Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Olion traed yn y tywod

Wynebu cyfnodau anodd

gan Brendan Farrelly (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried bod Duw bob amser gyda ni, hyd yn oed ar adegau anodd, yn ystod treialon a chaledi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r gerdd ‘Footprints in the sand’ gan Mary Stevenson, a’r modd o’i harddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae ar gael ar :http://tinyurl.com/69t6t8 Efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i gyfieithiad Cymraeg o’r gerdd hefyd, o bosib.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Bridge over troubled water’ gan Simon & Garfunkel, a’r modd o’i chwarae yn ystod y Gwasanaeth, yng ngham 6. Mae ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=H_a46WJ1viA (gwiriwch yr hawlfraint)
    Mae geiriau’r gân i’w cael ar: http://tinyurl.com/nbkaoes

  • Trefnwch hefyd bod gennych chi recordiad o’r gân ‘You’ll never walk alone’ gan Rodgers and Hammerstein (neu fersiwn wahanol), a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y Gwasanaeth.Mae ar gael ar :https://www.youtube.com/watch?v=GB7PGPg6b94(gwiriwch yr hawlfraint)
  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno defnyddio delweddau o rai trychinebau trasig sydd wedi digwydd yn y byd yn ddiweddar.

Gwasanaeth

  1. Yn y Beibl , mae'n datgan fod Duw wedi dweud, ‘Ni fyddaf byth yn ymadael â chwi; Ni wnaf byth gefnu arnoch.’ Ond pan feddyliwn ni am Dduw neu grefydd, byddwn yn aml yn holi,‘Os yw Duw yn bod, pam y mae'n gadael i bethau drwg ddigwydd i bobl dda? Pam mae'n gadael i gymaint o drychinebau ddigwydd: rhyfeloedd, trychinebau yn ymwneud â ffoaduriaid, bomiadau, cwympiadau awyrennau, hil-laddiad, plant yn cael eu cam-drin neu'n marw'n ifanc? Ble mae Duw? Pam mae Duw wedi cefnu arnom ni neu wedi ein gadael yn unig?’

    Dangoswch y delweddau os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

  2. Gall fod adegau pryd y mae pethau drwg wedi digwydd i chi neu i’ch ffrindiau, neu i’ch perthnasau, ac yr ydych yn synnu fod Duw wedi gallu gadael i hyn ddigwydd. Gallwch fod wedi methu mewn arholiad, wedi ffraeo gyda ffrind neu wedi cael damwain ddrwg. Gallwch feddwl, ‘Ble oedd Duw, felly? Pam y gwnaeth Duw gefnu arnaf fi?’ 

  3. Gall fod adegau pan fyddwch chi a'ch teulu wedi gorfod goddef salwch. Gall bywydau llawer ohonom fod wedi cael eu cyffwrdd gan ganser, trwy ffrind neu berthynas. Yn aml ar adegau fel y rhain pan fydd pobl yn gofyn, ‘Ble mae Duw? Pam y mae'n gadael i hyn ddigwydd i mi neu i fy nheulu?’

  4. Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn ymwneud â ffydd. Caiff y ffydd hon ei hamlygu'n dda mewn cerdd gan Mary Stevenson, cerdd sydd, rwy'n siwr, yn gyfarwydd i chi. Teitl y gerdd yw ‘Footprints in the sand’ sydd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg fel ‘Olion traed yn y tywod’.

    Dangoswch eiriau’r gerdd a’u darllen yn araf. 

  5. Mae adegau yn ein bywyd pan allwn deimlo ein bod yn unig ac nad yw Duw gyda ni, ond mae Cristnogion yn credu nad yw Duw byth yn ein gadael. Maen nhw'n credu bod Duw bob amser gyda ni, er nad ydym yn gallu ei weld na theimlo ei bresenoldeb. Pan fydd pethau drwg yn digwydd i ni yn ein bywyd, mae Cristnogion yn credu bod Duw yn bresennol: nid i atal y pethau hyn rhag digwydd, ond yn hytrach i'n helpu ni trwyddynt. 

  6. Chwaraewch y gân, ‘Bridge over troubled water’ gan Simon & Garfunkel. Eglurwch fod llawer o bobl, ar adegau o anawsterau, bydd llawer o bobl yn troi at Dduw am gymorth. Fodd bynnag, ynghyd â hyn, mae llawer o bobl hefyd yn tri at ffrindiau sy'n gallu eu helpu trwy amseroedd anodd.

Amser i feddwl

Bydd pob un ohonom yn dod ar draws dyfroedd blinderus yn ystod ein bywyd. Ond bydd Duw yn bresennol ac yn gwneud pont dros y dyfroedd hyn i'n helpu dros yr amseroedd anodd yn ein bywyd. Pan fydd pethau'n troi'n anodd mewn bywyd, nid yw Duw yn cefnu arnom, mae'n ein cynnal ni drwyddynt.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol.

- A oes yna bobl sydd angen ein cymorth heddiw?
- A oes yna bobl y byddai modd i ni eu helpu i'w ‘cynnal’ drwy eu hamseroedd anodd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein caru ni.
Diolch dy fod ti’n addo bod gyda ni ar adegau anodd yn ein bywyd.
Pan fyddaf ar ben fy hun, helpa fi i gofio dy fod ti bob amser yno.
Pan fyddaf yn ofnus, helpa fi i geisio dy heddwch.
Diolch na fydd raid i mi byth gerdded ‘ar fy mhen fy hun’.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol – cerddoriaeth wrth ymadael â’r Gwasanaeth: ‘You’ll never walk alone’ gan Rodgers and Hammerstein (neu fersiwn wahanol arall)

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon