Cwestiynau ac Amheuon
Gall gofyn cwestiynau fod yn ddefnyddiol
gan Ronni Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried pa mor ddefnyddiol yw amau a gofyn cwestiynau.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl, sydd i’w gweld yn Efengyl Ioan 20.24-29, ac sy’n sôn am Thomas yn amau bod Iesu wedi atgyfodi o farw’n fyw. Fe allwch chi naill ai ddarllen adnodau 26 i 29, yn uniongyrchol o’r Beibl, neu ddefnyddio’r aralleiriad sydd yma yn rhan y Gwasanaeth, dan y pennawd Stori Thomas.
Gwasanaeth
- Mae hi'n ffaith gyfarwydd bod plant bach yn holi llawer o gwestiynau. Os gwrandewch arnyn nhw'n siarad, bydd llawer o'u sylwadau ar ffurf cwestiynau. 'Pam mae'r awyr yn las? O ble y daeth hwnna? Ydyn ni yno bellach? . . .'
- Mae'n bwysig bod plant bach yn gofyn cwestiynau - dyna'r ffordd y maen nhw'n dysgu am fywyd. Fel yr ydym yn mynd yn hyn, bydd y math o gwestiynau yr ydym yn eu gofyn yn newid. Fe fyddan nhw'n fwy soffistigedig. Y drafferth yw, yn aml, fyddwn ni ddim yn gofyn cwestiynau rhag ofn i ni ofyn cwestiwn gwirion. Felly, er ein bod o ddifrif eisiau gofyn rhywbeth fel, ‘A fyddech chi'n fodlon ail-adrodd hwnna unwaith eto, os gwelwch yn dda?’ neu, ‘Beth mae'r gair yna'n ei olygu?’ y siawns yw na fyddwn yn gwneud hynny.
- Yn yr un modd, drwy'r oesoedd, mae pobl yn aml wedi ei chael hi'n anodd cwestiynu eu credoau neu systemau ffydd rhag ymddangos fel pe bydden nhw ddim yn wir gredinwyr. Mae stori yn y rhan o'r Beibl sy'n cael ei galw gennym yn Destament Newydd, stori y mae Cristnogion yn meddwl amdani'n aml yn ystod y cyfnod ar ôl y Pasg. Dyma'r stori sy'n rhoi i ni'r dywediad ‘Thomas yr amheuwr’.
Roedd Thomas yn un o ffrindiau agosaf Iesu, un o'i ddisgyblion. Pan fu farw Iesu, roedd Thomas yn ddigalon iawn, yn union fel y disgyblion eraill. Dri diwrnod ar ôl marwolaeth Iesu, fodd bynnag, honnodd rhai o'r disgyblion fod Iesu wedi ymweld â nhw. Nid oedd Thomas yn un o’r rhain. Fe ddywedon nhw wrth Thomas fod Iesu wedi ymddangos iddyn nhw, gan gerdded i mewn i’r ystafell atyn nhw er bod y drws wedi cau. Nid oedd Thomas yn fodlon eu credu a dywedodd:
“Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a’m llaw yn ei ystlys, ni chredaf i byth.” (Ioan 20.25)
Stori Thomas (parhad)
Wythnos yn ddiweddarach, roedden nhw i gyd gyda’i gilydd yn yr un ystafell unwaith yn rhagor pan, yn sydyn, ymddangosodd Iesu am yr ail dro.
Ar yr achlysur hwn, roedd Thomas yn bresennol. Siaradodd Iesu'n uniongyrchol gyda Thomas, gan ddyfynnu'r geiriau yr oedd Thomas wedi eu llefaru, am roi ei fys yn yr union archollion roedd yr hoelion wedi eu gwneud a rhoi ei law yn ystlys Iesu. Roedd Thomas wedi ei syfrdanu gymaint fel y syrthiodd i lawr ar ei liniau o flaen Iesu gan ddatgan Iesu i fod yn Arglwydd ac yn Dduw iddo.
Yn sicr, fe ddaeth Thomas dros ei amheuon. Awgryma hanes iddo farw'n ferthyr flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. - Felly, a oedd Thomas yn anghywir i gwestiynu'r hyn yr oedd y disgyblion eraill wedi ei ddweud wrtho? Onid oedd yn gwneud yr union beth y byddai pob un ohonom wedi ei wneud? Pe byddem ni wedi cael gwybod bod ein harweinydd wedi dod yn ôl o farw, a'i fod yn fyw drachefn ac yn gallu cerdded trwy ddrysau caëdig, mae'n rhesymol i feddwl y byddem wedi ymateb yn yr un modd. Mae'n rhan o'n diwylliant i ofyn cwestiynau, ac mae'n rhywbeth y mae ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ei annog.
- A yw'n iawn i ni ofyn cwestiynau am ein ffydd a'r hyn a gredwn? Yn ddiau mae angen i ni allu gofyn cwestiynau os ydym am aeddfedu yn ein dealltwriaeth o'n ffydd, gan feddwl yn dawel am y cwestiynau ac ymdrechu at gael yr ateb.
Gofynnodd Thomas gwestiynau a chyflwynodd Iesu ei hun fel yr ateb. Mae Cristnogion yn parhau i ymgiprys â'u ffydd wrth iddyn nhw aeddfedu a heneiddio, i'r graddau bod y mwyafrif yn awr yn disgrifio'u bywyd yn y ffydd fel 'taith' - rhywbeth sy'n newid ac yn symud wrth iddyn nhw heneiddio a dod yn fwy profiadol yn y byd. - Y casgliad yw hyn, pan feddyliwn ni am ffydd, os byddwn yn canfod bod llawer o gwestiynau gennym, dylem ofyn y cwestiynau hynny. Fe allech chi ofyn i athro/athrawes Addysg Grefyddol, gweinidog lleol neu unrhyw un yr ydych yn teimlo y byddai, yn eich tyb chi, yn gallu eich helpu mewn rhyw ffordd. Gallech siarad â'ch ffrindiau - efallai mai cwestiynau tebyg yw’r rhai sydd ganddyn nhw hefyd.
Peidiwch byth â bod ofn y bydd pobl yn meddwl llai ohonoch am fynegi amheuon neu am ofyn cwestiynau - bydd y mwyafrif o bobl yn eich edmygu am fod yn onest.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y cwestiynau sydd gennych chi am eich ffydd, neu am ffydd y bobl rydych chi’n eu hadnabod. Pa un cwestiwn yr hoffech chi ei ofyn? Oes yna rywun y gallech chi rannu'r cwestiwn hwnnw gyda nhw?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae adegau pan fyddaf yn meddwl o ddifrif . . .
yn meddwl am y byd a sut mae’n gweithio,
yn meddwl amdanaf fy hun a ble rwy’n ffitio,
ac yn meddwl am y gwahanol grefyddau sy’n bodoli o’m cwmpas.
Helpa fi i ofyn y cwestiynau iawn wrth i mi deithio trwy fywyd.
Helpa fi i wrando wrth i mi geisio clywed yr atebion.
Amen
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2016 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.