Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cofio Brwydr y Somme

Canmlwyddiant Brwydr y Somme

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan lawer ym Mrwydr y Somme.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen sicrhau copi o’r sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r Gwasanaeth hwn (Battle of the Somme) a’r modd o’u dangos.

  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen copi o’r fideo YouTube, ‘Battle of the Somme – Real Footage’ (ar gael ar:http://tinyurl.com/j24m95w) a’r modd o ddangos y fideo yn ystod y Gwasanaeth. Mae’n para 3.34 munud.

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi baratoi un o’r myfyrwyr i ddarllen y gerdd,‘My three kids’, yng Ngham 8, y Gwasanaeth.

  • Nodwch: Mae pecyn adnodd o ddeunyddiau i gofio Brwydr y Somme ar gael gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Gall hwn fod yn ddefnyddiol ar gyfer llunio arddangosfa ddilynol neu ar gyfer gwers yn seiliedig ar Frwydr y Somme, ac mae ar gael ar : https://www.britishlegion.org.uk/remembrance/ww1-centenary/somme-100-toolkit?gclid=CJuW_OG_hswCFdgaGwod7RkDvA

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Bydd Gorffennaf 2016 yn nodi bod 100 mlynedd wedi mynd heibio ers Brwydr y Somme.
    Brwydr y Somme oedd un o’r brwydrau mwyaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi ei hymladd rhwng 1 Gorffennaf ac 18 Tachwedd yn y flwyddyn 1916, ger yr Afon Somme yn Ffrainc, hi hefyd oedd un o'r brwydrau milwrol mwyaf gwaedlyd mewn hanes. Ar y diwrnod cyntaf o ymladd yn unig, fe ddioddefodd byddin Prydain 60,000 o anafedigion, ac o'r nifer hwnnw, lladdwyd 20,000. Fe barhaodd y frwydr am bedwar mis ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn gyffredinol, cafwyd mwy na miliwn o anafedigion. Y tactegau milwrol allweddol gafodd eu defnyddio yn y frwydr hon oedd, ffosydd, gynau peiriant a weiren bigog. 

  2. Dangoswch Sleid 2.

    Mae'r sleid hwn yn dangos y safle lle’r ymladdwyd y frwydr. 

  3. Dangoswch Sleid 3.

    Roedd llawer o'r milwyr Prydeinig a aeth i ardal y Somme wedi gwirfoddoli i ymuno â bataliynau ‘pals’. Roedd y bataliynau hyn yn cynnwys grwpiau o ddynion oedd wedi ymrestru, neu ‘listio’, ar yr un pryd, gyda'r addewid y bydden nhw'n cael gwasanaethu ochr yn ochr â'u ffrindiau a'u cyfoedion (eu cyfeillion - ‘pals’).Ledled Prydain, fe ddioddefodd cymunedau golledion trychinebus: bu farw unedau cyflawn gyda'i gilydd, ac am wythnosau yn dilyn yr ymosodiad cychwynnol yn y Somme, roedd y papurau newydd lleol yn llawn o enwau'r rhai a laddwyd, y rhai a oedd wedi eu hanafu a'r rhai oedd ar goll.

  4. Mae'n anodd dirnad yr arswyd a'r golled a ddaeth i fod o ganlyniad i Frwydr y Somme. Mae'n anodd ceisio amgyffred niferoedd y rhai gafodd eu hanafu a'u lladd.
    Gall delweddau a lluniau o'r cyfnod hwnnw ein helpu i deimlo empathi â'r rhai gafodd eu heffeithio. Dyma rai delweddau a gymerwyd yn uniongyrchol o Frwydr y Somme. Wrth i ni edrych ar y delweddau fesul un, ystyriwch sut y mae pob person ynddyn nhw'n unigolyn - gyda theulu ganddo, ffrindiau, gobeithion a breuddwydion.

    Dangoswch Sleidiau 4-7.

  5. Yn ystod dyddiau cynnar Brwydr y Somme, cafodd dau ffotograffydd ffilm swyddogol (Geoffrey Malins a John McDowell) ganiatâd i ffilmio yn y ffosydd ac ar faes y gad. Cafodd y detholiad hwn o luniau eu troi’n ffilm, a chafodd ei rhyddhau ym mis Awst 1916. Wrth i ni edrych ar y clip byr o'r ffilm hon (ar gael ar: http://tinyurl.com/j24m95w), ystyriwch unwaith yn rhagor sut y caiff pob person ei ddangos fel unigolyn.

    Chwaraewch y fideo o bwynt 0.27 munud hyd at bwynt 2.00 munud. 

  6. Roedd pob un o'r dynion a welwn yn y ffilm hon yn unigolyn, yn un o'r miliynau o bobl oedd yn rhan o'r frwydr ac a gafodd eu heffeithio ganddi. Heddiw, rydym am ganolbwyntio ar un unigolyn neilltuol, yr Is-gapten Robert Smylie.

  7. Roedd Robert Smylieyn brifathro ar Ysgol Ramadeg yn nhref Sudbury, ac yn addysgu Saesneg a Mathemateg. Roedd yn 40 mlwydd oed pan ymunodd â'r fyddin ar ddechrau'r rhyfel. Roedd yn briod a chanddo fab a dwy ferch. Ni lwyddodd i ddychwelyd adref wedyn i'w gweld - cafodd ei ladd ar faes y gad ym Mrwydr y Somme ar 14 Gorffennaf 1916, gan un ergyd i'w frest.

    Cafwyd hyd i lyfr ym mhoced siaced Robert oedd yn cynnwys llun o'i wraig a'i blant. Roedd twll yn y llyfr gafodd ei wneud gan y fwled a'i lladdodd.

    Dangoswch Sleid 8.

  8. Un peth arall o eiddo Smylie sy'n ein helpu ni gysylltu ag ef, ei aberth a cholled ei deulu yw cerdd, a gyfansoddwyd gan Smylie ei hun yn ystod y misoedd cyn ei farwolaeth. Wrth iddo wasanaethu fel milwr, bu'n myfyrio ar y teulu a adawyd ar ôl ganddo. Enw'r gerdd a ysgrifennodd oedd ‘My three kids’, ac ynddi disgrifiodd ei fywyd fel milwr yn y rhengoedd ynghyd â'i ddyhead i fod adref yn eu cwmni. Mae llinellau olaf y gerdd yn sôn am golled a gobaith.

    Darllenwch, neu gofynnwch i un o’r myfyrwyr ddarllen y rhan hon allan o’r gerdd Saesneg ‘My three kids’.

    Lots of men I used to know 
    Now are killed or wounded, though 
    I remain, and back I'll go, To my kids 
    And I hope you'll all keep well, My three kids 
    Just as sound as any bell, My three kids 
    And when this long war is done 
    We shall have some glorious fun 
    Moll and Bids and little son, My three kids.

Amser i feddwl

Ar ôl can mlynedd o amser, beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth y profiad ofnadwy hwn, sef Brwydr y Somme? Mae pedwar o bethau'n amlygu eu hunain - cyfeillgarwch, teulu, gwasanaeth a heddwch, i gyd o'r pwysigrwydd mwyaf.

Mae cyfeillgarwch yn cyfrif. Roedd llawer o'r dynion a wasanaethodd yn y Somme wedi 'listio' neu ymrestru i wneud hynny yng nghwmni eu ffrindiau. Bu cyfeillgarwch a brawdgarwch yn gymorth i gynnal y dynion wrth iddyn nhw fyw drwy arswyd y ffosydd.
Heddiw, cofiwn am y bobl yn ein bywyd ein hunain sy'n ffrindiau i ni. Cofiwn am yr aberthau bychain a'r gweithredoedd o gariad y maen nhw'n eu dangos tuag atom ni.
Beth allwn ni ei wneud heddiw i feithrin a datblygu cyfeillgarwch da?

Saib i feddwl

Mae teulu’n cyfrif.Pan oedd Robert Smylie yn gwasanaethu fel milwr, roedd yn cadw llun o'i deulu yn agos ato drwy'r amser.Roedd meddwl am aelodau'r teulu yn rhoi gobaith iddo wrth iddo ddyheu am gael dychwelyd adref atyn nhw.
Heddiw,byddwn yn meddwl am aelodau ein teulu ni ein hunain - y bobl sy'n ein cynnal ac yn rhoi cysur i ni.Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i gael cyfeillgarwch a brawdoliaeth â'r rhai a garwn.
Beth allwn ni ei wneud heddiw i ddangos, ar ei orau, ein cariad, ein gwerthfawrogiad a'n cefnogaeth tuag at y bobl a garwn fel rhan o'n teulu?

Saib i feddwl.

Mae gwasanaeth yn cyfrif. Nid Robert Smylie ofynnodd am ryfel. Ni wnaeth y miliynau ar filiynau o ddynion hynny ychwaith. Eto, fe wnaethon nhw i gyd ddewis gwasanaethu.
Heddiw, mae sefyllfaoedd yn bodoli yn ein bywyd ni na fyddem wedi eu dewis pe byddem wedi cael y cyfle. Gallwn ddewis gwasanaethu a helpu eraill er gwaethaf hyn. Gallwn dderbyn y pethau na allwn eu newid, wrth gael hyd i'r dewrder i geisio newid y pethau hynny y gallwn ni eu newid. Gadewch i ni oedi am funud i feddwl am y sefyllfaoedd a'r cyfleoedd hynny lle mae modd i ni wasanaethu, helpu a rhoi.

Saib i feddwl.

Mae heddwch yn cyfrif. Mae rhyfel yn achosi cymaint o ddioddefaint. Roedd y colledion a brofwyd o ganlyniad i Frwydr y Somme yn aruthrol ac yn anodd eu dirnad. Roedd Robert Smylie yn dyheu at yr amser hwnnw pryd y byddai heddwch yn cael ei adfer ac y gallai ef ddychwelyd adref. Ni chafodd fyw i weld y diwrnod hwnnw.
Heddiw, ym mhob rhyngweithiad a gawn, ac ym mhob sefyllfa y cawn ein hunain ynddi, mae gennym y cyfle i weithio tuag at heddwch neu yn ei erbyn. Gadewch i ni gymryd yr amser i fyfyrio ar y modd y gallwn ni ddwyn heddwch i'n perthnasoedd, ein sefyllfaoedd, a'n byd.

Saib i feddwl.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gweddïwn dros heddwch yn ein byd heddiw - ac yn ein bywyd a’n calon ein hunain.

Helpa ni i fod yn dangnefeddwyr, sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi ffrindiau, teulu ac eraill.

Rydyn ni’n cydnabod dy fod yn ein galw ni i fyw mewn heddwch.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod ein bod ni weithiau’n cael hyn yn anghywir.
Gweddïwn dros heddwch yn ein byd heddiw - ac yn ein bywyd a’n calon ein hunain.
Helpa ni i fod yn dangnefeddwyr, sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi ffrindiau, teulu ac eraill.
Gad i ni beidio byth ag anghofio’r aberth a wnaed gan gynifer wrth geisio sicrhau heddwch a chyfiawnder.
Boed i ni byth gymryd heddwch a rhyddid yn ganiataol.
Amen.

Syniadau Dilynol

Nodwch: Mae pecyn adnodd o ddeunyddiau i gofio Brwydr y Somme ar gael gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer llunio arddangosfa ddilynol neu ar gyfer gwers yn seiliedig ar Frwydr y Somme, ac mae ar gael ar: https://www.britishlegion.org.uk/remembrance/ww1-centenary/somme-100-toolkit?gclid=CJuW_OG_hswCFdgaGwod7RkDvA

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon