Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn ôl ac ymlaen

Fe fydd edrych yn ôl ac ymlaen yn ein helpu yn ein bywyd

gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Nodi'r pethau cadarnhaol y gallwn ddod o hyd iddyn nhw yn y gorffennol ac yn y dyfodol.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen delwedd o'r duw Rhufeinig hynafol, Ianws, a'r modd o’i harddangos yn ystod y gwasanaeth, ar gael ar: http://tinyurl.com/gq94q6c

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o'r duw Rhufeinig hynafol, Ianws.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr beth maen nhw’n ei weld yn y llun. A ydyn nhw’n gweld dau wyneb? Ydyn nhw'n gallu gweld bod un yn edrych ymlaen ac yn un yn edrych yn ôl?

    Esboniwch mai llun o'r duw Rhufeinig, Ianws yw hwn. Ef oedd duw dechreuadau a therfyn pethau, y dechrau a’r diwedd, ac roedd ei ddelw’n ymddangos ar lefydd fel gatiau, pyrth a drysau.

  2. ‘Dechreuadau a therfyniadau’ yw'r thema ar gyfer ein gwasanaeth heddiw. Rydyn ni newydd ddechrau blwyddyn ysgol newydd. Gall ‘dechrau’ rhywbeth newydd wneud i ni fyfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd heibio.

  3. Ond yn gyntaf, gadewch i ni feddwl am derfyniadau, neu bethau’n dod i’w diwedd. P'un a yw'n ddiwedd ffilm wych rydych chi wedi ei mwynhau, diwedd paned o de, neu hyd yn oed ddiwedd oes rhywun, mae'r rhain yn bethau y gallwn ni i gyd berthnasu â nhw. Meddyliwch am y teimladau sy'n gysylltiedig â diweddglo rhywbeth: tristwch, siom ac ymdeimlad o iselder.

    Fodd bynnag, fe all diwedd rhywbeth fod yn beth da, hefyd. Fel arfer bydd diwedd arholiad neu ddiwedd gwers ddiflas yn bethau da, ac yn achos rhai pobl, fe all marwolaeth olygu diwedd ar salwch hir a dioddefaint poenus. Mae terfyniadau’n adegau lle rydym yn teimlo bod rhywbeth wedi newid, ac mae'n debyg na fydd pethau yn union yr un fath wedyn. Ond, wrth edrych yn ôl dros yr hyn sydd wedi mynd heibio, fe all hefyd roi rhywfaint o ymdeimlad o werthusiad i ni.

  4. Edrychwch yn ôl dros y flwyddyn ysgol sydd wedi bod. Sut flwyddyn oedd hi i chi? A oedd yn flwyddyn dda llawn addewid wedi ei gyflawni, a llawn cyffro, neu a oedd yn flwyddyn anodd iawn a oedd yn llawn heriau? Mae’n ddigon posib, yn achos y rhan fwyaf ohonom, bod y flwyddyn wedi bod yn gymysgedd o’r da a’r drwg.

    Mae dechrau blwyddyn ysgol newydd yn gyfle gwych i ni edrych yn ôl dros y flwyddyn sydd newydd fod. Beth allen ni fod wedi ei wneud yn well? Sut y gallai pethau fod wedi cael eu newid? Beth allen ni fod wedi ei wneud er mwyn i bethau fod yn wahanol?

    Rydyn ni’n gwybod na allwn ni aros yn y gorffennol – fydd pobl a phethau sy'n gwneud hynny byth yn symud ymlaen, ac fe fyddan nhw’n cael eu gadael ar ôl.

  5. Yn lle hynny, gadewch i ni edrych yn awr at y dyfodol, fel ein duw dau ben, Ianws, y mae ei enw, gyda llaw, wedi cael ei roi ar y mis ar ddechrau'r flwyddyn, sef Ionawr. (Fel mae enw’r duw yn Saesneg, Janus, wedi rhoi’r enw January i ni hefyd.) Gall mis Ionawr fod yn amser i edrych yn ôl, a hefyd ar gyfer edrych ymlaen, yn union fel mae dechrau blwyddyn academaidd yn amser i edrych yn ôl ac edrych ymlaen. Ac rydyn ni ar hyn o bryd yn sefyll ar drothwy blwyddyn ysgol newydd a chyffrous.

    Edrychwch ymlaen at yr holl bosibiliadau a’r cyfleoedd sydd mewn stôr ar eich cyfer eleni. Yn achos rhai ohonoch chi, fe fyddwch yn meddwl am eich TGAU ac am fynd i'r coleg; i eraill, efallai y byddwch chi’n meddwl am deithiau tramor, digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau yn ymwneud â’r teulu, teithiau ysgol, gwersi anhygoel. . . mae cymaint o bosibiliadau o’ch blaen.

    Rydym yn dal y flwyddyn ysgol hon ar gledr ein llaw. Mae rheolaeth gennym ni ar y pethau sy'n aml yn peri i ni edifarhau yn eu cylch pan fyddwn ni’n edrych yn ôl - y ffordd y gwnaethom ni ymddwyn, neu beidio ag ymddwyn, neu sut yr ydym yn ymdrin â phobl eraill. Efallai ymhen blwyddyn, y byddwn ni’n gallu edrych yn ôl ar y flwyddyn hon a’i hystyried yn un o’r blynyddoedd gorau erioed! Rwy’n gobeithio y bydd hynny’n wir amdanom ni i gyd.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fydda i’n edrych yn ôl, gad i mi weld y pethau cadarnhaol yn fy ngweithredoedd yn hytrach na bod yn drist ynghylch y pethau rydw i heb allu eu gwneud.
Gad i mi allu gweld beth fyddwn i wedi gallu ei wneud yn well, ond hefyd gad i mi edrych yn ôl a gweld y llwyddiant a ddaeth â fi i’r safle hwn.
Wrth i mi edrych ymlaen, gad i mi fod yn gadarnhaol a sylweddoli bod y flwyddyn ysgol newydd yn gyfan o fy mlaen, ac y bydd yr hyn a wnaf yn gwneud gwahaniaeth.
Pa un ai wrth edrych ymlaen at y dyfodol, neu wrth edrych yn ôl ar y gorffennol, rho i mi’r nerth i fynd yn fy mlaen.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon