Cwestiynu ynghylch dioddefaint
A yw beio Duw am ddioddefaint bob amser yn rhesymegol?
gan Kirstine Davis
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Ystyried a’i bai Duw bob amser yw dioddefaint.
Paratoad a Deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi ddangos delweddau o amrywiaeth o sefyllfaoedd yn darlunio dioddefaint, ond mae angen sensitifrwydd wrth ddewis y rhain a dylid ystyried yn ofalus amgylchiadau’r myfyrwyr yn y gwasanaeth. Fe fydd arnoch chi angen modd o arddangos y delweddau hyn yn ystod y gwasanaeth. Fe allai rhai enghreifftiau fod yn ymwneud â:
- rhyfel, ar gael ar:http://tinyurl.com/h6th8bb
- gwersyll ffoaduriaid, ar gael ar:http://tinyurl.com/gms5us2
- canlyniad daeargryn, ar gael ar:http://tinyurl.com/z4tvwju
- canlyniad llifogydd, ar gael ar:http://tinyurl.com/z9o4yvc
- Dewisol: efallai yr hoffech chi chwarae’r gân ‘Man in the mirror’ gan Michael Jackson, ac os byddwch chi’n dewis gwneud hynny, fe fyddwch chi angen trefnu modd o wneud hynny.
Gwasanaeth
- Heddiw, rydym am dreulio ychydig funudau yn meddwl am ‘resymeg’. Tybed pa mor rhesymegol ydych chi? Rwyf am ofyn pedwar cwestiwn i chi, ac rwyf am i chi feddwl yn ofalus am yr atebion iddyn nhw!
Efallai y byddwch yn dymuno gwrando ar amrediad o atebion, neu oedi am ychydig wrth i'r myfyrwyr feddwl am y cwestiynau.
Cwestiwn 1: Sut ydych chi'n rhoi eliffant yn yr oergell?
Oedwch am funud ar gyfer y cyfnod o feddwl neu ar gyfer cael gwrando ar yr ymatebion.
Ateb: Agorwch y drws, rhowch yr eliffant i mewn a chau'r drws.
Cwestiwn 2: Sut ydych chi'n rhoi Jiráff yn yr oergell?
Oedwch am funud ar gyfer y cyfnod o feddwl neu ar gyfer cael gwrando ar yr ymatebion.
Ateb: Agorwch y drws, tynnwch yr eliffant allan, rhowch y jiráff i mewn a chau'r drws.
Cwestiwn 3: Mae pob un o'r anifeiliaid wedi cael eu galw i fynychu cyfarfod pwysig yn y jyngl. Pwy sydd ar goll?
Oedwch am funud ar gyfer y cyfnod o feddwl neu ar gyfer cael gwrando ar yr ymatebion.
Ateb: Y Jiráff - mae o'n parhau i fod yn eich oergell!
Cwestiwn 4: Rydych chi’n dod ar draws afon lle y gwyddoch y mae crocodeiliaid yn byw. Sut ydych chi'n mynd ati i groesi'r afon?
Oedwch am funud ar gyfer y cyfnod o feddwl neu ar gyfer cael gwrando ar yr ymatebion.
Ateb: Trwy nofio - bydd pob un o'r crocodeiliaid yn y cyfarfod! - Gadewch i ni droi ein sylw at rywbeth sydd ychydig yn fwy difrifol. Fel sy'n digwydd yn aml, pan fydd rhywbeth dychrynllyd yn digwydd [soniwch am enghraifft ddiweddar fu yn y newyddion], byddwn yn dyfalu ble mae Duw. Yn aml, pan ddaw afiechyd i effeithio'n bywyd neu os ydym wedi wynebu trychineb personol, byddwn yn holi'r cwestiwn, ‘Ble mae Duw yng nghanol hyn?’ Mae Stephen Fry, sy'n ddyn eithriadol o ddeallus, wedi nodi na allai ef gredu yn Nuw oherwydd pethau fel canser ymysg plant. Yn aml gofynnir cwestiynau fel y rhai hyn i Gristnogion, a dydyn nhw ddim yn gwestiynau sy'n hawdd eu hateb. Fodd bynnag, mae rhywfaint o resymeg sydd ar goll mewn cwestiynau fel y rhain.
- Mae llawer o'r pethau ofnadwy a welwn ni ar y teledu, ac yn y newyddion, yn ganlyniad o'n gweithredoedd ein hunain. Yn anffodus, nid yw'r ddynolryw bob amser yn garedig ei natur ac, yn anffodus, nid yw pobl bob amser yn gwneud dewisiadau da. Rydym i gyd yn gorfod gwneud dewisiadau. Wnaeth Duw ddim ein gwneud ni'n debyg i robotiaid neu i deganau meddal. Fe roddodd Duw y gallu a’r rhyddid i ni ddewis.
Mae llawer ohonom wedi chwarae gemau cyfrifiadurol pryd y mae gofyn i ni edrych ar ôl anifail anwes. Byddwn yn dewis anifail anwes seiber, a byddwn yn ei fwydo, byddwn yn rhoi diod iddo, a phan mae'n baeddu byddwn yn ei lanhau. Mae anifeiliaid anwes seiber yn hwyl fawr, ond dydyn nhw ddim yr un fath ag anifail anwes go iawn. Bydd ci go iawn yn rhedeg i ffwrdd pan mae'n cael mynd am dro; bydd ci go iawn yn rhacso'r ty a chnoi'ch esgidiau gorau! Ond bydd ci go iawn yn eich CARU hefyd. Bydd ci go iawn yn ysgwyd ei gynffon ac yn rhedeg i'ch gweld cyfarfod pan fyddwch yn dod adref. Bydd ci go iawn yn rholio drosodd pan fyddwch yn ei fwytho er mwyn i chi fwytho ei fol! Mae modd i chi gael perthynas â chi go iawn. Mae Cristnogion yn credu bod hyn yn wir am Dduw hefyd. - Mae llawer o'r dioddefaint sydd yn y byd yn cael ei achosi gan drachwant neu bobl yn chwennych grym. Credir bod trychinebau naturiol yn cael eu hachosi gan bobl sydd wedi cam-ddefnyddio'r amgylchfyd ers cenedlaethau. Wrth gwrs, mae llawer o bethau nad ydym yn eu deall, fel pam y dylai plentyn ddioddef neu pam y mae pobl sy'n agos atom yn gorfod profi amseroedd drwg. Mae'n hanfodol bod hynny o ymchwil sy'n bosib yn cael ei wneud i ddod o hyd i iachâd yn achos pethau fel canser a phob math o heintiau difrifol eraill.
- Bydd rhai ohonom yn teimlo y gallwn feio Duw am y dioddefaint sydd yn y byd. Bydd eraill yn teimlo ei fod yn caniatáu i ni gael y rhyddid i ddewis, a bod pobl yn gwneud dewisiadau gwael sy'n arwain at broblemau. Beth bynnag yw ein safbwynt, gall pawb ohonom dreulio ychydig amser yn ystyried ein bywyd a'r dewisiadau a wnawn. A yw ein gweithredoedd bob amser yn garedig? A ydyn ni’n gofalu am y byd a'r bobl sydd o'n cwmpas? A ydyn ni’n gwneud ein rhan i atal dioddefaint, neu a ydyn ni’n achosi dioddefaint i bobl eraill? A ydyn ni’n ymddwyn yn drachwantus? A ydyn ni'n chwennych bod yn rymus ac yn ceisio cael ein ffordd ein hunain bob amser?
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio munud yn meddwl amdanom ein hunain, a sut gall ein gweithredoedd achosi i bobl eraill ddioddef. Gadewch i ni feddwl am y cwestiynau hyn unwaith yn rhagor.
- A yw ein gweithredoedd bob amser yn garedig?
- A ydyn ni’n gofalu am y byd a'r bobl sydd o'n cwmpas?
- A ydyn ni'n gwneud ein rhan i atal dioddefaint neu a ydyn ni’n achosi dioddefaint i bobl eraill?
- A ydyn ni’n ymddwyn yn drachwantus?
- A ydyn ni'n chwennych bod yn rymus ac yn ceisio cael ein ffordd ein hunain bob amser?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae'n ddrwg gennym am yr amseroedd hynny pan fyddwn ni’n hunanol.
Mae'n ddrwg gennym am fod yn drachwantus a niweidio pobl â'n gweithredoedd.
Helpa'r rhai hynny sy'n dioddef [enwch rai sefyllfaoedd diweddar].
Helpa ni i wneud ein rhan i ddod â diwedd i ddioddefaint yn y byd.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
Dewisol: ‘Man in the mirror’ gan Michael Jackson