Rhan o gorff
Mae cydweithio’n bwysig
gan Charlotte Benstead (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2005)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Defnyddio’r corff dynol i ddarlunio pa mor bwysig yw gweithio gyda’n gilydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau neu fwy o fyfyrwyr i ddarllen y ffeithiau am y corff, yn y gwasanaeth, ar ôl y cyflwyniad.
Gwasanaeth
Arweinydd:Rydych chi’n anhygoel, yn wirioneddol anhygoel. . . wel, mae eich cyrff yn anhygoel beth bynnag! Dyma rai ffeithiau am eich cyrff a fydd yn dangos i chi pa mor rhyfeddol ydyn nhw.
Darllenydd 1:Mae'r corff yn cynnwys tua 100,000 biliwn o gelloedd. Dyna 100 miliwn miliwn o gelloedd!
Darllenydd 2:Mae 60 y cant o’ch corff yn ddwr.
Darllenydd 1:Rydych chi’n anadlu digon o aer drwy gydol eich oes i lenwi 10 miliwn o falwnau.
Darllenydd 2:Mae'r galon yn pwmpio 5 litr o waed drwy'r corff ar unrhyw un adeg. Mae’r galon yn curo ar gyfartaledd dros 100,000 gwaith y dydd y.
Darllenydd 1:Mae tua 100,000 o filltiroedd o bibellau gwaed mewn corff oedolyn. Mae hynny'n golygu y bydden nhw’n gallu mynd o amgylch y cyhydedd bedair gwaith.
Darllenydd 2:Mae unigolyn yn defnyddio, ar gyfartaledd, tua 35 tunnell o fwyd yn ystod ei oes.
Darllenydd 1:Fe allai’r holl facteria sydd yn eich corff lenwi un tun cawl.
Darllenydd 2: Mae ar y pen cyffredin gyfartaledd o 100,000 blewyn, ac mae pob blewyn yn byw am tua rhwng dwy i chwe blynedd.
Darllenydd 1:O dan amgylchiadau arferol, yn ystod ymarfer corff egnïol, fe allwch chi secretu hyd at litr (bron 2 beint) o chwys yr awr.
Darllenydd 2:Rydych yn secretu 100 litr (22 galwyn) yn ystod eich oes.
Arweinydd: Mae'r corff dynol yn waith gwych o greadigaeth Duw. Bob tro y byddwch yn codi bys, neu’n cymryd cam, mae nifer enfawr o gelloedd a nerfau yn rhyngweithio i gynhyrchu symudiadau o'r fath, symudiadau sy’n ymddangos yn syml iawn.
Yn y Testament Newydd, yn 1 Corinthiaid 12.12-27, mae Paul yn cyffelybu’r Eglwys i’r corff dynol. Dyma aralleiriad o beth mae’n ddweud:
Nid dim ond un rhan yn unig yw ein corff. Mae ganddo lawer o rannau. Meddyliwch pe byddai’r droed dweud, 'Dydw i ddim yn llaw, ac felly dydw i ddim yn rhan o'r corff.' Oni fyddai’r droed yn dal i berthyn i'r corff? Neu tybiwch fod y glust yn dweud, 'Dydw i ddim llygad, ac felly dydw i ddim yn rhan o'r corff.' A fyddai'r glust yn dal i berthyn i'r corff? Os byddai ein corff yn ddim ond llygad, ni allem glywed unrhyw beth. Ac os byddai’n ddim ond clust, ni allem arogli unrhyw beth. Ond mae Duw wedi rhoi pob rhan o'n corff at ei gilydd yn y ffordd y penderfynodd ef a fyddai orau.
Nid yw corff yn wir gorff, oni bai fod mwy nag un rhan iddo. Mae'n cymryd llawer o rannau i wneud un corff. Dyna pam na all y llygaid ddweud nad oes angen y dwylo. Dyna hefyd pam na all y pen ddweud nad oes angen y traed. Mewn gwirionedd, ni allwn ddal ati heb y rhannau o'r corff sy'n ymddangos fel y rhai gwannaf. . . . Fe luniodd Duw ein cyrff yn y fath fodd fel bod hyd yn oed y rhannau sy'n ymddangos y lleiaf pwysig yn hollol werthfawr. Fe wnaeth hyn er mwyn i bob rhan o'r corff weithio gyda'i gilydd yn llyfn, gyda phob rhan gofalu am y lleill. Os yw un rhan o'n corff yn brifo, rydym yn brifo drosom. Os yw un rhan o'n corff yn cael ei anrhydeddu, fe fydd y corff cyfan yn hapus.
Felly, yr hyn y mae Paul yn ei egluro yma yw, yn union fel mae pob cell unigol yn cyfrannu at y corff cyfan, rhaid i bob unigolyn chwarae ei ran i sicrhau bod pob cymuned y mae ef neu hi yn perthyn iddi (teulu, ysgol, eglwys, cymdogaeth leol ac ati ) yn gweithio yn y ffordd orau bosibl. Heb gydweithrediad, ac ymdrech ar y cyd, ein hymennydd, ein hesgyrn a’n cyhyrau, ni all y corff weithredu. Yn yr un modd, os nad ydym i gyd yn cydweithio gyda phobl eraill, fe fyddai’r byd yn cael ei barlysu.
Amser i feddwl
Fe fyfyriodd y Santes Teresa ar y ddelwedd hon yn y ffordd ganlynol. Dyma addasiad o’i geiriau:
Nid oes gan Grist gorff yn awr ond eich corff chi,
Na thraed ar y Ddaear ond eich traed chi.
Eich llygaid chi yw’r llygaid y mae’n edrych trwyddyn nhw
Mewn trugaredd ar y byd hwn.
Eich traed chi yw’r traed y mae’n cerdded â nhw
I wneud daioni.
Eich dwylo chi yw’r dwylo
Y mae ef yn bendithio’r holl fyd â nhw.
Eich dwylo chi yw’r dwylo, eich traed chi yw’r traed.
Eich llygaid chi yw’r llygaid, chi yw ei gorff.
Nid oes gan Grist gorff yn awr ond eich corff chi,
Na thraed ar y Ddaear ond eich traed chi.
Eich llygaid chi yw’r llygaid y mae’n edrych trwyddyn nhw
Mewn trugaredd ar y byd hwn.
Nid oes gan Grist gorff yn awr ond eich corff chi.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Bendithia ein dwylo, fel ein bod yn cyffwrdd yr hyn sy’n dda.
Bendithia ein traed, er mwyn i ni allu cerdded ar hyd dy lwybr di.
Bendithia ein llygaid, er mwyn i ni allu edrych â thrugaredd.
Bendithia ein clustiau, er mwyn i ni allu ystyried y rhai sydd mewn angen.
Bendithia ein ceg, er mwyn i ni allu siarad geiriau o gysur.
Amen.