Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pryd bwyd un fowlen

Beth yw ein hagwedd tuag at fwyd?

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i feddwl am sut rydyn ni’n bwyta, ac am ein hagwedd tuag at fwyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un fowlen a llwy.

  • Os byddwch yn dymuno ei ddefnyddio, trefnwch fod y clip fideo YouTube, ‘Matt Stonie wins 2015 Nathan’s famous hot dog eating contest!’ ar gael gennych chi, a’r modd o’i ddangos yn ystod y gwasanaeth  (ar:https://www.youtube.com/watch?v=VfAzAdHy2n8). Mae’r para 2.51 munud. Mae’n bosib y bydd rhai pobl yn teimlo’n anghyfforddus wrth wylio’r clip fideo hwn, felly gallwch ddewis ei ddangos neu beidio.

Gwasanaeth

  1. Codwch eich dwylo os mai eich ateb i’r cwestiwn canlynol yw ‘Ydw’.

    Ydych chi’n hoffi cwn poeth – hot dogs?

  2. Faint o hot dogs ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gallu eu bwyta mewn 60 eiliad - munud?

    Faint o hot dogs ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gallu eu bwyta mewn deg munud?

  3. Rwy’n gofyn y cwestiynau hyn i chi oherwydd, yn America, mae cystadleuaeth bwyta hot dogs yn cael ei chynnal yn flynyddol. Enillydd y gystadleuaeth yw’r un sydd wedi gallu bwyta’r nifer fwyaf o hot dogs mewn deg munud.

    Dyfalwch faint o hot dogs a lwyddodd enillydd y llynedd i’w bwyta yn yr amser hwnnw.

    Yn 2015, yr enillydd oedd Matt Stonie.Fe ddygodd y teitl oddi ar ddyn a oedd wedi bod yn bencampwr am yr wyth mlynedd flaenorol - Joey Chestnut. Ac i’w guro ef, a llwyddo i dorri ei record, fe fwytaodd Matt Stonie y cyfanswm enfawr o 62 hot dog!

    Dangoswch y clip fideo‘Matt Stonie wins 2015 Nathan’s famous hot dog eating contest!’, os byddwch yn dymuno ei ddefnyddio. 

  4. Beth ydych chi’n feddwl o hynna? 

    Gwrandewch ar ymateb amryw o’r myfyrwyr.

  5. Mae rhai’n gweld cystadleuaeth fel hon yn hwyl fawr. Ond bydd rhai pobl eraill yn teimlo’n eithaf anghyfforddus wrth ei gwylio.

    Mae’r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar fwyta, a hynny heb flasu na mwynhau’r bwyd. Dydi hyn ddim yn ffordd iach o fwyta. Yn hytrach, mae’r canolbwyntio ar fwyta mor gyflym â phosib, a bwyta cymaint â phosib.

    Pan fyddwn ni’n aros i ystyried bod llawer iawn, iawn, o bobl yn y byd sydd heb ddigon i’w fwyta, fe allwn ni deimlo’n anghyfforddus iawn wrth wylio’r fath fwyta eithafol.

  6. Mae 795 miliwn o bobl yn y byd sydd heb ddigon o fwyd i allu byw bywyd iachus a gweithgar. Dyna un o bob naw o bobl y byd. Mae’r rhan fwyaf o bobl newynog y byd yn byw mewn gwledydd lle mae 12.9 y cant o’r boblogaeth yn dioddef o ddiffyg maeth. 

    Mae’r ystadegau hyn yn arswydus ac yn pwysleisio’r rhaniad enfawr yn ein byd rhwng y rhai sydd heb ddigon i’w fwyta a’r rhai ohonom sy’n gallu cael digonedd i’w fwyta. 

  7. Yn nesaf, rwy’n mynd i ofyn rhai cwestiynai i chi. Fe fyddaf yn oedi rhwng pob cwestiwn er mwyn rhoi cyfle i chi feddwl am eich atebion iddyn nhw .

    - Pa agwedd sydd gennych chi tuag at y bwyd y byddwch chi’n ei fwyta?
    - Fyddwch chi’n ymwybodol o ymddangosiad eich bwyd, ei liw a’i flas?
    - Fyddwch chi’n llowcio eich bwyd mor gyflym fel nad ydych chi’n cael amser i’w fwynhau?
    - Fyddwch chi’n ymwybodol o’r amser a’r sgiliau sydd wedi bod ynglyn â pharatoi a chreu’r pryd bwyd, neu a ydych chi’n cymryd hynny’n ganiataol?
    - Fyddwch chi bob amser yn bwyta ar fynd, gan gipio byrbrydau yn sydyn er mwyn cael egni, neu a fyddwch chi’n cymryd eich amser i aros, bwyta a mwynhau?

  8. Mae’r un peth y byddem yn gallu ei wneud - a allai ein helpu i fod yn fwy ystyriol o’r ffordd rydyn ni’n bwyta - wedi ei amlinellu yn y llyfr, One Bowl gan Don Gerrard (Da Capo Press, 2001). Yn y llyfr hwnnw, mae’r awdur yn argymell y dylem ni fwyta pob pryd o un fowlen yn unig, a ninnau’n eistedd yn llonydd mewn man tawel i fwyta’r bwyd.

    Daliwch eich bowlen a’ch llwy i fyny i ddarlunio hyn. 

    Mae Don Gerrard yn awgrymu y byddai bwyta yn y ffordd hon yn ein hatal rhag cipio bwyd ar fynd, bwyta bwyd o baced neu fwyd sydd wedi ei brosesu a’i lapio. Mae hefyd yn awgrymu y dylai’r fowlen gael ei dal mewn un llaw, a’ch bod yn defnyddio’r llaw arall i ddal eich llwy neu eich fforc.

    Daliwch eich bowlen a’ch llwy i fyny eto i ddarlunio’r weithred.

    Mae hyn yn golygu y byddai’n amhosibl i chi afael mewn ffôn neu dabled, neu lyfr, nac unrhyw beth arall wrth i chi fwyta. Felly, fe fyddem yn gallu canolbwyntio mwy ar yr hyn y byddem yn ei fwyta. Wedyn, fe fyddem yn gallu ei flasu’n iawn, a’i fwynhau, a’i werthfawrogi’n ddiolchgar.

Amser i feddwl

Dywedir fod y Bwdha – sefydlydd y grefydd Bwdhaeth – pan ddechreuodd ar ei bererindod, wedi mynd â dim ond un fowlen gydag ef, a’i fod wedi dibynnu ar garedigrwydd pobl eraill i lenwi ei fowlen ar gyfer pob pryd bwyd. Efallai y gallai’r agwedd hon – bwyta’n syml gan fod yn ddiolchgar am y rhodd o fwyd – fod yn rhywbeth y gallai pob un ohonom ddysgu rhywbeth oddi wrthi.

Mae sawl crefydd arall hefyd yn ein hannog i fod yn ddiolchgar. Yn achos Cristnogaeth, rydym yn cael ein hannog i werthfawrogi’r bwyd y mae Duw’n ei ddarparu ar ein cyfer. Bydd llawer o Gristnogion yn dweud gweddi cyn dechrau bwyta eu pryd, gweddi y cyfeirir ati fel ‘gras bwyd’.

A oes pobl y gallem ni heddiw fod yn ddiolchgar iddyn nhw am ddarparu i ni'r bwyd y byddwn ni’n ei fwyta?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Rydyn ni’n ddiolchgar am yr holl fwydydd gwahanol rwyt ti’n eu darparu ar ein cyfer.
Rydyn ni’n diolch i ti hefyd am y rhodd o flasbwyntiau ar ein tafod, sy’n ein galluogi ni i flasu,  a mwynhau amrywiaeth mawr o bethau sydd â gwahanol flas.
Rydyn ni’n ymwybodol ein bod, ar adegau, yn gallu cymryd yn ganiataol y bwyd y byddwn ni’n ei gael.Fe allwn ni fwyta heb feddwl, neu fwyta gormodedd heb fod eisiau.
Rydyn ni’n gofyn i ti roi’r gallu yn ein calon i werthfawrogi ein bwyd.Dysga ni i arafu a mwynhau’r bwyd y byddwn ni’n ei fwyta, a mwynhau’r cwmni a fydd yn rhannu’r bwyd â ni.
Rydyn ni’n galw i gof yr holl bobl yn y byd sydd heb ddigon o fwyd i’w fwyta.
Gweddïwn y bydd eu hangen yn cael ei ddiwallu drwy haelioni pobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon