Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

O Gasineb i Gariad

Mae pobl yn gallu newid

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Cydnabod y gall pobl newid eu hymddygiad – weithiau’n ddramatig!

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddwch angen ymgyfarwyddo â’r stori o’r Beibl am Saul o Darsus, sydd i’w chael yn Actau 9.
  • Bydd angen i chi hefyd dynnu llun grisiau ysgol (ladder) yn fawr ar fwrdd gwyn. Dylai'r ysgol gael chwe gris sy'n cael eu rhifo o 1 i 6, gyda rhif 1 ar y brig. Bydd angen i chi roi rhai cliwiau i’r myfyrwyr fel y gallan nhw ddyfalu pa air ddylai fynd ar bob gris. Geiriau Saesneg fydd y rhain. Ar bob cam i fyny’r ysgol, bydd un llythyren yn y gair yn wahanol bob tro i’r llythrennau yn y gair blaenorol fel y 'hate' ar Gris 6 yn raddol yn newid i 'love' ar Gris 1.
    Rhowch y cliwiau canlynol ar gyfer pob gris i'r myfyrwyr:

    - Gris 6: casáu’n angerddol (hate)
    - Gris 5: bod yn berchen ar rywbeth (have)
    - Gris 4: achub (save)
    - Gris 3: ffurf fer ar yr enw David (Dave)
    - Gris 2: aderyn a anfonwyd allan o arch Noa (dove)
    - Gris 1: hoffi’n angerddol (love)
  • Fe fydd arnoch chi angen dau ddarllenydd ar gyfer darllen y rhannau o’r Beibl, Actau 9.3–12 ac Actau 9.13–19. Neu, fe allech chi adrodd y stori o’r rhannau yn eich geiriau eich hun.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r myfyrwyr a oes rhywbeth y maen nhw'n ei hoffi’n angerddol. Pêl-droed, seren ffilmiau neilltuol, hoff grwp pop, math o bitsa? Beth sy'n digwydd pe byddai rhywun yn anghytuno â nhw? Rhowch enghraifft sy'n berthnasol i'ch ysgol, er enghraifft, mynegwch mai'r tîm pêl-droed lleol yw'r tîm gorau a bod pob tîm arall yn dda i ddim!

    Gofynnwch i rai o'r myfyrwyr am eu hymateb i'r gosodiad hwn.

    Weithiau, fe allwn ni od yn bengaled iawn, ac yn rymus ein hymateb, pan fyddwn ni’n meddwl yn siwr ein bod ni’n gywir ac eraill yn anghywir!

  2. Mae stori i'w chael yn y Beibl am ddyn o'r enw Saul. Roedd yn byw yn ninas Tarsus tua'r un amser ag y cafodd Iesu ei groeshoelio. Iddew oedd Saul a fyddai'n ofalus iawn wrth gadw at bob cyfraith o eiddo Duw ac yn disgwyl i bawb arall wneud yr un modd. Yn dilyn atgyfodiad Iesu a dydd y Pentecost, dechreuodd disgyblion Iesu achosi tipyn o gynnwrf. Roedden nhw'n llefaru'n hy am Iesu, yn addysgu pobl am y geiriau a lefarodd Iesu, ac yn dweud eu bod nhw hyd yn oed wedi iacháu pobl yn union fel yr oedd Iesu ei hun wedi ei wneud! Penderfynodd cannoedd o bobl ddod yn ddilynwyr i Iesu. Roedd Saul, fel llawer Iddew crefyddol arall, wedi ei frawychu. Roedd yn casáu'r bobl hyn a oedd yn ‘ddilynwyr i Iesu’. Roedd yn ymddangos fod ganddyn nhw'r ddawn i gorddi teimladau pobl gyda'u geiriau cryf, grymus ac anghyfforddus.

    Cafodd un o ddilynwyr Iesu, dyn o'r enw Steffan, ei ladd oherwydd ei fod yn amharod i droi ei gefn ar fod yn Gristion. Roedd Saul yn bresennol pan gafodd Steffan ei ladd ac roedd Saul yn cytuno'n llawn â'r hyn ddigwyddodd.

    Ar y diwrnod hwnnw, dechreuodd erledigaeth fawr yn erbyn yr eglwys yn Jerwsalem, a chafodd y credinwyr newydd eu gwasgaru neu eu llusgo i ffwrdd a'u carcharu. Aeth Saul i chwilio am unrhyw un o ddilynwyr Iesu a allai fod wedi dianc. Pan oedd ar ei ffordd i le o'r enw Damascus, fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfeddol iddo.

  3. Darllenydd 1 i ddarllenActau 9.3–12.

    Darllenydd 2 i ddarllenActau 9.13–19.

  4. Ar ôl hyn, treuliodd Saul nifer o ddyddiau gyda'r disgyblion ac yn fuan roedd yn adrodd wrth bawb y neges am Iesu. Doedd hi ddim yn hir nes yr oedd bywyd Saul ei hun dan fygythiad. Roedd ei bobl ei hun, yr Iddewon, am gael ei wared. Yn awr roedd ef yn profi’r un teimlad o gasineb tuag ato ef! Ymhellach ymlaen, pan geisiodd Saul ymuno â'r disgyblion yn Jerwsalem, roedd pob un ohonyn nhw yn ddrwgdybus ac yn ofnus ohono, gan feddwl mai ysbïwr oedd yn cynllwynio i'w dal. Doedd yr adeg yma ddim yn adeg hawdd i Saul. Yn awr ef oedd y dieithryn. Roedd wedi colli ymddiriedaeth pobl, yn cael ei drin yn greulon, ei garcharu a'i guro, ond roedd Duw wedi newid ei fywyd o un o gasineb tuag at fywyd o gariad, ac roedd hyd yn oed caru ei elynion. Fe ddaeth Saul (a newidiodd ei enw ymhellach ymlaen i Paul) yn negesydd cariad a maddeuant ymhob lle yr oedd yn teithio iddo.

  5. Dangoswch i’r myfyrwyr y llun sydd gennych chi wedi ei baratoi o risiau ysgol a darllenwch y cliwiau. Gadewch i’r myfyrwyr awgrymu pa lythrennau y mae angen eu newid yn y geiriau wrth i chi ddringo pob gris ar yr ysgol.

  6. Nodwch, weithiau, y gall y ffordd o gasineb tuag at gariad fod ffordd fer iawn. Er enghraifft, bydd rhywun yn gallu dweud 'sori' yn syth ar ôl digwyddiad a gall y cweryl ddid i ben yn sydyn. Fodd bynnag, weithiau, gall y ffordd o gasineb tuag at gariad fod yn ffordd hir iawn. Hyd yn oed os yw hynny’n wir mewn ambell achos, mae'n ffordd sy'n werth ei theithio. Pan fyddwn yn casáu, y sawl sy'n dioddef fwyaf mewn gwirionedd yw'r un sy'n gwneud y casáu.

Amser i feddwl

A oes unrhyw un yn ein bywyd yr ydym yn eu casáu, neu o leiaf ddim yn eu hoffi o gwbl?

Ystyriwch yn onest am rai munudau: sut mae'r casineb hwn yn gwneud i chi deimlo?

Weithiau, mae rhywbeth drwg wedi digwydd i ni a byddwn yn teimlo ein bod wedi cael ein brifo'n fawr. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, mae'n well siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo neu ynddi am y peth, rhywun fel athro neu athrawes, ffrind, neu gynghorydd ysgol.

Fodd bynnag, weithiau, nid oes gennym unrhyw sail dros gasáu. Efallai ein bod ddim ond yn ei chael hi'n anodd cael perthynas ag unigolyn neilltuol. Efallai bod rhywun wedi dweud rhywbeth cas wrthym flynyddoedd yn ôl ac nad ydym byth wedi gallu maddau iddyn nhw.  Gadewch i ni ystyried o ddifrif a ddylen ni faddau a symud ymlaen oddi wrth gasineb. Cofiwch mai'r bobl yr oedd Saul yn eu casáu a ddaeth, yn y pen draw, yn ffrindiau gorau iddo!

Gweddi
Annwyl Dduw, 
Diolch dy fod ti bob amser eisiau maddau i ni.
Help ni i fod yn onest ynghylch ein meddyliau, ein teimladau, ac am y ffordd rydyn ni’n ymddwyn tuag at ein gilydd.
Helpa ni i ddewis ffordd cariad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon