Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byd delfrydol

Gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried beth allai ein barn fod ynghylch cymdeithas berffaith.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r Gwasanaeth hwn (Utopia), a’r modd o’u dangos.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Perfect day’ gan Lou Reed (ar gael ar: <https://www.youtube.com/watch?v=QYEC4TZsy-Y>) a’r modd o’i chwarae ar ddechrau’r gwasanaeth. Mae’n para 3.44 munud.

  • Efallai yr hoffech chi drefnu bod gennych chi recordiad o’r gân ‘Kingdom of God’ gan Taizé (ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=WL1_IhVTJmk)a’r modd o’i chwarae yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’ yn y Gwasanaeth. Mae’n para 4.15 munud.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gân ‘Perfect day’ gan Lou Reed wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r Gwasanaeth. Mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=QYEC4TZsy-Y 

  2. Holwch y cwestiynau canlynol i’r myfyrwyr.

    - Beth fyddai’n gwneud eich ‘diwrnod perffaith’ chi?

    Lle y bo'n briodol, gwrandewch ar ystod o ymatebion, neu yn syml rhowch amser i'r myfyrwyr ystyried eu hatebion eu hunain.

    Holwch a fyddai eu ‘diwrnod perffaith’ yn cynnwys y pethau canlynol.

    - Gwneud beth bynnag y maen nhw eisiau ei wneud, heb i neb na dim byd eu hatal.
    - Cael diwrnod heb unrhyw straen, dim pwysau, nac unrhyw fygythiadau nac unrhyw drafferth na ffwdan.
    - Treulio amser gyda’r rhai rydych chi’n eu caru, ffrindiau neu aelodau eich teulu.
    - Bod mewn man hyfryd - mewn hinsawdd gynnes, traeth heulog, neu yng nghanol cefn gwlad prydferth, efallai.
    - Cael popeth rydych chi ei angen a’i eisiau ar y pryd.
    - Y tîm pêl-droed lleol yn ennill y gynghrair!

    Oedwch am foment ar ôl pob awgrymiad.

  3. Beth pe baem yn cael cais i ddisgrifio, nid y ‘diwrnod perffaith’ ond y ‘gymdeithas berffaith’? Yn achos y gair ‘cymdeithas’ rydyn ni’n golygu’r gymuned rydyn ni’n byw ynddi gyda phobl eraill. Sut beth fyddai’r gymdeithas berffaith? 

  4. Bum can mlynedd yn ôl, yn 1516, ysgrifennodd Syr Thomas More lyfr sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn hwn. Galwodd ei lyfr yn Utopia. Ynddo, disgrifiodd ynys a thrigolion yr ynys. Awgrymodd bod y gymdeithas hon yr oedd yn ei disgrifio yn y llyfr yn gymdeithas berffaith.

    Dangoswch Sleid 1.

  5. Roedd iwtopia More yn cynnwys y nodweddion canlynol:

    - cenedl yn seiliedig ar feddwl rhesymegol
    - pobl yn rhannu eiddo 
    - diffyg ymddiriedaeth iach o gyfoeth ac aur 
    - dim gwahaniaethau yn ôl dosbarth
    - dim tlodi nac throseddu nac ymddygiad anfoesol 
    - goddefgarwch crefyddol

  6. Gofynnwch y cwestiynau canlynol.

    - Beth amdanoch chi? Pe byddech chi’n gallu dychmygu’r gymdeithas berffaith, sut un fyddai’r gymdeithas honno?
    - Pa fath o system economaidd, strwythur cymdeithasol a llywodraeth y byddech chi’n eu cynnig?
    - Sut byddai bodau dynol yn trin y naill a’r llall?
    - Sut y byddai pobl yn trin yr amgylchedd, anifeiliaid a byd natur?
    - Pa agweddau a chredoau y byddai pobl yn eu dal?

  7. Nid Thomas More yw’r unig berson mewn hanes sydd wedi ceisio disgrifio’r gymdeithas berffaith. Roedd y syniad am 'deyrnas Duw' yn rhan allweddol o ddysgeidiaeth Iesu. Mae llawer o ddamhegion a dywediadau o eiddo Iesu yn datgelu teyrnas yn seiliedig ar werthoedd Duw, lle mae:

    - y gwan a’r bregus yn cyfrif
    - pobl sy’n cael eu llethu gan euogrwydd yn gallu cael maddeuant a’u rhyddhau o afael cywilydd 
    - bwriadau’n cyfrif
    - pawb yn cael eu caru a’u croesawu

  8. Yn un o ddamhegion Iesu, mae’n cymharu teyrnas Duw – cymdeithas ddelfrydol Duw – i hedyn mwstard bach, bach.

    Dangoswch Sleid 2 a darllenwch y rhan o’r Beibl yn araf a meddylgar.

    Gofynnwch y cwestiwn canlynol.

    - Beth mae Iesu’n ei ddweud wrthym yma am deyrnas Duw?

    Mae'r ddameg yn awgrymu y gall cymdeithas ddelfrydol ddechrau gyda'r lleiaf o fwriadau neu weithredoedd. Gair caredig, efallai, neu wên o ddiolch, gan gynnwys rhywun yn ein sgwrs - gallai'r camau bach hyn, yn fwriadol drawsnewid diwrnod rhywun. Efallai y bydd yn gyfrwng i helpu rhywun i ddod ychydig yn nes at brofi eu 'diwrnod perffaith'.

  9. Mae dywediad yn Saesneg: ‘Mighty oaks from little acorns grow’, sy’n darlunio’r ffaith bod derwen fawr gref yn gallu tyfu o un fesen fach. Gallai’r esiampl o onestrwydd, o dosturi, y maddeuant neu’r cariad y byddwch chi’n ei ddangos heddiw fod yn ddechreuad i drawsnewid ein cymdeithas i fod yn un fwy gonest, tosturiol, maddeugar a chariadus.

Amser i feddwl

Mae dysgeidiaeth Iesu am deyrnas Duw wedi herio Cristnogion ar hyd y canrifoedd. Yn ein hamser i feddwl, byddwn yn gwrando ar ddarn syml o gerddoriaeth fyfyriol o'r gymuned Gristnogol, Taizé, sydd wedi'i lleoli yn Ffrainc. Mae'r gymuned hon yn annog gweddi a chysylltiad â Duw trwy siantiau a chaneuon syml.
Wrth i ni wrando, gadewch i ni ystyried yr hyn y gallwn ni ei wneud heddiw i wneud ein byd yn lle gwell i fyw ynddo.

Sut gallwn ni fod yn rhan o adeiladu'r gymdeithas berffaith - yn seiliedig ar gyfiawnder a heddwch?

Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Kingdom of God’ gan Taizé, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=WL1_IhVTJmk. Mae’r geiriau’n cael eu dangos ar Sleid 3.

Dangoswch Sleid 3.

Gweddi

Mae’r gweddïau’n cael eu dangos ar Sleid 4. Yr ymateb yn Saesneg yw(Lord in your mercy):Hear our prayer.Neu yn Gymraeg, (Arglwydd, yn dy drugaredd):Gwrando ein gweddi.

Dangoswch Sleid 4.

Neu, os hoffech chi fersiwn Gymraeg:

Annwyl Dduw,
Rydym yn cydnabod bod ein byd a'n cymdeithas yn bell o fod yn berffaith.

Am hyn, mae'n ddrwg gennym, ac rydym yn ceisio dy faddeuant di am yr adegau yr ydym wedi brifo teimladau pobl eraill, wedi brifo dy greadigaeth di, ac wedi dy frifo dithau hefyd.  
Arglwydd, yn dy drugaredd: Gwrando ein gweddi.

Annwyl Dduw,
Gweddïwn am gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn rhan o dy deyrnas.

Helpa ni i wybod sut beth yw gwir gariad, cyfiawnder, maddeuant a thrugaredd.
Arglwydd, yn dy drugaredd:Gwrando ein gweddi.

Cân/cerddoriaeth

Efallai yr hoffech chi chwarae, naill ai‘Perfect day’ gan Lou Reed neu ‘Kingdom of God’ ganTaizé wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon