Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cadarn fel craig

Priodas Tracey Emin â charreg

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o berthynas sefydlog.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a phedwar Darllenydd.
  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o Tracey Emin, a'r modd o’i harddangos yn ystod y gwasanaeth. Mae delwedd ar gael ar y wefan: http://tinyurl.com/jx34waf

  • Dewisol: efallai hefyd y byddwch yn dymuno defnyddio delweddau o Damien Hirst a Sam Taylor-Johnson, ac os felly, mae’n bosib yr hoffech ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eu gwaith cyn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Dangoswch y ddelwedd o Tracey Emin ar ddechrau’r gwasanaeth.

Arweinydd:Artist yw Tracey Emin, un o’r grwp sy’n galw eu hunain yn Young British Artists – grwp sydd hefyd yn cynnwys Damien Hirst a Sam Taylor-Johnson.

(Efallai yr hoffech chi arddangos delweddau o’r artistiaid hyn hefyd yma.)

Doedd yr Young British Artists hyn ddim yn neilltuol o ifanc o ran oedran, ond roedden nhw’n perthyn i grwp a ddechreuodd arddangos eu gwaith gyda’i gilydd yn 1988, ac fe ddaethon nhw’n enwog am eu dulliau a’u hagwedd anarferol.

Mae Tracey’n gweithio mewn sawl cyfrwng, yn cynnwys cerflunio, gwaith ffilm, arlunio a phaentio, yn ogystal â chreu gosodiadau celfyddydol fel y campwaith enwog hwnnw o’r gwely – ‘unmade bed’.

Y llynedd, fe wnaeth Tracey Emin briodi. 'Llongyfarchiadau!' fe allen ni ei ddweud, ond roedd rhywbeth yn wahanol iawn am ei phriodas. Fe  briododd Tracey â charreg! Mae'n garreg ysblennydd. 'Hybarch' yw'r gair mae hi'n ei ddefnyddio i’w disgrifio, ac mae'n sefyll ar fryn, yn wynebu'r môr, yn ei gardd yn ne Ffrainc. Nid oedd Tracey yn gwneud hyn fel jôc. Fe briododd ei charreg er mwyn gwneud datganiad am y math o berthynas yr oedd arni hi ei hangen ar y pwynt hwnnw yn ei bywyd. Mae hi wedi disgrifio’r garreg fel 'angor’, rhywbeth y gallai hi uniaethu ag ef - ‘an anchor, something I can identify with’. Ac fe ddywedodd hefyd nad oedd y garreg yn mynd i unman. Byddai  yno yn aros amdani, ‘It's not going anywhere. It will be there, waiting for me.’

Cyn i ni ymwrthod â’r cysyniad hwn, a’i ystyried fel rhywbeth hollol wallgof, gadewch i ni geisio deall yr hyn mae hi'n chwilio amdano. Mae ei chraig yn symbol ar gyfer unrhyw beth a allai roi sefydlogrwydd, pwrpas, ac ymdeimlad o gadernid yn ei bywyd. Mae'n rhywbeth beth sy'n gwneud iddi deimlo ei bod yn cael ei gwarchod ac yn gwneud iddi beidio â theimlo’n unig. Mae'r rhain yn deimladau naturiol y credaf ein bod i gyd, ryw ffordd neu'i gilydd, yn gallu uniaethu â nhw.

Y peth trist yw y byddech yn disgwyl iddi allu dod o hyd i’r teimladau hyn yn y berthynas sydd ganddi â phobl eraill. Mae priodi carreg yn hytrach na pherson yn awgrymu bod ei bywyd yn llawn o brofiadau sy’n deimlad ei bod wedi dieithrio, neu wedi cael ei siomi, neu’n deimlad o chwilio am rywun a sylweddoli fod y person hwnnw wedi ei gadael hi. Mae hyd yn oed yn awgrymu nad yw hi wedi bod yn gallu dod o hyd sefydlogrwydd llawn a boddhad parhaol yn ei gwaith ychwaith. Y garreg yw'r unig wrthrych y gall hi ymddiried ynddi. Nid yw byth yn newid, ac mae yno bob amser pan fydd hi'n dychwelyd adref.

Y broblem yw nad yw'r berthynas yn fyw, ac ni all byth ddatblygu. Fydd hi a'r garreg byth yn tyfu’n nes at ei gilydd. Fydd y garreg byth yn dychwelyd yr ymddiriedolaeth y mae hi wedi ei roi ynddi hi.

Amser i feddwl

Arweinydd:Beth ydych chi'n chwilio amdano yn eich cyfeillgarwch agosaf?

Darllenydd 1:Rydw i’n edrych am ffrindiau sy’n ddibynadwy. Mae angen i mi fod yn gwybod nad ydyn nhw byth yn rhy brysur pan fydda i’n eu galw, ac na fyddan nhw’n fy siomi pan fydda i’n disgwyl eu cefnogaeth.

Darllenydd 2:Mae'n bwysig i mi eu bod yn gallu cadw cyfrinachau. Os ydw i'n mynd i fod yn onest â nhw ynghylch sut rwy’n teimlo, mae angen i mi wybod na fydd yr hyn y byddaf wedi ei ddweud yn ymddangos yn y pen draw ar Twitter neu Facebook.

Darllenydd 3:Fe hoffwn i fy ffrindiau agos fod yn llawn cydymdeimlad, bod yn barod i weld pethau o fy safbwynt i, hyd yn oed os ydw i yn y lleiafrif. Fe allai fod yn angenrheidiol, yn nes ymlaen, i ddweud wrthyf fy mod i’n anghywir, ond ar y dechrau, rydw i angen eu cefnogaeth.

Darllenydd 4:Er hynny, mae'n bwysig bod ffrindiau agos yn onest gyda mi. Pan fydda i’n gwneud tipyn o ffwl ohonof fy hun, rydw i am iddyn nhw ddweud hynny wrtha i. Rydw i eisiau i’r cyfeillgarwch fod yn ddigon cryf i gynnal pethau hyd yn oed pan fyddwn ni’n anghytuno.

Arweinydd:Felly beth sy’n digwydd, fel yn achos Tracey Emin, pan fydd hi’n anodd dod o hyd i ffrind o’r fath?

Mae Cristnogion yn defnyddio'r ddelwedd o garreg i ddisgrifio sut un yw Iesu. Maen nhw’n credu bod Iesu’n ddibynadwy a byth yn newid. Pan oedd Iesu ar y Ddaear, roedd ganddo ffrindiau arbennig a oedd yn cael eu galw’n ddisgyblion. Un o'r rhain oedd Pedr; roedd yn un o brif ddisgyblion. Pan ysgrifennodd Pedr lythyr at rai o’i ffrindiau fe ddisgrifiodd Iesu fel ‘maen bywiol’ - livingstone (gwelwch 1 Pedr 2.4-8). Mae hyn oherwydd bod Cristnogion yn credu bod Iesu’n fyw heddiw. Maen nhw’n credu eu bod yn gallu siarad ag ef, a’i fod yntau’n gallu bod yn agos atyn nhw. Maen nhw hefyd yn credu eu bod yn gallu seilio eu bywydau ar sefydlogrwydd yr hyn yr oedd yn ei addysgu.

Sut rydych chi’n dewis eich ffrindiau?

Wrth adeiladu wal gerrig neu dy, mae adeiladwr yn dewis y cerrig cywir yn ofalus, yn enwedig ar gyfer y corneli a'r linteli uwchben y ffenestri a’r drysau.

Mae cyfeillgarwch yn hanfodol i’n bywyd – gadewch i ni ddewis ein cyfeillion yn ofalus.

Gweddi 
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y llawenydd sydd i'w gael mewn perthynas dda.
Diolch i chi am ffrindiau agos, dibynadwy.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da i eraill.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘You've got a friend’  gan James Taylor

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon