Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim troi’n ôl?

Ailymweld ag anawsterau er mwyn eu concro ar Ddydd Gwyl Sant Padrig (17 Mawrth)

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio'r syniad o ailymweld ag anawsterau trwy ystyried hanes bywyd Sant Padrig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un Arweinydd a dau Ddarllenydd.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Something inside so strong’ gan Labi Siffre, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd:Mae 17 Mawrth yn Ddydd Gwyl Sant Padrig. Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu gan bobl Wyddelig a phobl eraill ledled y byd, mewn sawl ffordd wahanol.

Darllenydd 1:Gyda gorymdeithiau dinas gyfan.

Darllenydd 2:Gyda symbolau o’r Shamrock.

Darllenydd 1:Martsio i fiwsig bandiau.

Darllenydd 2:Lobsgows (Irish stew).

Darllenydd 1:Cerddoriaeth ffidil.

Darllenydd 2:Corn-bîff a bresych.

Darllenydd 1:Gwisgo dillad gwyrdd ...

Darllenydd 2:... ac yfed Guinness.

Arweinydd:Padrig yw nawddsant Iwerddon, ond pwy oedd Padrig mewn gwirionedd - neu o leiaf yn ôl y chwedl?

Darllenydd 1: Credir bod Padrig, pan oedd yn blentyn, yn byw rywle ar arfordir gorllewinol Prydain Rufeinig, efallai yn Ne'r Alban, Cumbria neu hyd yn oed Cymru.

Darllenydd 2: Pan oedd Padrig tua 16 mlwydd oed, ymosododd môr-ladron Gwyddelig ar yr ardal lle’r oedd yn byw a chludo'r boblogaeth oddi yno yn gaethweision i arfordir Gorllewinol Iwerddon. Yn ôl y chwedl, rhoddwyd Padrig ar waith fel bugail. Roedd hwn yn waith anodd, a oedd yn golygu ei fod am lawer o’r amser ar ei ben ei hun ar y bryniau mewn tywydd da a thywydd drwg.

Darllenydd 1: Mae cael amser ar eich pen eich hun yn dda er mwyn gallu meddwl am bethau. Fe feddyliodd Padrig lawer am beth oedd ei bwrpas mewn bywyd, ac yn y pen draw fe ddaeth yn grediniwr Cristnogol. 

Nid oedd yn hapus fel caethwas. Mae'n bosib bod y rhai oedd wedi ei ddal yn greulon ac yn disgwyl llawer ganddo. Ar ôl chwe blynedd o fod yn gaeth, fe ddihangodd. Fe gerddodd 200 milltir i gyrraedd arfordir Dwyreiniol Iwerddon a pherswadio capten llong i fynd ag ef yn ôl i’r wlad lle gafodd ei eni. Gadawodd y blynyddoedd caled yn Iwerddon y tu cefn iddo . . .

Darllenydd 2: . . .  neu dyna beth oedd Padrig yn ei feddwl!

Arweinydd: Mewn gwirionedd, tua 15 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd Padrig ei hun yn ôl ar arfordir Iwerddon unwaith yn rhagor. Y tro hwn, un ydoedd yng nghwmni nifer o Gristnogion a gafodd eu hanfon gan y Pab i sefydlu eglwys Wyddelig frodorol. 

Pam yr aeth Padrig yn ôl i'r union fan a oedd wedi bod yn lle y treuliodd galedi mwyaf yn ei fywyd? Sut y gwnaeth Padrig baratoi ar gyfer y dasg hon?

Mae’n bosib gweld pam yr oedd y Pab ar y pryd yn credu fy byddai Padrig yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y swydd. Roedd yn gallu siarad yr iaith Wyddeleg yn rhugl, ac roedd ganddo ddealltwriaeth o'r gymdeithas Wyddelig. Roedd hefyd wedi derbyn hyfforddiant dros lawer o flynyddoedd, ac roedd ganddo'r sgiliau a'r wybodaeth a oedd yn angenrheidiol. Yn bwysicach na dim, roedd yn honni ei fod wedi cael gweledigaeth, yn yr hon yr oedd pobl Iwerddon yn galw arno i ddod i weithio yn eu mysg unwaith yn rhagor. Roedd yn credu bod y weledigaeth honno wedi dod oddi wrth Dduw. 

Felly, fe ddychwelodd Padrig i'r lle anodd, y lle hwnnw yr oedd wedi dianc ohono sawl blwyddyn ynghynt, er mwyn goresgyn yr hyn oedd wedi digwydd yn y gorffennol a chyflawni rhywbeth daionus.

A oes gennych chi leoedd na fyddech chi byth yn dymuno dychwelyd iddyn nhw. Efallai bod rhyw achlysur poenus, neu un a greodd embaras wedi digwydd yn y lle neilltuol hwnnw. A oes gennych chi bobl nad ydych byth yn dymuno cyfarfod â nhw unwaith eto oherwydd yr hyn wnaethon nhw i chi, neu'r hyn y gwnaethon nhw ei ddweud wrthych chi? A oes sefyllfaoedd yn bodoli na fyddech chi byth yn dymuno bod yn rhan ohonyn nhw, efallai oherwydd methiant, rhwystredigaeth neu ddicter? Rwy'n credu y gall pob un ohonom adnabod o leiaf un o'r sefyllfaoedd hyn.

Roedd Iesu'n debyg iawn i hynny. Yr un lle y byddai wedi bod yn well i Iesi fod wedi ei osgoi oedd dinas Jerwsalem. Dyma ganolfan lle'r oedd y gwrthwynebiad mwyaf iddo, cartref y pwerau gwleidyddol a chrefyddol a oedd eisoes wedi ceisio rhoi taw arno, Eto, mae'r Beibl yn datgan yn eglur ei fod yn fwriadol wedi ‘troi ei wyneb’ tuag at y cyfeiriad hwnnw a dewis wynebu'r gwrthwynebwyr yn yr union le yr oedden nhw gryfaf. Pam y gwnaeth Iesu hynny? 

Yn gyntaf, oherwydd ei fod yn deall y rhai hynny a oedd yn ei wrthwynebu, ac roedd wedi cael tair blynedd o brofiad yn delio â nhw wrth iddo bregethu ac iacháu ar hyd a lled y wlad.

Yn ail, roedd yn credu mai dyna oedd Duw eisiau iddo'i wneud.

Amser i feddwl

Gall fod adegau pryd y mae angen i ni wynebu pobl, lleoedd a sefyllfaoedd yr ydyn ni’n ofnus ohonyn nhw. Mae angen i ni wneud hyn, fodd bynnag, pan ydyn ni’n barod i wneud hynny, a phan fydd gennym argyhoeddiad cryf ei bod hi'n bwysig i ni wneud hynny. Does neb arall yn gallu dwyn perswâd arnom. Mae angen i ni gael y cymhelliant i'w wneud.

Roedd Padrig wedi cael ei hyfforddi, ac fe wyddai Iesu beth oedd yn ei wynebu. Os ydym am wynebu ein problemau, mae'n beth da i ni siarad gyda'n ffrindiau ac aelodau ein teulu, a meddwl trwy’r canlyniadau’n fanwl a thrylwyr.

Yn achos Padrig, fe wnaeth mynd yn ei ôl i Iwerddon olygu bywyd o wrthdaro, caledi corfforol, cyhuddiadau o lygredd, ochr yn ochr â'i lu o lwyddiannau. Yn achos Iesu, fe wnaeth mynd yn ei ôl i Jerwsalem arwain at wrthdaro, anghyfiawnder ac yn y pen draw at farwolaeth cyn ei atgyfodiad i fywyd.

Yn ein hachos ni, pwy â wyr beth all yr ymdrech gychwynnol fod, ond efallai, fel gyda Padrig ac Iesu, bydd y canlyniad yn werth y cyfan.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,

Diolch  ti am esiamplau dewr Padrig ac Iesu.
Rho i ni’r dewrder i wybod pryd i wynebu ein hofnau, a mynd yn ôl i’r llefydd anodd, ac at y bobl a’r sefyllfaoedd anodd yn ein bywyd.
Helpa ni i fod yn barod i newid, ac i fod yn hyderus y gallwn ni wneud gwahaniaeth. 
Amen.

Cerddoriaeth

Something inside so strong’ gan Labi Siffre

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon