Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pan fydd pethau annisgwyl yn digwydd

Bywyd anodd Roald Dahl

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried sut rydym yn delio â rhwystrau yn ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Dewisol: Os hoffech chi arddangos llun o Roald Dahl yn ystod y gwasanaeth, trefnwch fod gennych chi’r modd o wneud hynny. Mae enghraifft ar gael ar y wefan:http://tinyurl.com/h54c5jl

Gwasanaeth

ArweinyddBydd 13 Medi 2016 yn ddiwrnod Roald Dahl ac, eleni, bydd yn ddathliad arbennig oherwydd cafodd Roald Dahl ei eni'n union 100 mlynedd yn ôl. Bydd digwyddiadau ar hyd a lled y wlad i ddathlu ei enedigaeth. Bydd arddangosfeydd i ymweld â nhw, llwybrau i'w dilyn, sesiynau o adrodd storïau i wrando arnyn nhw a hyd yn oed cyfle i fod yn rhan o de prynhawn, sy'n dilyn thema arbennig yn adeilad yn Shard yn Llundain.

Ond beth sy'n gwneud storïau a nofelau Roald Dahl mor arbennig?

Darllenydd 1:Ar un llaw, maen nhw'n wirioneddol fyw. Mae'n bosib uniaethu â'r sefyllfaoedd sy'n cael eu disgrifio yn ei ffordd bisâr arferol ef. Efallai eu bod yn eithafol, ond gall bob un ohonom adnabod yr emosiynau a'r pwysau sy'n amlwg ynddyn nhw.

Darllenydd 2Mae hynny'n wir am blant yn ogystal ag oedolion. Beth bynnag yw eich oedran, mae yn ei storïau rywbeth at ddant pawb. Maen nhw, naill ai'n dwyn atgofion am eich plentyndod eich hun neu’n byw sut mae plant y dyddiau hyn yn ymateb i'r ffordd y mae oedolion yn ymddwyn.

Darllenydd 1:Maen nhw hefyd braidd yn ddigywilydd. Nid yw Dahl yn osgoi disgrifio'r hyn sydd heb fod yn gyfan gwbl foesgar.

Darllenydd 2:Yn olaf, mae ei lyfrau'n ddoniol. Weithiau, maen nhw'n gwneud i ni chwerthin yn uchel dros y lle. Ar adegau eraill, maen nhw'n gallu peri i ni wenu wrth i ni adnabod rhywbeth ynddyn nhw sy’n wir amdanom ni ein hunain.

Arweinydd: Yr hyn sy'n fy nharo i am lyfrau Dahl yw bod ei storïau'n aml yn cynnwys elfennau annisgwyl - mae hi bron yn amhosib rhagweld yr hyn sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Yn wir, teitl ei gasgliadau o storïau byrion ar gyfer oedolion yw Tales of the Unexpected.

Yr hyn sydd yn fwy annisgwyl yw'r ffaith bod Dahl wedi ysgrifennu ei storïau mewn bywyd a oedd yn llawn o drychinebau iddo ef ei hun. Fe ddechreuodd y cyfan yn ystod ei blentyndod. Bu farw ei dad pan oedd Roald ddim ond yn bedair blwydd oed, ac o ganlyniad tyfodd i fyny heb ddelfryd ymddwyn gwrywaidd agos. Roedd ei addysg gychwynnol yn hunllefus, yn rhannol oherwydd roedd ganddo ogwydd cryf tuag at beidio â chydymffurfio. Roedd bob amser yn casáu rheolau ac roedd yn chwaraewr triciau heb ei ail, felly roedd yn cael ei gosbi'n aml - weithiau'n gorfforol.

Gadawodd Dahl ei addysg ffurfiol cyn gynted ag y gallai. Dechreuodd deithio i Ogledd America ac Affrica. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n beilot ar awyrennau ymosod, ond achosodd y ddamwain a gafodd wrth lanio ei awyren i Dahl ddioddef anafiadau difrifol i'w benglog, ei asgwrn cefn a'i glun. Treuliodd gyfnod maith yn yr ysbyty.

Cafodd aelodau o’i deulu eu blino gan wahanol afiechydon a damweiniau. Cafodd ei fab ifanc ei anafu'n ddrwg pan fu tacsi mewn gwrthdrawiad â'i bram. Bu farw ei ferch hynaf o ganlyniad i ddos ddrwg o'r frech goch. Dioddefodd ei wraig, yr actores enwog Patricia Neal, nifer o waedlifau ar ei hymennydd a bu bron iddi farw.

Felly sut, mewn bywyd yn llawn trasiedi ac anawsterau, y llwyddodd Roald Dahl i ysgrifennu'r storïau doniol, optimistaidd hynny sy’n ddatganid o fywyd?

Yn gyntaf, fe wrthododd fod yn hunandosturiol. Wnaeth o ddim ymdrybaeddu yn ei anlwc na chwennych cydymdeimlad pobl, a gwrthododd fod yn besimistaidd. Roedd bob amser yn edrych tuag at yr hyn a allai fod yn hytrach na gadael iddo'i hun gael ei lethu gan yr anawsterau a oedd yn ei amgylchynu. Pan fyddai'n dod wyneb yn wyneb â phroblem, byddai'n chwilio am ffordd i'w goresgyn.

Darllenydd 1: Pan ddioddefodd mab ifanc Dahl gyflwr ymenyddol o'r enw hydroseffalws, yn dilyn y ddamwain a gafodd, fe archwiliodd Dahl am ffyrdd o liniaru'r symptomau. Fe ymrestrodd gymorth peiriannydd i ddyfeisio falf arbennig a fyddai draenio'r gormodedd o hylif o'i ben.

Darllenydd 2:Yn dilyn marwolaeth ei ferch, fe frwydrodd Dahl yn angerddol i gael ymchwil i ffyrdd o atal afiechyd cyffredin y frech goch rhag datblygu’n rhywbeth gwaeth.

ArweinyddPan ddaeth ei wraig yn anabl o ganlyniad i'r anafiadau ar ei hymennydd, fe ddyfeisiodd Dahl raglen adferol fanwl ar ei chyfer a’i gwnaeth hi’ n bosib iddi ddychwelyd i actio.

Amser i feddwl

Arweinydd: Sut ydyn ni'n ymateb pan fydd pethau’n mynd yn anodd i ni? Bydd rhai pobl yn cilio ac yn mynd yn hunandosturiol. Maen nhw'n gweld eu hunain fel dioddefwyr, gan deimlo bod y byd yn eu herbyn. Maen nhw'n gofyn am gymorth yn barhaus ac yn mynd yn ofnadwy o hunan ganolog. Mae rhai eraill yn methu â gweld unrhyw ddyfodol y gallan nhw edrych ymlaen ato. Maen nhw'n teimlo fel pe bai cwmwl tywyll yn hofran drostyn nhw, ac na all pethau wella byth. Bydd llawer o bobl yn mynd yn oddefol, gan ddisgwyl am y bwletin  nesaf o newydd drwg. Ni fyddai Roald Dahl wedi uniaethu ei hun ag unrhyw un o'r rhain. Roedd ef bob amser yn gweithio tuag at greu'r annisgwyl.

Ni allwn fod yn sicr o ba le yr oedd Roald Dahl yn cael ei ysbrydoliaeth a'i gymhelliad. Er hynny, mae tebygrwydd rhwng ei agwedd tuag at fywyd ac agwedd Iesu tuag at fywyd. Creodd Iesu amgylchfyd lle'r oedd yr annisgwyl yn digwydd. Nid oedd achosion o fethiant yn perthyn i Iesu, nid hyd yn oed marwolaeth ei hun. Roedd ef yn annog gobaith a dull cadarnhaol at beth bynnag y byddai bywyd yn ei daflu at y bobl yr oedd yn cyfarfod â nhw.  Fe ddeuai'r rhai a oedd yn anobeithiol yn obeithiol, y colledig yn dod o hyd i gyfeiriad, y cleifion yn cael eu hiacháu, ac fe fyddai’r gwrthodedig yn darganfod cymuned.

Allwn ni byth rhagfynegi anlwc. Dyna rywbeth arall sydd yn annisgwyl. Ond cyfeiria Iesu, yn ogystal â Roald Dahl, tuag at y ffaith na ddylen ni fod yn gaethweision i'r pethau drwg sy'n digwydd mewn bywyd. Gadewch i ni gadw ein llygaid yn agored i adnabod unrhyw un sy'n mynd trwy gyfnod anodd a gadewch i ni fod y rhai sy'n gyfrwng i helpu i roi tro ar bethau a’u gwella.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y gobaith nad oes raid i ddim ein goresgyn ni.
Helpa ni i fod yn gadarnhaol ac yn weithgar wrth i ni wynebu anawsterau bywyd.
Helpa ni i fod yn bobl a fydd yn helpu eraill i oresgyn eu hanawsterau a’u hofnau.
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon