Aros am y Pentecost
Gwyl Gristnogol y Pentecost
gan Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Egluro Gwyl Gristnogol y Pentecosta pherthnasedd yr wyl i ni heddiw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen eitem o ddiddordeb a fydd yn cael ei harchwilio a’i disgrifio yng Ngham 4 y gwasanaeth. Fe allai fod yn addurn, yn eitem o ddillad neu’n rhywbeth tebyg. Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o bapur a phinnau ysgrifennu.
- Efallai yr hoffech chi drefnu i rywun ddarllen y gerdd yng Ngham 2 y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Mae'r term Pentecost yn golygu ‘hanner canfed dydd’. Mae Cristnogion yn defnyddio'r gair hwn oherwydd maen nhw'n dathlu'r wyl neilltuol hon 50 diwrnod ar ôl Sul y Pasg, dydd atgyfodiad Iesu. Efallai eich bod hefyd wedi clywed y Pentecost yn cael ei alw'n Sulgwyn, sef y ‘Sul Gwyn’.
Mae’r Pentecost yn achlysur pwysig yn y calendr Cristnogol oherwydd mae'n nodi'r adeg pan ddisgynnodd yr Ysbryd Glân o'r nefoedd i fyw yn y rhai oedd yn credu yn Iesu. Mae Cristnogion yn credu, pan ddychwelodd Iesu i'r nefoedd, bod Duw wedi anfon ei Ysbryd Glân i fyw am byth wedyn gyda'i ddilynwyr. - Darllenwch y gerdd ganlynol sy’n disgrifio teimladau’r disgyblion (dilynwyr Iesu) ar achlysur y Pentecost cyntaf.
‘Pum deg diwrnod o aros’
(Addasiad o’r gerdd 'Fifty days of waiting' gan Vicky Scott)
Eistedd, sefyll, cerdded yn ôl a blaen,
Siarad, oedi, casáu y fath straen,
Amau, gan obeithio, syllu a phendroni,
Wedi fferru’n llonydd gyda theimlad o fod yn boddi.
Syfrdan, tawel, hurt a syn,
Wedi’n brawychu, ac yn rhyfeddu at hyn.
Daw gwynt mor gryf i’n clustiau nes peri poen ofnadwy,
A thafodau o dân yn disgyn o’n cwmpas yn genlli.
Beth sy’n digwydd i ni yma, ar foment o ddychryn?
Mae’r iaith yn anhysbys, ond yn glir i bawb wedyn.
Beth yw’r ymweliad hwn o’r uchelder?
Dydyn ni ddim yn swil mwyach, ond yn llawn hyder.
Pobl yn syllu yn wawdlyd gan wenu,
Yn credu ein bod yn feddw neu wedi gwallgofi.
Ond yn sydyn, fe safodd un dyn i egluro
Bod Iesu wedi mynd, ond bod ei Ysbryd Glân yno. - Mae Cristnogion yn credu bod Iesu yn Dduw cyflawn, ond maen nhw'n credu hefyd ei fod, hefyd, yn ddynol gyflawn. Mae hyn yn golygu ei fod yn gyfyngedig trwy fod mewn corff dynol, i allu bod mewn un lle yn unig ar unrhyw amser. Fodd bynnag, ysbryd yw'r Ysbryd Glân, sy'n gallu bod gyda llawer iawn o fodau dynol. Nid yw ef yn gyfyngedig o gwbl.
Pan oedd Iesu ar fin ymadael â'i ddilynwyr adeg y Dyrchafael, fe'u sicrhaodd y byddai ei ymadawiad oddi wrthyn nhw yn fanteisiol iddyn nhw. Doedden nhw ddim yn deall hyn – roedden nhw'n caru Iesu ac am iddo aros gyda nhw i ledaenu ei neges am obaith a maddeuant. Wnaethon nhw ddim sylweddoli y byddai dyfodiad yr Ysbryd Glân, ymhen deg diwrnod wedyn, yn eu newid am byth.
Mae hanes dyfodiad yr Ysbryd Glan yn cael ei ddisgrifio ym Mhennod 2 o Lyfr yr Actau. - Gofynnwch am dri neu bedwar o wirfoddolwyr. Rhowch ddarn o bapur i bob un ohonyn nhw a gosodwch wrthrych o’u blaen. Gofynnwch i'r gwirfoddolwyr ysgrifennu disgrifiad o'r gwrthrych. Caniatewch 30 eiliad iddyn nhw wneud hyn. Darllenwch ddisgrifiad bob person yn ei dro, gan amlygu'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw.
Nodwch pan fydd gwahanol bobl yn edrych ar yr un gwrthrych, maen nhw'n ei ddisgrifio'n mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol; mae hyn oherwydd eu safbwyntiau unigol. Gellir cymhwyso'r un syniad i ddydd y Pentecost: roedd disgyblion Iesu wedi dod at ei gilydd mewn goruwch ystafell pan ddaeth yr Ysbryd Glân i lawr o'r nefoedd a glanio ar bob un ohonyn nhw. Yn sydyn, roedden nhw'n teimlo ac yn swnio'n wahanol, ac aeth pob un ohonyn nhw allan i'r stryd i ddweud wrth bobl am Dduw. Fodd bynnag, tystiodd y bobl ar y stryd, a welodd y digwyddiad hwn mewn ffordd wahanol - gwelodd rhai o’r bobl grwp o ddynion a merched wedi dod at ei gilydd ar eu stryd, yn edrych ac yn ymddwyn fel pe byddan nhw wedi meddwi, oherwydd roedden nhw parablu'n barhaus mewn ieithoedd dieithr. Fe safodd pobl eraill mewn rhyfeddod ac yn dymuno cael gwybod mwy. - Roedd y dyfodiad hwn o’r Ysbryd Glân ar y dechrau wedi newid y disgyblion mewn ffordd nad oedd neb arall yn deall. Roedden nhw wedi cael eu trawsffurfio o fod yn bobl ddigalon, di-gyfeiriad, i fod yn grwp eofn a hyderus. Yn dilyn y profiad hwn, teithiodd y disgyblion i lawer o leoedd, gan ddweud wrth lawer o bobl am Iesu. Yn y pen draw, cafodd llawer ohonyn nhw eu merthyru o ganlyniad i'w ffydd. Ond roedd eu cyfarfyddiad yn ystod y Pentecost wedi eu cymell i ddal ati gyda'u gwaith o efengylu ar ben eu hunain heb Iesu.
Amser i feddwl
Mae Cristnogion yn credu bod Duw eisiau i'r rhai sy'n credu ynddo beidio â theimlo'n unig byth eto, felly fe anfonodd yr Ysbryd Glân i fyw ar y cyd â phob un o'i ddilynwyr. Roedd dilynwyr Iesu angen cael eu hatgyfnerthu; roedden nhw am gael gwybod nad oedden nhw ar ben eu hunain wrth gerdded ar eu taith trwy fywyd. Roedden nhw angen help, arweiniad a sicrhad fel eu bod yn gallu ymdopi â pha beth bynnag a fyddai’n dod i’w rhan.
Nid oes gwarant y bydd ein bywydau'n hawdd. Bydd pawb ohonom yn wynebu colled, cael ein gwrthod, ac yn profi cyfnodau o dristwch ar adegau. Fodd bynnag, dydyn ni ddim ar ben ein hunain ar ein taith. Pa un ai eich bod yn credu mewn Duw neu fod goruchaf, neu'n syml yn tynnu o'r nerth mewnol sydd gennych, fe fyddwch yn gallu ymdopi â pha beth bynnag a ddaw i’ch rhan. Rydym wedi ei hamgylchynu ag aelodau ein teulu, ffrindiau ac athrawon, ac mae'r bobl hyn ar gael i'n hannog ni i ddyfalbarhau a llwyddo mewn bywyd. Does dim pwynt ymguddio mewn goruwch ystafell.
Yn union fel yr oedd yr ymateb i'r Ysbryd Glân yn gymysglyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl, gyda phobl yn dewis dehongli'r digwyddiadau mewn gwahanol ffyrdd, gall pobl gyrraedd at eu casgliadau eu hunain am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd a sut y gall hynny gael effaith arnom yn awr. Pa ffynhonnell o ysbrydoliaeth sydd gennych chi i'ch helpu drwy eich bywyd?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bob un sy'n ein hysbrydoli heddiw: ein teuluoedd, ein ffrindiau a'r bobl sy'n ofalgar tuag atom.
Boed i ni fod yn ysbrydoliaeth i'r rhai o'n hamgylch drwy fod yn ofalgar tuag atyn nhw a rhoi gobaith iddyn nhw, wrth i ni gerdded trwy ein bywyd gyda’n gilydd.
Amen.