Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pontio’r Bwlch

Mae’n bwysig pontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pwysigrwydd bontio'r bwlch rhwng y cenedlaethau rhwng yr hen a'r ifanc.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen deg o fyfyrwyr i ddarllen y llinellau yn y 'Gwasanaeth', Cam 3-5. Pump ohonyn nhw’n cymryd rhan myfyrwyr neu bobl ifanc, a phump ohonyn nhw’n cymryd rhan y bobl hyn (defnyddiwch bropiau fel y bo'n briodol i ddangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy genhedlaeth). Bydd angen i'r myfyrwyr fod yn arbennig o ymwybodol o'u rôl yng Ngham5.

  • Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno defnyddio darn o ddefnydd neu gynfas gwely i gyfleu afon, a phapur wedi ei osod ar ben y defnydd i weithredu fel pont.

Gwasanaeth

  1. Yn y gwasanaeth hwn, rydym yn mynd i feddwl am y genhedlaeth hyn. Oeddech chi'n gwybod bod dros filiwn o ddynion ym Mhrydain sydd dros 80 oed? Yn wir, mae mwy o bobl ym Mhrydain sydd dros 60 oed nag sydd o dan 18 oed. Mae pawb ohonom yn adnabod pobl oedrannus. Mae teidiau a neiniau, neu hyd yn oed hen-neiniau a hen-deidiau, gan y rhan fwyaf ohonom. Oeddech chi'n gwybod bod mwy na 14 miliwn o neiniau a theidiau ym Mhrydain?

  2. Meddyliwch am berson hyn rydych chi’n ei adnabod. Sut mae ef neu hi’n edrych? Beth mae ef neu hi’n ei wneud? Beth mae ef neu hi ddim yn gallu ei wneud?

    Gofynnwch i’r myfyrwyr ddisgrifio’r person hyn hwnnw i’r myfyriwr sy’n eistedd yn eu hymyl.Rhowch gyfle i’r naill fyfyriwr a’r llall gael tro.

  3. Bydd llawer ohonoch wedi gallu meddwl am bethau cadarnhaol i'w dweud am eich neiniau a’ch teidiau neu bobl hyn rydych chi’n eu hadnabod. Ond efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi dweud rhywbeth tebyg i un o'r sylwadau canlynol.

    Gwahoddwch y pump sy’n cynrychioli’r myfyrwyr i sefyll gyda’i gilydd ar un ochr i’r ystafell (un ochr yr ‘afon’ os byddwch yn defnyddio’r ddelwedd honno).

    Myfyriwr 1: Mae rhai hen bobl yn cwyno bob amser. Maen nhw’n grwgnach am bopeth.
    Myfyriwr 2: Mae rhai hen bobl yn ddiflas. Maen nhw’n adrodd straeon hir am y gorffennol.
    Myfyriwr 3: Mae rhai hen bobl yn gallu eich dychryn. Maen nhw’n gweiddi ac yn eich dwrdio drwy’r amser.
    Myfyriwr 4: Mae rhai hen bobl yn fregus iawn. Maen nhw’n edrych fel bydden nhw’n debyg o gwympo pe byddech chi’n eu cyffwrdd.
    Myfyriwr 5: Mae gwallt gwyn a llawer o rychau ar wynebau rhai hen bobl. Mae golwg od ar rai ohonyn nhw.

  4. Yn yr un modd, nid oes gan rai pobl hyn farn gadarnhaol iawn am bobl ifanc. Efallai eich bod yn gwybod am rywun oedrannus sy'n rhannu un o'r safbwyntiau hyn am bobl ifanc.

    Gwahoddwch y pump sy’n cynrychioli’r bobl oedrannus i sefyll gyda’i gilydd yr ochr arall i’r ystafell (yr ochr arall i’r ‘afon’ os byddwch yn ei defnyddio).

    Person hyn 1:Mae rhai pobl ifanc yn rhy swnllyd. Maen nhw’n gweiddi drwy’r amser a byth yn gwrando. Maen nhw’n codi cur yn fy mhen i.
    Person hyn 2:Mae rhai pobl ifanc yn anghwrtais a digywilydd. Pan fydda i’n mynd ar y bws gyda bagiau siopa trwm, dydyn nhw ddim yn meddwl fy helpu na chynnig eu sedd i mi gael eistedd.
    Person hyn 3:Mae rhai pobl ifanc yn methu aros yn llonydd. Maen nhw bob amser yn neidio o gwmpas, ac fe fydden nhw’n neidio ar eich soffa pe bydden nhw’n cael siawns.
    Person hyn 4:Mae rhai pobl ifanc yn anwybyddu pobl oedrannus, fel pe bydden ni ddim yn bod. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn ateb pan fyddwch chi’n gofyn cwestiwn iddyn nhw.
    Person hyn 5:Fydd rhai pobl ifanc ddim yn dweud sori pan fyddan nhw’n eich taro wrth eich pasio yn y stryd, neu’n eich taro â’u pêl.

  5. Mae bwlch sy'n gallu datblygu rhwng pobl hyn a phobl ifanc. Rydym yn galw hyn yn fwlch rhwng cenedlaethau. Gall fod yn anodd i bobl ifanc gyfathrebu â phobl hyn, ac mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir. Mae angen i ni feddwl am ffyrdd o bontio'r bwlch hwnnw.

    Gosodwch ‘bont’ yn ei lle ar draws yr ‘afon’ os ydych yn dymuno defnyddio’r cyfarpar.

    Mae angen i ni ddod o hyd i syniadau o bethau y gall pobl ifanc a phobl hyn eu gwneud gyda'i gilydd. Mae'n dda gwneud pethau gyda'n gilydd. Gwrandewch ar yr awgrymiadau hyn i weld a allwch chi feddwl am rai enghreifftiau eich hun.

    Mae pob person ifanc yn siarad yn uniongyrchol ag un person oedrannau ar ochr arall yr ystafell (neu'r ochr arall i'r 'afon' os ydych yn ei defnyddio). Maen nhw’n eu gwahodd nhw i groesi'r ystafell (neu i groesi’r 'bont' os ydych yn ei defnyddio) ac mae'r ddau yn mynd i ffwrdd gyda'i gilydd.

    Myfyriwr 1:Fyddech chi’n hoffi dod i bysgota efo fi? Fe allen ni fynd ar y bws gyda’n gilydd a physgota ar lan yr afon. Fe allen ni fynd â phicnic efo ni.
    Myfyriwr 2:Wnewch chi fy nysgu i sut i wneud cacen? Rydw i wrth fy modd efo’r cacennau y byddwch chi’n eu gwneud, ac fe hoffwn i allu gwneud rhai tebyg.
    Myfyriwr 3:Fyddech chi’n hoffi chwarae dominos efo fi? Dydw i ddim yn dda iawn am chwarae, ac mae’n debyg mai chi fyddai’n ennill, ond wrth arfer fe fydda i’n gallu chwarae’n well y tro nesaf.
    Myfyriwr 4:Fyddech chi’n hoffi gwylio’r teledu efo fi? Mae fy hoff raglen ar fin dechrau. Pan fydd wedi gorffen, fe gewch chi ddewis beth gawn ni ei wylio wedyn.
    Myfyriwr 5:Fyddech chi’n fodlon i mi ddarllen fy ngwaith cartref hanes i chi? Efallai y gallech chi fy helpu efo’r rhan am y rhyfel.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am un peth y gallech chi ei wneud i bontio’r bwlch rhyngoch chi eich hun a pherson hyn.

Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon a gwnewch nhw’n eiriau i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ein teidiau a’n neiniau, ac am ein hen deidiau a’n hen neiniau.
Rydyn ni’n eu caru nhw’n fawr.
Rydyn ni’n diolch i ti dy fod yn gofalu am bobl oedrannus a phobl ifanc fel ei gilydd.
Mae’n ddrwg gennym am yr adegau pan fyddwn ni heb ofalu neu heb ddangos parch tuag at berson hyn.
Helpa ni i fod yn garedig.
Helpa ni i wneud beth bynnag allwn ni ei wneud er mwyn culhau’r bwlch rhwng y cenedlaethau, nid gwneud y bwlch yn lletach.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon