Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim ond 20 munud

Gall amser byr iawn wneud gwahaniaeth mawr

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gall ein defnydd o ddim ond 20 munud wneud gwahaniaeth i'n bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gân ‘Tomorrow’ o’r ffilmBugsy Malone.

Gwasanaeth

  1. Sawl gwaith rydych chi wedi teimlo eich bod â gormod o bethau i’w gwneud? Mae gennych chi draethawd i’w ysgrifennu, darn o waith cwrs y mae’n rhaid i chi ddechrau arno, heb sôn am ei gwblhau, sydd i fod i gael ei gyflwyno yfory, rhaid i chi wneud eich dewisiadau UCAS, a’ch dewisiadau ar gyfer lefel A, ac mae angen i chi adolygu eich gwaith ar gyfer yr arholiadau ‘mocks’, ac ar gyfer eich arholiadau terfynol wedyn. . . mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Fe allai dim ond meddwl am yr holl bethau hyn wneud i chi fod eisiau sgrechian, crio neu redeg i ffwrdd i rywle i guddio neu, fwy na thebyg, wneud yr holl bethau hyn gyda’i gilydd i gyd ar unwaith.

  2. Rwy’n siwr bod adegau pan fydd y rhwystrau hyn y mae’n rhaid i chi ymdopi â nhw yn ymddangos fel mynyddoedd mawr i’w dringo. Maen nhw’n ymddangos yn anferth ac yn anorchfygol, a chithau’n teimlo nad oes unrhyw ffordd bosib i chi eu concro. Efallai bod y pethau y mae angen i chi fynd i’r afael â nhw mor enfawr fel eich bod  yn penderfynu nad ydych chi am roi cynnig arni hyd yn oed. Neu, efallai y byddwch chi’n penderfynu gohirio dechrau ar y gwaith tan yfory neu’r diwrnod hwnnw, rywbryd yn y dyfodol, pan fyddwch chi’n teimlo fel dechrau arni.

  3. Mae’r gair Saesneg am y weithred o oedi neu ohirio rhywbeth, sef ‘procrastination’ yn golygu ‘the action of delaying or postponing something’. Yn yr iaith Ladin, mae’r gair ‘pro’ yn golygu 'ymlaen' a ‘cras’ yn golygu 'yfory'. Yn y ffilm, Bugsy Malone, mae’r cymeriad yn canu cân sy’n cynnwys y geiriau, ‘Tomorrow/ Tomorrow never comes’. Gall ‘procrastination’ olygu na fyddwn ni byth yn canolbwyntio: fydd y broblem ddim yn cael ei datrys, a’r pethau ddim yn cael eu gwneud. Pan fydd yn rhaid mynd ati, yn y pen draw, i wneud rhywbeth, gall y straen fod yn enfawr a fydd y gwaith ddim yn cael ei wneud mor dda ag y gallai fod.

  4. Fodd bynnag, fyddai ddim yn beth da i’ch arwain chi o’r gwasanaeth hwn heddiw gyda theimlad o banig yn cynyddu o’ch mewn, ynghylch methu cyflawni’r pethau y mae angen i chi eu gwneud. Felly, gadewch i ni feddwl am bethau gan bwyll bach, ac yn nhermau cyfnodau byr: am gyfnod mor fyr ag 20 munud ar y tro efallai. Er mwyn gallu canolbwyntio, mae angen i chi feddwl yn nhermau cyfnodau bach nid oriau maith – efallai nad yw hynny’n gwneud llawer o synnwyr i chi ar y funud. Mae eich problemau’n ymddangos yn broblemau mawr. Mae cymaint i’w wneud, a finnau wedi amlygu hynny mewn ffordd ddigon diflas, o bosib, heddiw. Ond beth am i chi geisio meddwl am un o’r pethau lleiaf y gallwch chi feddwl am eu gwneud mewn tua 20 munud? Fyddech chi’n gallu eistedd i lawr a chyfansoddi symffoni, neu’r darn hwnnw o waith cwrs? Na. Fyddech chi’n gallu cyfansoddi ychydig o farrau, neu adran, dywedwch – efallai gwerth tua 20 munud? Fyddech chi’n gallu eistedd wrth biano am ddim ond 20 munud, fyddech chi’n gallu eistedd wrth eich desg neu o flaen eich cyfrifiadur am ddim ond 20 munud, heb i ofn, neu banig, neu hunanfeirniadaeth amharu arnoch chi? Gallwch, fe allwch chi wneud hynny.

  5. Ar ôl i chi weithio 20 munud ar y dasg, efallai y byddwch chi’n teimlo y gallech chi wneud 5 munud mwy. Wedyn, fe fyddwch chi rywfaint o’r ffordd i fyny ochr y ‘mynydd’ hwnnw, ac yn gweld eich bod yn dechrau cyflawni. Ac fe fydd hynny i gyd, fel y gwyddom ni, yn gwneud i chi deimlo’n well. Unwaith rydych chi wedi dechrau cymryd cam neu ddau, hyd yn oed camau bach iawn, rydych chi ar eich ffordd! Bob yn gam bach ar y tro, yn y pen draw, fe fydd hynny’n eich arwain at gyflawni popeth y gwnaethoch chi feddwl fyddech chi byth yn gallu eu gwneud.

Amser i feddwl

Gadewch i ni oedi a meddwl am y pethau sy'n peri mwyaf o bryder i ni. Gadewch i ni benderfynu rhannu’r materion hyn yn rhannau y gallwn ni ymdopi â nhw, fesul tipyn bach, ychydig ar y tro. Gadewch i ni gymryd eiliad i atgoffa ein hunain, hyd yn oed os ydym yn teimlo’n ofnus ac yn cael ein llethu, bod y tasgau yn dasgau y gallwn ni eu cyflawni. Os ydyn i’n meddwl yn nhermau materion bach, mae’r materion mawr yn cael eu torri i lawr ac yn dod yn haws eu trin.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rho i mi nerth i sylweddoli y gall 20 munud wneud yr holl wahaniaeth.
Helpa fi pan fyddaf yn teimlo dan bwysau.
Helpa fi i fynd i’r afael â materion bach ychydig ar y tro.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol: efallai yr hoffech chi chwarae’r gân ‘Tomorrow’ o’r ffilmBugsy Malone.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon