Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy ydych chi?

O ble cawn ni ein safonau?

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwneud i ni feddwl am bwy sy’n nodi ein safonau, ac a ydym yn bod yn deg â ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi gyfeirio at y Bregeth ar y Mynydd, sydd i’w gweld yn Efengyl Mathew, y mae cyfeiriad ati yng ngham 6 yn rhan y ‘Gwasanaeth’, ond dewisol yw hyn.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân'Go your own way' gan Fleetwood Mac, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Rwy’n mynd i ddisgrifio tri math gwahanol o bobl i chi. Gwrandewch ar y disgrifiadau, a meddyliwch pa un o’r rhain ydych chi debycaf iddo ef neu iddi hi.

    - ’Miss neu Mr Perffaith – rhaid i bopeth rydych chi’n ei wneud fod yn gywir ac yn iawn. Mae eich gwaith yn hynod o daclus – os gwnewch chi gamgymeriad, rydych chi’n dechrau eto. Os oes rhywbeth yn mynd o’i le, rydych chi’n gofidio, hyd yn oed os does dim y gallwch chi ei wneud am y peth.
    - ‘Miss neu Mr Plesio Pawb Arall – rydych chi bob amser yn ymwybodol o beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonoch chi. Ydyn nhw’n fy hoffi i? Ydw i wedi gwneud y peth iawn? Os nag ydw i, sut bydd pobl yn fy marnu i neu’n ymateb i mi.
    - ‘Miss neu Mr Alla i Ddim Credu fy mod i wedi Gwneud y Camgymeriad Hwnnw  – rydych chi’n gorwedd yn effro yn eich gwely yn ystod y nos yn pryderu am yr holl gamgymeriadau a wnaethoch chi. Ac rydych chi’n mynd dros yr hyn ddylech chi fod wedi’i wneud yn y sefyllfa, yn hytrach na meddwl am y pethau a wnaethoch chi.

  2. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn gallu uniaethu â’r bobl hyn, o leiaf un ohonyn nhw, ac efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo ein bod ychydig bach yn debyg i bob un ohonyn nhw!

  3. Beth sy’n ein gwneud yn debyg i’r bobl hyn?

    Ai pwysau gan y rhai o'n cwmpas? Ai dylanwadau allanol, fel edmygedd o enwogion a modelau rôl eraill??

    Ydyn ni’n edrych ar gylchgronau i weld pa ddillad a ddylen ni fod yn eu gwisgo, pa steil gwallt a ddylai fod gennym, neu ba gynhyrchion colur a ddylen ni eu defnyddio, pa fwydydd i'w bwyta, neu pa ddiet y dylen ni fod yn cadw ati?

  4. Pwysau arall sydd arnom ni hefyd yw i ‘wneud yn dda’. Mae’n debyg eich bod wedi teimlo hynny droeon yn ystod eich gyrfa yn yr ysgol. Mae pawb yn teimlo hynny ar ryw bwynt yn eu bywyd. Efallai mai pwysau gwaith ysgol fydd hynny, arholiadau neu gystadlaethau neu gynghreiriau chwaraeon . Efallai bydd y pwysau’n fath gwahanol pan fyddwch chi wedi tyfu’n oedolion, ond mae’r pwysau’n dal yno. Fe fyddwch chi’n parhau i feddwl ydych chi wedi cael swydd iawn ...? Ble gallwch chi fyw?  . . . 

  5. Ond, os gwnawn ni oedi am foment ac anwybyddu’r holl ddylanwadau allanol hyn, rwy’n meddwl y byddem yn sylweddoli mai’r unig rai sy’n rhoi’r pwysau mawr arnom ni ydym ni ein hunain! Ie, y llais bach hwnnw yng nghefn ein meddyliau sy’n ein hatgoffa’n barhaus ein bod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, ddim yn ddigon da, neu wedi dweud rhywbeth oedd ddim yn iawn, neu ein bod heb ateb y cwestiwn iawn!. Ambell dro, mae’n bwysig i ni roi taw ar y cleber diddiwedd hwnnw sydd y tu mewn i ni sy’n dweud nad ydyn ni’n ddigon da, ddim yn ddigon clyfar, neu sy’n dweud nad yw pobl eraill yn ein hoffi ni ddigon. Mae angen i ni fod yn hapus gyda’r math o berson ydyn ni, nid gyda’r math o berson yr hoffai pobl eraill i ni fod.

  6. Mae Cristnogion yn credu mai cyfres o fyfyrdodau a gawn yn y Bregeth ar y Mynydd (gwelwch Efengyl Mathew, pennod 5), myfyrdodau am bobl y mae Duw yn eu hystyried yn arbennig. Mae Iesu’n ein dysgu y gallwn ni fod fel halen neu fel goleuni. Fe allwn ni roi mwy o flas ar fywyd ac ar y byd, ac fe allwn ni oleuo bywydau pobl, a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd. 

    Ambell dro, efallai mai chi eich hunan yw’r un anoddaf ei blesio!

Amser i feddwl

Gadewch i ni oedi am foment a meddwl am y cwestiynau canlynol.

Ydyn ni bob amser eisiau plesio pobl eraill?
Ydyn ni’n gwneud pethau rydyn ni’n gwybod eu bod yn anghywir, dim ond er mwyn cael bod yn rhan o’r dyrfa?
A oes newidiadau y dylem eu gwneud fel y gallwn deimlo’n gyfforddus o’n mewn ein hunain?

Gweddi
Dduw, rho i mi sirioldeb i dderbyn y pethau na allaf eu newid, dewrder i newid y pethau y gallaf eu newid, a doethineb i wybod y gwahaniaeth. (Addasiad o eiriau Reinhold Niebuhr)

Cerddoriaeth

'Go your own way' gan Fleetwood Mac

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon