Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffyn a chryfder

Rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd

gan Oliver Harrison (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos ein bod yn gryfach pan fyddwn ni gyda’n gilydd na phan fyddwn ni’n gweithredu ar ben ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ffyn pren bach o’r un hyd a’r un maint â’i gilydd, er enghraifft, prennau coctel, sgiwers pren neu nifer o brennau lolipops rhew. Neu, os byddai’n well gennych chi, fe allech chi dorri stribedi o gerdyn o’r un trwch a maint, gan wirio faint ohonyn nhw y gallech chi eu rhwygo neu eu torri ar unwaith wedi i chi eu gosod gyda’i gilydd.

  • Nodwch: ceisiwch ymarfer hyn yn ofalus o flaen llaw fel y gallwch chi wybod beth i’w ddisgwyl, ac er mwyn gofalu bod gennych chi ddigon o’r ffyn neu’r stribedi cerdyn!

  • Fe fydd arnoch chi angen hen gyfeirlyfr ffôn hefyd.

  • Dewisol: trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Let’s stick together’ gan Bryan Ferry, a’r modd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae dywediad Cymraeg, ‘Mewn undeb mae nerth’, neu efallai eich bod wedi clywed y dywediad Saesneg, ‘There's strength in numbers’. Ond beth mae hynny’n ei olygu? 
    Eglurwch yr ystyr, sef bod llawer gyda’i gilydd yn gryfach na phan fyddan nhw ar wahân neu’n gweithredu’n unigol.

    Dangoswch y ffyn pren neu’r stribedi cerdyn i’r myfyrwyr. Gofynnwch am help gwirfoddolwr. Rhowch un ffon iddo ef neu hi i’w thorri yn ei hanner. Yna, gofynnwch iddo ef neu hi dorri dwy ffon gyda’i gilydd, yna pump, deg, ac ymlaen.... Ceisiwch weld beth fydd y nifer fwyaf o ffyn y mae’n bosib eu torri gyda’i gilydd. 

    Gofynnwch am wirfoddolwr arall ac ailadrodd y broses. Faint o ffyn y bydd yntau neu hithau’n gallu eu torri wrth eu rhoi’n fwndel gyda’i gilydd?

  2. Siaradwch am gryfder mewn nifer. Rydym wedi gweld bod llawer gyda’i gilydd yn gryfach na phan fyddan nhw’n cael eu cymryd yn unigol.

  3. Gofynnwch am wirfoddolwr arall, a gofyn iddo ef neu hi rwygo’r cyfeirlyfr ffôn yn ei hanner (ar draws y tudalennau nid lawr y meingefn) – mae’n dasg amhosib.

    Ambell dro mae o fantais enfawr i ni weithio gyda’n gilydd – rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd. Ond weithiau, fe fydd arnom ni angen torri pethau i lawr i dasgau y mae’n bosib eu rheoli’n haws. Os gwnawn ni rannu tasg sy’n anodd yn rhannau haws eu trin, fe allwn ni gyflawni pethau a fyddai fel arall yn amhosib. Roedd yn dasg amhosib rhwygo’r llyfr cyfan yn ei hanner, ond, fe fyddai’n hawdd iawn rhwygo pob tudalen yn unigol un ar y tro.

  4. Mae Cristnogion yn credu bod Duw mewn tair rhan - Y Tad, Y Mab, a’r Ysbryd Glân. Mae Cristnogion yn credu hefyd bod Duw eisiau i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn creu cymuned neu ysgol sy’n gytûn a hapus. Pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, naill ai yn y dosbarth neu mewn tîm chwaraeon dywedwch, fe fyddwn ni’n cyflawni mwy wrth gydweithio, a bod fel un.

  5. Pan fydd llawer yn dod yn un, rydyn ni’n llawer cryfach.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y timau a’r grwpiau rydych chi’n perthyn iddyn nhw. Sut gallwn ni gefnogi ein gilydd eleni? Ydyn ni weithiau’n gwneud rhywbeth sy’n tanseilio’r ymdeimlad o dîm ac ysbryd y tîm?

Treuliwch foment neu ddwy’n meddwl am sut y gallech chi fod yn fwy cefnogol tuag at eich ffrindiau, aelodau eich teulu, ac aelodau eich dosbarth, yn ogystal ag i unrhyw dîm rydych chi’n perthyn iddo.

Ysgrifennodd John Donne wrote, ‘No man is an island, Entire of itself...'Beth ydych chi’n ei feddwl yw ystyr hynny?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ein bod yn well gyda’n gilydd nac ar ben ein hunain.
Diolch i ti am deulu ac am ffrindiau sy’n ein cryfhau a’n cefnogi ni.
Helpa ni i ystyried anghenion pobl eraill, ac i geisio eu helpu pa bryd bynnag ac ym mha ffordd bynnag y byddwn yn gallu.
Helpa ni i fod yn ofalgar tuag at bobl sy’n teimlo’n unig.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Let’s stick together’ gan Bryan Ferry

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon