Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Edrych beth ydw i wedi ei wneud!

Creadigaeth Duw a’n creadigaeth ninnau

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi ein creadigrwydd ni, creadigrwydd pobl eraill, a chreadigrwydd yr un a’n creodd ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen blodyn ffres a rhywbeth yr ydych chi eich hunan wedi ei greu ar ryw adeg yn eich bywyd.

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi hefyd lwytho i lawr luniau o rai o’r eitemau y mae sôn amdanyn nhw yng Ngham 1 y gwasanaeth, fel delweddau oTheSimpsons,y darlun enwog Blodau Haul gan Van Gogh, llun oEglwys gadeiriol St Paul’s Llundain ac ati.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr a ydyn nhw’n gwybod pwy a greodd y campweithiau canlynol. (Mae’r atebion mewn cromfachau.)

    -The Simpsons(Matt Groening)
    - Y darlun enwog Blodau Haul - Sunflowers(Vincent Van Gogh)
    -The Angel of the North (Sir Antony Gormley)
    - Eglwys gadeiriol St Paul’s, Llundain (Sir Christopher Wren)
    - Y caneuon ‘Patience’, ‘Shine’ and ‘Rule the world’ (Take That) – neu efallai yr hoffech chi ddewis caneuon gan fand neu gerddor arall!
    Macbeth(William Shakespeare)
    - Y fformiwlaE=mc2(Albert Einstein)
    - Y sgert fini - miniskirt (Mary Quant)
    - Blodyn tlws.(Dangoswch y blodyn naturiol, ffres, sydd gennych chi, a sylwch pa ymateb a gewch chi.)
    - Y gwrthrych hwn.(Dangoswch rywbeth yr ydych chi wedi ei greu ar ryw adeg yn eich bywyd, er mwyn gweld a oes rhywun yn gallu dyfalu mai chi sydd wedi ei wneud!)

  2. Dangoswch y gwrthrych i’r myfyrwyr gael edrych yn fanylach arno a’i drafod. Soniwch wrthyn nhw amdano, gan ddweud pethau fel faint oedd eich oed chi pan wnaethoch chi’r peth hwn? Sut roeddech chi’n teimlo pan wnaethoch chi orffen ei greu?

    Pwysleisiwch ein bod i gyd wedi creu pethau. Efallai nad oedden nhw’n gampweithiau fel rhai Van Gogh a Shakespeare, ond rydyn ni i gyd wedi gwneud pethau rydyn ni’n falch ohonyn nhw. Rydyn ni i gyd yn greadigol yn ein ffordd ein hunain.

  3. Gwrandewch ar y darn canlynol, addasiad ydyw o waith awdur o’r enw Rob Bell. Mae’n sôn am wrthych yr oedd wedi ei wneud pan oedd yn blentyn:

    Pan oeddwn i’n bump oed, fe aethon ni fel teulu i ymweld â fy nhaid a fy nain yng Nghaliffornia yn ystod gwyliau’r Nadolig. Roedden nhw’n byw mewn bloc o fflatiau gydag ale (alley) yn ymyl yr adeilad – lle cyffrous iawn i fachgen oedd wedi arfer byw ar fferm yng nghanol y wlad ym Michigan. Ar ryw bwynt, wrth i mi archwilio’r ale, fe benderfynais wneud anrheg Nadolig i fy nhad gyda’r pethau roeddwn i wedi dod o hyd iddyn nhw yno. Felly, ar fore dydd Nadolig, fe gafodd fy nhad y pleser o agor anrheg o ddarn o beipen ddu a gwyrdd wedi ei gludio ar garreg lwyd fflat gyda cherrig bach gwyn wedi eu gosod y tu mewn iddi.

    Dyna beth oedd campwaith, a dweud y lleiaf!

    Y rheswm pam rwy’n cofio hyn yw am fy mod wedi ymweld â fy nhad yn ei swyddfa ychydig yn ôl. A thra roeddwn i’n aros amdano, nes byddai’r cyfarfod oedd ganddo wedi dod i ben, fe dreuliais ychydig o amser yn edrych ar y darluniau oedd ganddo ar wal y swyddfa a’r pethau oedd ganddo ar y silffoedd. Ar un o’r silffoedd, dyna lle roedd y ‘cerflun darn peipen a cherrig’ – dri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach.

    Mae’n dal i fod ganddo.

    Roedd wedi dod â’r anrheg adre o Galiffornia y Nadolig hwnnw ac wedi ei roi yn ei swyddfa yn 1977, a byth wedi cael ei wared.

    Rydyn ni’n gwybod pam y gwnaeth ei gadw. Mae’r ffordd rydych chi’n trin creadigaeth rhywun yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at yr un sydd wedi creu’r gwrthrych hwnnw.

    (Addasiad o ran allan o’r gyfrol Sex God gan Rob Bell, Zondervan 2007, tt. 27-8, defnyddiwyd trwy ganiatâd Zondervan)

  4. Meddyliwch am y datganiad ‘Mae’r ffordd rydych chi’n trin creadigaeth rhywun yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at yr un sydd wedi creu’r gwrthrych hwnnw.’

    Ydych chi, ryw dro, wedi cael llun wedi ei wneud gan frawd neu chwaer iau, a chithau wedi taflu’r llun wedyn i’r bin?

    Ydych chi, ryw dro, wedi gwneud ymdrech deg i baentio darlun a rhywun wedi dweud wrthych chi, ‘Stick to the day job’?

  5. Mae’r ffordd y mae pobl eraill yn trin rhywbeth y byddwn ni wedi ei wneud yn cael effaith arnom ni. Ac mae beth mae pobl yn ei ddweud am yr hyn y byddwn ni wedi ei wneud yn golygu rhywbeth i ni. Yn yr un ffordd, mae’r modd y byddwn ni’n trin yn hyn mae eraill wedi ei wneud a’r hyn fyddwn ni’n ei ddweud am y pethau hynny’n golygu llawer i bobl eraill hefyd.

Amser i feddwl

Dangoswch y blodyn, a gofynnwch y cwestiynau canlynol.

- Pwy wnaeth y blodyn tlws hwn?
- Pwy wnaeth y sêr yn yr awyr, yr afonydd a’r coed?
- Pwy wnaeth y blaned Daear a phopeth sydd arni?

Mae llawer o bobl yn credu mai Duw wnaeth greu’r byd a phopeth sy’n byw ynddo. Mae’r greadigaeth yn wirioneddol ryfeddol! Fyddai dim un ohonom ni’n gallu dod yn agos at greu’r hyn y mae Duw wedi ei greu, ond fe all pob un ohonom ddefnyddio ein doniau creadigol mewn rhyw ffordd.

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am y pethau hardd sydd yn y byd o’n cwmpas.

Gadewch i ni gofio bod y ffordd rydyn ni’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu’r ffordd rydyn ni’n teimlo tuag at ei chreawdwr.

Gadewch i ni feddwl am . . .

. . .y fforestydd glaw sy’n cael eu dinistrio. . .
. . .y moroedd sy’n cael eu llygru. . .
. . .difodiant anifeiliaid sy’n cael eu hela. . .
. . .gwydr wedi torri ar lawr mewn parciau. . .
. . .sbwriel sy’n llanast ar strydoedd. . .
. . .graffiti ar waliau. . .
. . .pobl sy’n gwrthod helpu rhai sydd angen eu help. . .
. . .pobl sy’n chwerthin am ben pobl eraill sy’n wahanol iddyn nhw. . .
. . .pobl sy’n cael eu brifo oherwydd yr hyn rydyn ni’n ei ddweud a’i wneud . . .

Mae’r ffordd rydyn ni’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu’r ffordd rydyn ni’n teimlo tuag at ei chreawdwr.

Gweddi
Dduw’r Creawdwr, rydyn ni’n diolch i ti am bopeth rwyt ti wedi ei wneud.
Mae’n ddrwg gennym nad ydyn ni, ambell waith, yn gofalu am dy greadigaeth fel y dylem ni.
Helpa ni i geisio gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

What a wonderful world’ gan Louis Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon