Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Shhhhhh!

Grym distawrwydd mewn byd swnllyd

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am fanteision tawelwch a llonyddwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Shhhhhh!) a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘The sound of silence’ gan Simon and Garfunkel, a’r modd o’i chwarae ar ddechrau’r gwasanaeth. Efallai yr hoffech chi ei chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth hefyd.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gân ‘The sound of silence’ wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth. 

  2. Arhoswch nes bydd y gân wedi dod i’w diwedd.

    Gadewch i ni'n awr wneud dim ond gwrando’n astud mewn distawrwydd am 30 eiliad ac yna fe rannwn ni unrhyw sylwadau fydd gennym ni am synau rydym wedi eu clywed.

    Gwrandewch ar ymateb amryw o’r myfyrwyr
    .Gall y rhain gynnwys eu bod wedi clywed swn traffig y tu allan, swn myfyrwyr eraill mewn rhan wahanol o'r adeilad, hymian y goleuadau, rhywun yn yr ystafell yn pesychu neu’n shifflo, neu’n sibrwd, swn anadlu, neu hyd yn oed swn bol yn rwmblian!

  3. Rydym yn byw mewn byd swnllyd. Mae'n beth prin canfod amser, hyd yn oed 30 eiliad, i aros yn llonydd a gwrando ar y synau sydd o'n cwmpas. Mae llawer o'r swn rydym yn ei glywed yn y cefndir yn anochel - swn traffig, swn eraill yn sgwrsio, yn gweiddi ac yn chwerthin, cloch yr ysgol yn canu i nodi dechrau neu ddiwedd gwersi - ond mae rhai synau y byddwn yn troi atyn nhw o’n gwirfodd ac yn gwrando arnyn nhw eu clywed, fel cerddoriaeth, y teledu, a llais rhywun yn siarad. Gall hynny fod yn fwynhad ac yn fodd o gyfoethogi ein bywyd. Mae'r mwyafrif ohonom yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, er enghraifft, a llawer wrth eu bodd yn mynychu digwyddiadau chwaraeon, megis gemau pêl-droed lle bydd cymeradwyo a siantio byddarol y cefnogwyr yn ychwanegu at wella'r awyrgylch! 

  4. A oes hefyd le i dawelwch a llonyddwch yn ein byd swnllyd?

  5. Mae'r Almaen yn wlad lle mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd o ddistawrwydd a thawelwch. 

    Yn y flwyddyn 1907, cafodd y clust-blygiau (ear plugs) modern cyntaf eu datblygu gan fferyllydd Almaenig o'r enw Max Negwer. Galwodd ei ddyfais newydd yn 'Ohropax', gan uno'r gair Almaeneg am ‘glust’ a'r gair Lladin am ‘heddwch’. 

    Yn yr un flwyddyn, fe sefydlwyd cymdeithas ‘gwrth-swn’ (anti-noise society) yn ninas Hanover. Fe wnaeth Theodore Lessing - sylfaenydd y gymdeithas hon - y gosodiad hwn, fod ‘distawrwydd yn urddasol’. 

  6. Heddiw, yn ninas Berlin - prifddinas yr Almaen - mae swn uchel yn cael ei wahardd yn llym ar ôl deg o'r gloch y nos ac, ar y Suliau bydd y Ruhezeit  neu ‘amser tawel’, yn dechrau'n gynharach, am wyth o'r gloch yr hwyr. Bydd siopau yn cau caeadau dros eu drysau a'u ffenestri, caiff lorïau a thryciau eu gwahardd ac ni chaniateir defnyddio offer pwer ar gyfer garddio ac ati ar ôl yr amser hwn. Sylwodd sawl ymwelydd â'r Almaen fod hyd yn oed lleoedd chwarae ar gyfer plant yn ymddangos yn dawelach nag mewn rhannau eraill o'r byd. 

  7. Ysgrifennodd y bardd Almaenig Johann Wolfgang von Goethe (1749-1832), ‘Mae dawn yn datblygu mewn lleoedd tawel’.

    Dangoswch y sleid PowerPoint cyntaf.
     

  8. Mae tystiolaeth ar gael sy'n profi bod distawrwydd mewn dosbarth, o ddifrif yn gallu gwella perfformiad myfyrwyr. Mewn astudiaeth yn y flwyddyn 2011gan Dr Helen Lees, o Brifysgol Sterling, awgrymwyd yn gryf bod ‘llonyddwch bwriadol’, lle'r oedd myfyrwyr yn cael y cyfle i ganolbwyntio a myfyrio mewn amgylchedd rhydd-o-dyndra, wedi cael effaith gadarnhaol arwyddocaol ar ganolbwyntio ac ymddygiad. 

  9. Sut y gallwn ni ganfod mannau a chyfleoedd ar gyfer distawrwydd a thawelwch yma yn yr ysgol neu hyd yn oed yn ein trefi? A ydych yn meddwl fod adegau fel hynny’n bwysig?

  10.  Awgryma tystiolaeth bod distawrwydd yn fuddiol i iechyd. Cysylltir swn, yn arbennig swn sy'n fwy na 30 desibel, â phwysedd gwaed uchel, pryder a thyndra. Mewn gwirionedd, mae'r gair Saesneg ‘noise’ yn tarddu o'r gwreiddyn Lladin sy'n golygu naill ai cyfog neu boen. Mae distawrwydd yn gostwng pwysedd gwaed ac yn galluogi pobl i ddelio â sialensiau bywyd mewn ffordd well. Mae hynny hefyd yn caniatáu i chi roi cyfle i chi sadio eich hun ac oedi yng nghanol gweithred orwyllt. Gall distawrwydd helpu pob un ohonom deimlo'n ni ein hunain unwaith yn rhagor. 

  11.  Fe wyddai Iesu hefyd bod distawrwydd, tawelwch ac unigedd - amser ar eich pen eich hun, i ffwrdd oddi wrth wrthdyniadau - yn beth da. Mae'r Beibl yn sôn am yr adegau pryd yr oedd Iesu’n ymneilltuo'i hun i ‘leoedd unig’, fel yn Luc 5.16: ‘Ond byddai ef yn encilio i’r mannau unig ac yn gweddïo.’

    Dangoswch yr ail sleid PowerPoint.

    Felly, fe ddewisodd Iesu chwilio am leoedd distaw a thawel o bryd i'w gilydd. Efallai pe byddai ffonau symudol 'smartphones' wedi cael eu dyfeisio 2000 o flynyddoedd yn ôl, byddai Iesu wedi diffodd y teclyn ambell dro pan oedd yn chwilio am dawelwch a distawrwydd!

Amser i feddwl

Gadewch i ni aros am eiliad i fyfyrio ar y cwestiynau canlynol:

Dangoswch y drydedd sleid PowerPoint.

Ar ba adegau y bydd gennych gyfle i aros ac ymlonyddu a distewi yn nhrefn ddyddiol eich bywyd? Beth sydd arnoch chi angen stopio ei wneud er mwyn gallu ymlonyddu a chanfod cyfleoedd i gael cyfnodau llonydd a thawel?
A allwch chi alw i gof leoliad neilltuol a fyddai’n lle tawel defnyddiol i chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y rhodd o swn - seiniau rhyfeddol ffrindiau’n chwerthin gyda’i gilydd, y llawenydd y byddwn ni’n ei deimlo pan fyddwn ni’n clywed ein hoff gerddoriaeth, a’r cyffro a deimlwn pan fyddwn ni’n annog ein tîm ym myd chwaraeon.
Helpa ni i adnabod ac i ymateb i’r esiampl a roddodd Iesu i ni.
Helpa ni i geisio’r mannau lle cawn ni ddistawrwydd a thawelwch.
Rho i ni’r doethineb i wybod ble a pha bryd i chwilio am fomentau tawel.
Gad i ni dreulio moment yn awr i fod yn llonydd a thawel o dy flaen di, Dduw. 
Saib.
Diolch. 
Amen.

Cerddoriaeth

The sound of silence’ gan Simon and Garfunkel.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon