Mater o Ymddygiad
Awgrymiadau ynglyn ag ymddygiad da
gan Helen Gwynne-Kinsey
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried yr angen am ymddygiad priodol.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Behaviour matters) a’r modd o’u harddangos.
Gwasanaeth
- Fe fyddai'n hyfryd iawn meddwl bod pawb sydd yma'n bresennol wrth eu bodd yn dod i'r ysgol! Fe fyddai hefyd yn wych meddwl bod bob un ohonoch yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i'r ysgol ar ôl cael gwyliau! Fe fyddai'n dda meddwl y bydd pawb yn cael y cyfle i ddysgu mewn amgylchfyd dymunol lle mae pawb yn dangos parch, a lle mae pawb yn synhwyrol bob amser.
Fodd bynnag, mae'n debygol nad yw'r tri pheth hyn yn wir ar gyfer pawb ohonoch! Weithiau, nid yw myfyrwyr yn mwynhau'r ysgol. Pe byddai rhywun yn gofyn i chi, byddai nifer dda ohonoch o bosib yn hytrach yn ateb y byddai'n well gennych fod ar wyliau, ac weithiau, gall fod yn anodd dysgu pan fydd rhai myfyrwyr yn penderfynu ymddwyn mewn ffyrdd amhriodol. - Mae sawl rheswm pam y mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd neilltuol. Byddwn yn aml yn dysgu sut rydym yn ymddwyn oddi wrth y rhai sydd o'n cwmpas, boed nhw'n deulu, yn ffrindiau neu’n gymheiriaid. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn beth da, ond ar adegau eraill, gall ein harwain i wneud pethau sy'n annerbyniol, ac ymuno i wneud pethau na fyddem fel arfer yn ystyried bod yn rhan ohonyn nhw.
- Yn ein cymdeithas ni, mae gennym drefn o gyfreithiau fel ein bod yn gallu delio â phobl mewn ffordd briodol os ydyn nhw wedi ymddwyn yn wael. Pan fydd pobl eu cael yn euog o droseddu, fe fyddan nhw'n cael eu cosbi. Mae'r un math o drefn yn bodoli yng nghymuned yr ysgol. Os yw ysgol am weithredu'n hwylus, mae hi angen cod ymddygiad sy'n cynnwys cosbau i'r rhai sy'n penderfynu anwybyddu'r rheolau. Amcan y cosbau yw bod yn bositif ac adeiladol fel bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth eu camgymeriadau ac i newid eu hymddygiad er gwell.
- Yn y Beibl,yn Efengyl Luc 13. 6-9,fe adroddodd Iesu ddameg sy'n rhoi darlun clir i ni o'r syniad hwn. Yn y ddameg hon, roedd gan ddyn goeden oedd ddim wedi dwyn ffrwyth am dair blynedd. Rhoddodd orchymyn i'w arddwr dorri'r goeden i'r llawr oherwydd ei fod yn teimlo y byddai ei chadw'n wastraff lle yn yr ardd. Fodd bynnag, fe ofynnodd y garddwr a fyddai'n bosib cadw'r goeden am flwyddyn arall, gan ychwanegu y byddai'n gofalu'n ofalus iawn amdani dros y cyfnod hwnnw er mwyn hybu tyfiant y ffrwyth.
- Mae'r ddameg hon yn amlygu'r ffaith y dylai pobl gael ail gyfle. Mae'n awgrymu fod pobl weithiau angen tipyn bach o gymorth ychwanegol i aeddfedu a newid, ond eu bod yn haeddu'r cyfle i newid a chywiro eu hymddygiad.
- Sylwch ar y cyngor syml canlynol ynghylch beth i'w wneud pe byddech chi eisiau newid eich ymddygiad neu osgoi ymddygiad amhriodol yn y lle cyntaf.
Dangoswch y sleidiau yn eu tro.
Dangoswch Sleid 1:Byddwch yn onest ac, os nad ydych yn hapus gyda'ch ymddygiad, cyfaddefwch i chi eich hun.
Dangoswch Sleid 2:Ceisiwch adnabod eich gwendidau fel eich bod yn gallu gweithio er mwyn eu gwella.
Dangoswch Sleid 3:Peidiwch â bod ofn gofyn am help gan ffrindiau, aelodau o'r teulu neu athrawon.
Dangoswch Sleid 4: Peidiwch â chymysgu â phobl sydd wedi bod â dylanwad drwg arnoch yn y gorffennol.
Dangoswch Sleid 5:Amcanwch i ddysgu oddi wrth eich camgymeriadau fel bod modd i chi allu manteisio ar yr ail gyfle sy'n cael ei gynnig i chi.
Amser i feddwl
Sut rydyn ni'n ymddwyn?
Gadewch i ni feddwl yn ofalus am y ffordd rydyn ni'n ymddwyn heddiw.
Sut mae ein hymddygiad yn cael effaith ar eraill?
Ceisiwch ddeall yr effaith y gall eich gweithredoedd ei gael ar y rhai o'ch cwmpas yn ogystal ag arnoch chi eich hun. A yw eich ymddygiad yn helpu eraill, neu yn eu llesteirio?
A ydyn ni'n gwrando ar y cyngor a gawn?
Gadewch i ni amcanu i dderbyn cyngor yn barchus pan gaiff ei roi i ni a sylweddoli ein bod, fel cymuned ysgol, yn amcanu at ddarparu bob aelod ohoni tuag at fywyd o lwyddiant.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein hysgol.
Diolch i ti am y rhai hynny sy’n gofalu amdanom ac yn ein cynghori ar daith ein bywyd.
Helpa ni i feddwl am yr effaith y mae ein gweithredoedd yn eu cael ar bobl eraill.
Helpa ni i feddwl am bobl eraill cyn meddwl amdanom ni ein hunain.
Amen.