Gwneud popeth yn eich gallu
Mae bywyd Maximilian Kolbe yn ein hysbrydoli i aberthu ein hunain mewn cariad
gan Claire Law
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Defnyddio bywyd Maximilian Kolbe i archwilio manteision kenosis (cariad hunanaberthol) ac archwilio sut y gallai hyn effeithio ar ein bywydau ein hunain.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Giving your all) a’r modd o’u dangos.
- Efallai y byddwch yn dymuno trefnu bod cerddoriaeth dawel, fyfyriol gennych chi, a'r modd o’i chwarae yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am rywun y maen nhw'n ei garu. Gall fod yn rhiant, yn nain neu daid (mam-gu/tad-cu), brawd, chwaer, aelod arall o'r teulu neu ffrind.
- Dychmygwch fod pen-blwydd y person hwn yn digwydd yn y dyfodol agos. Y mha ffordd y gallwn ni ddangos ein cariad a'n gwerthfawrogiad ohonyn nhw?
Os yn briodol, gwrandewch ar amrediad o awgrymiadau.
Dangoswch Sleidiau 2-5, sy’n cynnwys rhai atebion posib.
- Beth sy'n gyffredin rhwng y cyfan o'r enghreifftiau hyn?
Yr ateb yw bod y cyfan o'r enghreifftiau hyn yn ymwneud â math o gariad sy'n cael ei alw'n ‘kenosis’.
Dangoswch Sleid 6.
Gair o'r iaith Roeg yw kenosis sy'n golygu ‘cariad hunanaberthol’. Mae'n cyfeirio at weithred o gariad lle y byddwn yn gwacáu ein calonnau o unrhyw hunanoldeb, ac yn lle hynny’n rhoi rhywbeth i berson arall. Gall hyn olygu rhoi anrheg yr ydym wedi ei brynu, yn yr achos hwn yr ydym yn rhoi ein harian a hefyd ein hamser wrth fynd ati i ddewis yr anrheg. Gall olygu ein bod yn rhoi ein hamser a defnyddio ein doniau i wneud anrheg neu dreulio amser gyda rhywun neilltuol, neu yn rhoi ein hamser a'n hymdrech i wasanaethu pobl eraill.
- Mae sawl rheswm pam y mae kenosis - cariad hunanaberthol - yn bwysig.
- Pan fyddwn yn rhoi rhywbeth arbennig i rywun arall, byddwn yn eu bendithio a dangos ein cariad tuag atyn nhw a'n gwerthfawrogiad ohonyn nhw. Mae hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo'n dda.
- Pan wnawn ni hyn, fe fyddwn ninnau, yn ein tro, yn teimlo'n dda ynom ein hunain - mae gwneud rhywbeth neu roi rhywbeth i berson arall yn ennyn teimlad cadarnhaol
- mae'n herio unrhyw hunanoldeb y gallwn fod yn euog ohono.
- Rhywun a oedd yn ddeall o ddifri y syniad o gariad hunanaberthol oedd Maximilian Kolbe. Roedd ei enghraifft ef o kenosis yn ymwneud â'r aberth eithaf a gallwn ddysgu llawer oddi wrtho.
Dangoswch Sleid 7.
Un o'r brodyr (mynach) Ffransisgaidd yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd oedd Maximilian Kolbe. Yn ystod y rhyfel, trefnodd ysbyty dros-dro a helpu i roi lloches i ffoaduriaid, yn cynnwys 2,000 o Iddewon, ac fe lwyddodd i'w cuddio rhag y Natsïaid. Yn y flwyddyn 1941, cafodd ei restio a'i garcharu. Cafodd ei gludo i wersyll crynhoi Auschwitz fel carcharor rhif 16770.
Yn parhau i weithredu fel offeiriad, fe aflonyddwyd yn dreisgar iawn ar Kolbe, a chafodd ei guro, a'i fflangellu hyd yn oed. Ar ddiwedd mis Gorffennaf 1941, diflannodd tri charcharor o'r gwersyll. Anogodd y digwyddiad hwn i’r gwarchodwr Natsïaidd, a oedd yn rheoli’r gwersyll, ddewis deg o ddynion i gael eu symud i gell danddaearol a'u llwgu i farwolaeth er mwyn atal unrhyw ymgais pellach i ddianc.
Roedd un o'r dynion a ddewiswyd yn dad. Pan gafodd ei enwi, fe waeddodd, ‘Fy ngwraig druan! Fy mhlant druan!’ Pan glywodd Kolbe hyn, gwirfoddolodd i gymryd lle'r dyn oedd wedi ei ddewis. Mewn gweithred o gariad hunanaberthol, fe ddewisodd Kolbe fynd i'r gell lle byddai'n cael ei lwgu'n araf i farwolaeth, gan gymryd lle'r dyn arall.
Rhoddwyd Kolbe yn y gell danddaearol gyda'r naw carcharor arall. A hyd yn oed yn y gell danddaearol, fe barhaodd Kolbe i weithredu'n gariadus tuag at y lleill trwy arwain y carcharorion mewn gweddi, a chanu iddyn nhw. Yn y pen draw, bu farw Kolbe. Mewn cydnabyddiaeth o'i gariad hunan aberthol a'r aberth mawr a wnaeth, cafodd ei wneud yn sant gan yr Eglwys Gatholig. Mae Cristnogion drwy'r byd yn gweld fod Kolbe yn dilyn esiampl Iesu, trwy roi ei hun er mwyn dangos cariad tuag at eraill. Yn y pen draw, fe ddychwelodd Franciszek Gajowniczek, sef y dyn y gwnaeth Kolbe ei achub, at ei wraig a’i deulu a chafodd fyw nes ei fod yn 95 mlwydd oed.
Amser i feddwl
Eglurwch eich bod yn mynd i holi cyfres o gwestiynau. Byddwch yn oedi ar ôl gofyn pob cwestiwn er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr feddwl. Efallai y byddwch yn dymuno chwarae cerddoriaeth dawel, fyfyriol yn ystod y cyfnod hwn pan fydd y cwestiynau’n cael eu darllen.
Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth hanes bywyd Maximilian Kolbe?
Saib i feddwl.
Rhoddodd Kolbe bopeth yn gyfan gwbl er mwyn helpu rhywun arall. Roedd yn byw mewn cyfnod o hanes eithafol ac anodd iawn. Yma heddiw, yn (rhowch enw eich ysgol, tref neu ddinas ), pa weithred fach o gariad hunanaberthol allwn ni ei gwneud i helpu ein cymuned?
Saib i feddwl.
A oes yna rywun y gallech chi ddangos cariad hunanaberthol ato ef, neu ati hi, heddiw?
Saib i feddwl.
Pa bethau sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi roi eich amser, eich doniau, eich arian a'ch talentau i helpu eraill?
Saib i feddwl.
Sut ydych chi'n teimlo pan fydd rhywun yn dangos cariad hunanaberthol atoch chi? A yw'r teimlad hwn yn eich helpu i'ch cymell chi i ddangos cariad hunanaberthol tuag at eraill?
Saib i feddwl.
Pa air sy'n dod i flaen y meddwl pan ydych chi’n ystyried esiampl Maximilian Kolbe?
Saib i feddwl.
Pa wers allwch chi ei dysgu oddi wrth ei fywyd a'i farwolaeth?
Saib i feddwl.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Yn Iesu, gwelwn yr enghraifft berffaith o gariad hunanaberthol pan fu farw ar y groes.
Rydym yn diolch i ti am hyn.
Ym mywyd Maximilian Kolbe, gwelwn enghraifft o sut beth yw kenosis mewn sefyllfa eithafol ac anodd iawn.
Diolchwn i ti am yr enghraifft hon.
Diolch i ti am y rhai sy'n dangos cariad hunanaberthol tuag atom.
Helpa ni i weld y gweithredoedd bach o gariad hunanaberthol y gallwn ni eu cyflawni heddiw, afydd yn dangos cariad tuag at eraill.
Amen.