Ydych chi wedi bod ar goll?
Pa ffordd awn ni?
gan Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried pwysigrwydd arweiniad a chyfarwyddyd yn ein bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o eitemau sy'n helpu i ddangos y ffordd i bobl, pethau fel satnav, tortsh, map, cwmpawd a chloch.
Gwasanaeth
- Dangoswch i'r myfyrwyr yr eitemau rydych chi wedi eu casglu ynghyd, a gofynnwch iddyn nhw beth sydd gan yr holl wrthrychau’n gyffredin. Yr ateb yw eu bod i gyd yn gyfryngau sy’n gallu ein helpu ni pan fyddwn ni ar goll, ac maen nhw’n ffyrdd o ddarparu arweiniad i ni. Esboniwch eich bod yn mynd i ddweud stori heddiw am deithiwr oedd ar goll, sef dyn o’r enw William Davis.
Yn Hampshire, yn Lloegr, yn y 18fed ganrif, roedd William Davis yn marchogaeth ei geffyl tua’i gartref pan ddisgynnodd niwl trwm trwchus a’i amgylchynu. Yn fuan iawn fe sylweddolodd ei fod wedi colli ei ffordd. Ond yn sydyn, fe glywodd glychau ei eglwys yn dechrau canu, felly mae'n dilyn y sain a mynd i’r cyfeiriad hwnnw, a thrwy wneud hynny mae’n cyrraedd adref yn ddiogel. Yn ddiweddarach, fe sylweddolodd hefyd ei fod wedi bod yn agos iawn, o bosib, at y pyllau sialc yn yr ardal pan oedd ar goll yn y niwl. Pyllau oedd y rhain a oedd ag ochrau serth iawn iddyn nhw. Pe byddai wedi mynd ymhellach, fe allai fod wedi cwympo dros y dibyn i mewn i’r chwarel a chael ei ladd.
Pan fu farw Mr Davis yn 1754, fe adawodd arian yn ei ewyllys. Roedd yr arian i gael ei ddefnyddio i dalu'r canwyr clychau am ganu clychau’r eglwys ddwywaith ar 7 Hydref bob blwyddyn, am 6.30am a 7pm, mewn gwerthfawrogiad am yr help a gafodd gan y clychau pan oedd ar goll.
- Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am adeg pan fuon nhw ar goll ryw dro. Efallai eu bod yn mynd am dro mewn coedwig ac wedi colli eu ffordd. Efallai eu bod wedi penderfynu mynd i mewn i ddrysfa (maze) ac wedi canfod yn sydyn eu bod wedi eu trapio ac yn methu dod o hyd i'r ffordd allan o’r ddrysfa. Efallai eu bod wedi bod yn ddieithryn mewn dinas fawr, neu wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu ffrindiau neu aelodau o'u teulu mewn canolfan siopa fawr.
- Gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am sut yr oedden nhw’n teimlo pan oedden nhw ar goll. Os yw hynny’n bosib, rhannwch stori yma â’ch cynulleidfa am adeg pan fuoch chi eich hunan ar goll, a sut y daeth rhywun o hyd i chi.
- Beth fyddech chi'n ei wneud pe baech chi ar goll? Galw am help? Gofyn am gyfarwyddiadau? Defnyddio map a chwmpawd? Edrych am arwyddion neu oleuadau a allai eich tywys, ac yna yn eu dilyn?
Mae yna straeon yn aml yn y cyfryngau am bobl sydd wedi bod ar goll a rhywun wedi dod o hyd iddyn nhw wedyn a’u hachub. Mae yna hefyd nifer o straeon antur hefyd yn ymdrin â’r pwnc, fel stori Robinson Crusoe - stori am ddyn a aeth ar goll ar y môr ac a oedd yn gorfod goroesi ar ynys bellennig. - Fodd bynnag, mae ffordd arall o fod ar goll, sef bod ar goll mewn tyrfa a rhywun yn dod o hyd i’r unigolyn hwnnw wedyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael profiad fel hyn ar ryw adeg yn eu bywyd.
- Yn y Beibl, mae sawl stori a adroddodd Iesu am bethau neu bobl oedd ar goll a rhywun yn dod o hyd iddyn nhw wedyn. Dyna’r stori am y ffermwr a fu’n chwilio am ei un ddafad golledig, a'r stori am y wraig a gollodd un darn arian gwerthfawr ac a oedd yn hapus iawn ar ôl iddi hi ddod o hyd iddo. Mae’n debyg mai’r stori enwocaf a adroddodd Iesu am bethau a gollwyd yw’r stori sy’n sôn am y mab a gollwyd. Yn y stori hon, mae dyn ifanc yn cymryd ei etifeddiaeth ac yn gadael ei gartref, yn teithio’n bell oddi wrth ei dad a oedd yn meddwl y byd ohono. Mae’r mab yn gwastraffu ei arian ar bethau diwerth nes iddo yn y pen draw sylweddoli ei fod wedi gwneud dewisiadau gwael ac wedi gwneud camgymeriad mawr. Yna, mae'n mynd yn ei ôl at ei deulu ac yn cael ei groesawu â breichiau agored gan ei dad.
- Mae'r storïau hyn yn adlewyrchu sut mae Cristnogion yn credu bod bodau dynol wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth Dduw, ond bod Duw bob amser yn aros iddyn nhw ddod yn ôl. Mae Iesu yn addo bod yn oleuni i ni yn y tywyllwch er mwyn ein helpu ni a’n harwain yn ein bywyd os byddwn ni’n ymddiried ynddo. Fe ddywedodd, ‘Myfi yw’r ffordd y gwirionedd a’r bywyd.’ (Ioan 14.6). Dywedodd Iesu hefyd ei fod wedi dod ‘i geisio ac i achub y colledig’ (Luc 19.10).
Amser i feddwl
Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi mynd ar goll, neu wedi crwydro i ffwrdd oddi ar y llwybr a fyddai’n eich gwneud y person y byddech yn dymuno y gallech chi fod. Efallai eich bod yn teimlo eich bod wedi siomi pobl oherwydd rhywbeth rydych chi wedi ei ddweud neu wedi ei wneud, gan achosi i berthynas gael ei difetha. Gall geiriau fod yn boenus, ond mae peidio â maddau yn achosi chwerwder a diflastod, tra bod maddeuant yn arwain at heddwch a rhyddid. Ceisiwch ddeall gwahanol safbwyntiau pobl eraill, a pheidiwch â gadael hynny nes ei fod yn rhy hwyr.
Efallai eich bod yn meddwl tybed beth ydych chi’n mynd i'w wneud â'ch bywyd, ac yn teimlo eich bod yn brin o gyfeiriad a phwrpas. Fel y teithiwr a oedd ar goll yn y stori heddiw, fe allwch chi fod yn teimlo ar goll ar daith bywyd. Mae'n bwysig chwilio am ffrindiau gofalgar a theulu pan fyddwn yn teimlo'n ddryslyd ynghylch pethau, a phan fyddwn ni’n teimlo bod angen i ni gael ein harwain neu ein pwyntio i'r cyfeiriad cywir.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y canwyr clychau rheini y parodd eu gweithred o ganu’r clychau fod yn gyfrwng i’r teithiwr a oedd ar goll gael ei dywys allan o'r niwl a’i arwain yn ddiogel yn ôl adref.
Yn ein bywydau, tywys ni a’n cyfarwyddo ni pan fyddwn ni’n teimlo ar goll ac yn unig. Neu hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo nad yw bywyd yn gwneud unrhyw synnwyr, arwain ni.
Amen