oes unrhyw beth o'i le ar fod yn westeiwraig dda, neu fod yn un sy'n dymuno cael pethau i fod ar eu gorau - y cyfan a wnaeth oedd tynnu ei sylw at ei phryder. 

    Yn ail, fe ddangosodd Iesu iddi mai ei dewis hi oedd ei phryder. Roedd Martha wedi dewis gorlenwi ei meddwl â phryder o gwmpas y paratoadau. Unwaith yn rhagor, ni chafodd Martha ei chondemnio gan Iesu am y dewis yr oedd wedi ei wneud, y cyfan a wnaeth oedd datgan fod Mair hefyd wedi gwneud ei dewis hithau. Yn achos Mair, roedd hwnnw’n ddewis gwell!

  8. Fe ddysgodd Martha wers werthfawr gan Iesu. Weithiau mae pawb ohonom yn pryderu am bethau nad ydyn nhw'n o bwysigrwydd mawr! Weithiau rydym yn dewis ymboeni am bethau yn hytrach nac aros i ystyried y sefyllfa yn eglur a rhesymegol.

    Yn y Beibl, cawn hanes Iesu’n siarad am y weithred o bryderu. Yn Mathew 6.25 a 27-29, cofnodwyd y geiriau enwog canlynol: ‘Am hynny rwy’n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd, beth i’w fwyta na’i yfed, nac am eich corff, beth i’w wisgo . . . . prun ohonoch a all ychwanegu un funud at ei oed trwy bryderu? A pham yr ydych yn pryderu am ddillad ? Ystyriwch lili’r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. Ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain.’

Amser i feddwl

Darllenwch y dyfyniadau Saesneg canlynol – a’r addasiadau Cymraeg sy’n dilyn - gan roi amser i’r myfyrwyr feddwl am bob dyfyniad yn ei dro.

Worry is interest paid in advance for a debt you may never owe. (Keith Caserta) - Pryder yw llog a dalwyd ymlaen llaw am ddyled na fydd byth yn dod i’ch rhan.

Worry is like a rocking chair; it gives you something to do but doesn't get you anywhere. (Erma Bombeck) – Mae pryder yn debyg i gadair siglo; mae'n rhoi rhywbeth i'w wneud i chi, ond nid yw'n mynd â chi i unrhyw le.

Worry is the darkroom in which negatives are developed. (Wanda E. Brunstetter) – Pryder yw’r ystafell dywyll lle mae negatifau’n cael eu datblygu.

Worry does not empty tomorrow of its sorrow. It empties today of its strength. (Corrie Ten Boom) – Nid yw pryderu’n gwacau yfory o dristwch. Mae’n gwacau heddiw o gryfder.

Worry gives a small thing a big shadow. (Swedish proverb) - Mae pryder yn rhoi cysgod mawr i rywbeth bach.

'Don’t worry, be happy!' (Bobby McFerrin) – Peidiwch â phryderu, byddwch yn hapus.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fyddwn ni’n teimlo nad oes neb yn gwrando, rho i ni glust sy’n cydymdeimlo.
Pan fyddwn ni’n teimlo’n bryderus, rho i ni eiriau sy’n lleddfu ein pryderon.
Pan fyddwn ni’n teimlo ein bod dan straen, rho i ni heddwch.
Amen.

Cerddoriaeth

'Don’t worry, be happy!' gan Bobby McFerrin

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon