Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

A yw delwedd yn cyfrif?

Rhyfedd y’n gwnaed!

gan Revd Sophie Jelley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Deall bod Duw’n gwerthfawrogi pobl fel y maen nhw, yn hytrach nag yn ôl eu hymddangosiad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen detholiad o gylchgronau sy'n addas ar gyfer grwp oedran eich cynulleidfa a’r cyd-destun cymdeithasol yn eich gwasanaeth. (Gall cylchgronau fod yn ddrud – felly ceisiwch weld os gallwch chi fenthyca rhai, neu ddefnyddio rhai sydd wedi cael eu hanfon i’w hailgylchu!)

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos delweddau o enwogion sydd yn enwog am eu hedrychiad, ond nid yw hyn yn hanfodol.

  • Efallai y byddwch yn dymuno gofyn i fyfyriwr ddarllen rhai adnodau o’r Beibl, Salm 139.13–16.

  • Efallai y byddwch hefyd yn dymuno cael cerddoriaeth dawel, adlewyrchol ar gyfer ei chwarae yn ystod y gwasanaeth, ac os felly fe fydd arnoch chi angen trefnu’r modd o chwarae’r gerddoriaeth honno.

Gwasanaeth

  1. Pwy sy’n prynu cylchgronau i’w darllen?

Dangoswch rai o’r detholiad cylchgronau sydd gennych chi gan fflicio drwyddyn nhw.

Ydych chi, ryw dro, wedi meddwl am y lluniau o bobl yr ydych yn eu gweld yn y math yma o gylchgronau?

Efallai mai pobl yr un oed â chi yw rhai ohonyn nhw - meddyliwch am sut mae’r bobl hyn yn edrych.

  1. Allwch chi feddwl am rai geiriau i ddisgrifio'r bobl hynny? Mae'n eithaf tebygol y gallen nhw fod yn denau, yn edrych yn ffasiynol, ac yn berchen ar ddannedd syth, perffaith, a chroen clir.

  2. Does dim angen i chi edrych o gwmpas yr ystafell i wybod nad oes unrhyw un ohonom yn union yr un fath, ac nid yw rhan fwyaf o bobl yn edrych fel y bobl y gwelwn ni eu lluniau mewn cylchgronau. Fe fyddai’n anniddorol iawn pe byddem i gyd yn edrych yr un peth! Mae pawb yn unigryw - mae Cristnogion yn credu bod pob unigolyn yn arbennig a phob unigolyn yn bwysig yng ngolwg Duw.
    Gofynnwch i fyfyriwr ddarllen adnodau o Salm 139.13-16.

    Ti a greodd fy ymysgaroedd,
    a’m llunio yng nghoth fy mam.
    Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol;
    ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol,
    Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
    ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
    pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
    ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
    gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
    y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
    cafodd fy nyddiau eu ffurfio 
    pan nad oedd yr un ohonynt. 

  3. Mae hyn yn golygu, sut bynnag yr ydym yn edrych, beth bynnag y gallen ni fod yn ei feddwl amdanom ni ein hunain ar hyn o bryd, a beth bynnag mae pobl eraill yn ei ddweud amdanom ni, mae'r Beibl yn dweud bod yr holl bobl yn cael eu gwneud mewn ffordd ryfeddol iawn, wedi eu creu ar ddelw Duw, ac yn cael eu caru ganddo.

Amser i feddwl

Meddyliwch amdanoch eich hun - sut ydych chi'n teimlo amdanoch chi eich hun ar hyn o bryd? Sut ydych chi'n teimlo am eich corff, eich meddwl, eich teimladau a'ch perthnasoedd?

Cofiwch eich bod wedi cael eich gwneud mewn ffordd ‘ryfeddol’ (‘fearfully and wonderfully made’ sy’n cael ei nodi yn y fersiwn Saesneg o’r Salm).

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y geiriau ‘rhyfedd y’n gwnaed’ a ‘fearfully and wonderfully made’.
Helpa ni i gredu’r geiriau hyn, ac i sylweddoli eu bod yn wir amdanom ni ein hunain heddiw.
Helpa fi i weld, beth bynnag rydw i wedi bod yn ei feddwl, a beth bynnag y gallai pobl eraill fod yn ei ddweud amdanaf fi, rwyt ti’n fy ngwerthfawrogi i a minnau’n werthfawr yn dy olwg di.
Diolch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon