Siarad Perthnasedd
Grym meddyliau a damcaniaethau
gan By Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog myfyrwyr i ystyried gwerth meddyliau sy’n digwydd ar siawns.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Daydream’ gan The Lovin' Spoonful, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth. Mae ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=M7u5SdjDSQQ
Gwasanaeth
Arweinydd: Beth ydych chi'n ystyried yw'r foment wyddonol fwyaf erioed? I rai, bydd yn foment o gyflawniad, fel y glaniad cyntaf ar y Lleuad, neu efallai Alexander Fleming yn darganfod penisilin. I eraill, bydd yn foment o brawf, fel y ffrwydrad atomig cyntaf, neu fodel gweithredol gan Tesla o beiriant anwythiad cerrynt eiledol. I rai ohonom, fodd bynnag, gall fod yn ymwneud â damcaniaeth fyddai o bwys dylanwadol enfawr. Byddai damcaniaeth Darwin yn enghraifft o hyn.
Gan mlynedd yn ôl, ar 11Mai, 1916, cyflynwyd damcaniaeth wyddonol neilltuol am y tro cyntaf. Profwyd bod y ddamcaniaeth hon wedi bod o werth amhrisiadwy i'r astudiaeth ym myd ffiseg ac astroffiseg yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Dywed rhai mai cyflwyniad y ddamcaniaeth hon yw'r foment fwyaf arwyddocaol yn ein hanes diweddar. Y ddamcaniaeth dan sylw gennym yw damcaniaeth Albert Einstein sy'n ymwneud â pherthnasedd cyffredinol.
Mae llawer ohonom wedi clywed am hafaliad enwog Einstein, sef E = mc2, sy'n dangos bod swm o ynni yn gyfwerth â swm o fàs wedi ei luosi â chyflymder goleuni wedi ei sgwario. Ond ychydig iawn ohonom mewn gwirionedd sy'n deall beth mae hyn yn ei olygu. Fodd bynnag, mae'r ddamcaniaeth hon a'r hafaliad hwn wedi newid canfyddiadau astroffisegwyr yn arwyddocaol. Mae damcaniaeth Einstein ar berthnasedd cyffredinol wedi arwain at ddarganfyddiadau am dyllau tywyll, sêr corachaidd gwyn a choch, newidiadau yng nghylch orbit y blaned Mercher, syfliadau coch a hyd yn oed y Ffrwydrad Mawr. Mae ei ddamcaniaeth hefyd yn cael effaith ar ein bywydau dydd i ddydd. Mae'r teledu, systemau cyfeiriant GPS, camerâu digidol ac offer sganio prisiau nwyddau mewn archfarchnadoedd i gyd yn cynnwys cymwyseddau ymarferol o ddamcaniaeth Einstein.
Amser i feddwl
Arweinydd:Roedd Albert Einstein yn feddyliwr mawr a oedd yn syllu'n gyson ar yr hyn a oedd yn digwydd yn y byd o'i gwmpas. Roedd yn sylwi ar bobl a gwrthrychau wrth iddyn nhw neidio a disgyn, ac yn sylwi ar bethau fel cloc neu oriawr, ar wrthrychau cynnes ac oer, a gwrthrychau’n symud yn gyflym ac yn araf. Wrth iddo arsylwi, fe feddyliodd feddyliau ar hap yn ogystal â meddyliau rhesymegol. Yr hyn a'i gwnaeth yn arwyddocaol yw ei fod wedi dal at nifer helaeth o'r meddyliau hyn a'u harbrofi, yn y gobaith o gael hyd i wybodaeth ehangach amdanyn nhw.
Rwy'n credu ein bod ninnau hefyd yn feddylwyr mawr. Rwy'n credu bod llawer ohonom yn gallu meddwl, 'beth pe byddai?'. Fe allai’r meddyliau hyn fod amdanom ni ein hunain, ein hamgylchfyd, ein perthnasoedd, am y pethau a wnawn, am y geiriau a lefarwn neu am effaith y math o fywyd yr ydym yn ei fyw. Gall rai meddyliau fod yn gyfan gwbl ar hap, fel ‘Beth pe byddai mefus yn blasu fel caws? neu ‘Beth pe byddai adenydd gan fodau dynol?’ Gall rhai meddyliau eraill fod â gogwydd mwy rhesymegol iddyn nhw, fel ‘Beth fyddai'n digwydd pe byddai gennym un diwrnod o'r wythnos pryd na fyddai neb yn gweithio, ond yn hytrach yn treulio amser gyda'u teuluoedd?’ neu ‘Pam na beintiwn ni groesfannau i bobl groesi’r ffordd yn lliw coch, yn hytrach na du a gwyn?’ Y pwynt pwysicaf yw'r hyn y dylem ei wneud â'n meddyliau.
Un ffordd o roi rhywfaint o werth i'n meddyliau yw trwy gadw cofnod ohonyn nhw ar ddiwedd y dydd. Fyddwn ni ddim yn cofio pob un. Bydd y rhai gwirion yn llithro heibio, ond fe fydd bob amser rywbeth gwerth chweil i ddal gafael ynddo. Mae rhai pobl yn galw'r dechneg hon yn 'siwrnalio' (journaling). Mae'n wahanol i gadw dyddiadur, sydd fel arfer yn gofnod o'r hyn yr ydym wedi ei wneud. Siwrnal yw cofnod o'r hyn sy'n mynd trwy ein meddyliau, ein dychymyg, ein rhesymu a'n barn - yr hyn sy'n ein gwneud ni yn unigolyn.
Y cam nesaf fyddai edrych ar ein siwrnal bob mis neu ddau ac ystyried, gyda pheth ôl feddwl, pa un ai y byddai'n werth rhoi cynnig gweithredu ar un neu ddau o'r syniadau gwell na'i gilydd. Byddai hyn angen un cam syml yn unig, yn enwedig os yw yn ymwneud â'n harferion a'n hymarferion. Os yw hyn yn golygu cael help gan bobl eraill, bydd angen mwy o drefnu. Yr hyn sydd yn bwysig yw ein bod yn rhoi cynnig ar weithredu ein syniadau. Rydym yn arbrofi.
Pa fath o feddyliau ydw i'n sôn amdanyn nhw? Gadewch i ni ddechrau trwy feddwl am rai enghreifftiau yn nes adref. Er enghraifft, gallwn ystyried beth a sut rydyn ni'n bwyta ac yfed, y pethau y byddwn ni’n eu dysgu a sut y gwnawn hynny, sut ydyn ni'n hyfforddi ac yn trefnu ein timau, yr hyn a wnawn dros ein ffrindiau ac aelodau ein teulu, a sut ydyn ni'n trin y rhai ifanc iawn a'r henoed. Gall eich meddwl lithro draw mewn cyfeiriad hollol wahanol, ond mae hynny'n iawn. Fodd bynnag, cofiwch mai dechrau yn unig yw meddwl. Pe byddai Albert Einstein heb fod wedi cofnodi ei syniadau hefyd, a rhoi cynnig gweithredu rhai ohonyn nhw, tybed ymhle y bydden ni heddiw?
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ein meddyliau ac am y pethau y byddwn ni’n meddwl amdanyn nhw ar hap.
Er mai ychydig o reolaeth sydd gennym ar y meddyliau hyn, diolch ei bod hi’n bosib iddyn nhw ein hysbrydoli, a pheri i ni symud i gyfeiriadau newydd, ac i weithredu ar bethau pwysig.
Atgoffa ni o’r syniadau gorau sydd gennym, a helpa ni i fod â’r dewrder i roi cynnig ar y syniadau hyn.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
‘Daydream’ gan The Lovin' Spoonful, ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=M7u5SdjDSQQ