Arwyr di-glod
Pobl ysbrydoledig o gyfnod yr Ail Ryfel Byd
gan Philippa Rae
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu bywyd rhai o arwyr yr Ail Ryfel Byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi gopi o un neu fwy o’r clipiau fideo YouTube canlynol, a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
- Mae’r fideo ‘Clara’ yn para am 1.44 munud, ac mae ar gael ar:http://tinyurl.com/h3c42kp
- Mae ‘Irena Sendler - Life in a Jar’ yn para am 3.40 munud, ac mae ar gael ar:http://tinyurl.com/hnvrqda
- Dewisol:Mae ‘Otto Weidt’s Workshop for the Blind’ yn para am 5.26munud, ac mae ar gael ar:http://tinyurl.com/jgqh27s - Ceir gwybodaeth bellach o’r ffynonellau canlynol:
- Raoul Wallenberg, ar gael ar:http://tinyurl.com/h46aa5v
- Prosiect Irena Sendler ar gael ar:http://tinyurl.com/3dvas
- Otto Weidt, ar gael ar:http://tinyurl.com/z8rjl5h
Gwasanaeth
- Ni ellir anghofio'r trasiedi'r Ail Ryfel Byd. Fe ddechreuodd yn y flwyddyn 1939, a'r un a fu’n gyfrifol am gychwyn yr achos oedd Adolf Hitler, arweinydd Plaid y Natsïaid yn yr Almaen. Bu colledion bywyd enfawr a dioddefwyd anafiadau brawychus gartref ac ar y meysydd cad, ond roedd rhywbeth sinistr hefyd yn digwydd. Gyda Hitler yn credu mewn hil 'Ariaidd' tra rhagorol, roedd yn golygu fod rhai grwpiau neilltuol o bobl, yn arbennig Iddewon, yn dioddef erledigaeth. Cyn bo hir, fe drodd gwahaniaethu, arwahaniaeth a difrawder i fod yn ddigwyddiadau sydd wedi dod i gael eu galw'n Holocaust. Dioddefodd miliynau o Iddewon yn enbyd a chollodd llawer ohonyn nhw eu bywyd.
- Fodd bynnag, o'r tywyllwch hwn, fe ymddangosodd rhai arwyr. Efallai eich bod yn gyfarwydd â stori Oskar Schindler, sy'n cael ei hadrodd yn y ffilm Schindler’s List. Diwydiannwr o'r Almaen oedd Oskar Schindler a beryglodd ei fywyd ei hun i achub llawer o Iddewon.
- Mae'r enw OskarSchindler yn adnabyddus iawn i ni, ond heddiw byddwn yn clywed am rai pobl eraill sy'n llai adnabyddus, ond a beryglodd eu bywyd i helpu eraill. Fe wnaeth y bobl hyn sylweddoli gwerth pob bywyd unigol ac roedden nhw'n benderfynol o wneud rhywbeth i helpu. Yn aml, ni welodd eu storïau olau dydd am ddegawdau ar ôl diwedd y rhyfel.
- Un o'r bobl hyn yw Clara, a gynorthwyodd ei thad gyda'r dasg o lunio dogfennau ffug i helpu Iddewon ddianc.
Chwaraewch y clip fideo YouTube ‘Clara’,ar gael ar:http://tinyurl.com/h3c42kp
Yn ei stori, mae Clara yn datgan mai'r gwir arwr oedd y diplomydd o Sweden, Raoul Wallenberg, a achubodd filoedd o Iddewon. Fodd bynnag, roedd gweithredoedd Clara a'i theulu o bwysigrwydd hanfodol. Pa un ai eu bod wedi achub un bywyd neu fil o fywydau, maen nhw'n parhau yn ysbrydoliaeth i ni heddiw. - Nyrs o Wlad Pwyl a gweithwraig gymdeithasol oedd Irena Sendler yr oedd ei stori yn anhysbys am flynyddoedd lawer, er yn ddiweddarach yn ei bywyd, cafodd ei henwebu am Wobr Heddwch Nobel, a'i hanrhydeddu mewn nifer o ffyrdd. Ni ddaeth ei stori'n wybyddus tan 1999, pan gafodd tri myfyriwr Americanaidd hyd i'w hanes wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer prosiect ysgol. Ers hynny, mae ei drama Life in a Jar, wedi cael ei llwyfannu gannoedd o weithiau yng Ngogledd America ac Ewrop.
Chwaraewch y clip fideo YouTube ‘Irena Sendler - Life in a Jar’, ar gael ar:
http://tinyurl.com/hnvrqda
Gyda chymorth ychydig o bobl eraill, llwyddodd Irena i smyglo tua 2,500 o blant Iddewig allan o Geto dinas Warsaw i ddiogelwch. Ysgrifennodd enwau'r holl blant a lwyddodd i'w hachub a chofnodi manylion amdanyn nhw. Yna, fe gladdodd y cofnodion hyn mewn jariau o dan goeden yn ei gardd fel un diwrnod, pan fyddai'r rhyfel drosodd, byddai modd i'r plant ail-ymuno â'u teuluoedd. Hyd yn oed pan gafodd Irena ei harteithio a'i charcharu, wnaeth hi ddim datgelu unrhyw wybodaeth am y plant. Hyd yr adeg y bu farw yn 98 mlwydd oed, mynnodd nad oedd yn arwres gan ddweud y byddai wedi dymuno gwneud mwy. - Roedd Otto Weidt yn berchen ar ffatri fechan yn ninas Berlin a oedd yn cynhyrchu ysgubellau a brwshys. Roedd yn cyflogi llawer o bobl ddall a byddar, yn cynnwys rhai a oedd yn Iddewon.
Dewisol: Chwaraewch y clip fideo YouTube ‘Otto Weidt’s Workshop for the Blind’,ar gael ar:http://tinyurl.com/jgqh27s
Brwydrodd Otto i ddiogelu llawer o weithwyr anabl Iddewig rhag cael eu halltudio, trwy ddefnyddio ei weithdy fel lloches iddyn nhw guddio yno. Ymdrechodd i sicrhau eu diogelwch trwy ffugio dogfennau a llwgrwobrwyo swyddogion Natsïaidd. Cafodd ei arestio sawl tro, ond llwyddodd i oroesi'r rhyfel, er bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach o fethiant y galon. Erbyn hyn, cafodd gydnabyddiaeth am ei waith achubol a chafodd amgueddfa ei henwi ar ei ôl i anrhydeddu ei enw.
Amser i feddwl
Heddiw, rydym wedi gweld nad oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn fodlon llaesu eu dwylo a gwneud dim i helpu'r rhai oedd mewn dirfawr angen, er gwaethaf y risg iddyn nhw eu hunain. Nid oedd eu dewrder yn nodwedd o ba genedl yr oedden nhw'n perthyn iddi - roedden nhw'n hanu o bob cwr o'r byd, yn cynnwys oddi mewn i'r Almaen ei hun. Merch ifanc oedd Clara, nyrs oedd Irena ac roedd Otto yn berchen ar ffatri fechan ar gyfer gweithwyr anabl. Fodd bynnag, roedden nhw i gyd yn gweithio i helpu'r rhai oedd mewn dirfawr angen.
Trwy'r cyfryw bobl, rydym yn dysgu bod gan bawb rôl i'w chwarae er mwyn creu cymdeithas well. Mae storïau fel y rhai hyn yn ein hysbrydoli ac yn gobeithio rhoi'r dewrder i ninnau ddysgu sefyll yn gadarn dros yr hyn yr ydym yn credu sy'n gyfiawn.
Gweddi
O Arglwydd,
Diolchwn i ti am yr arwyr hynny sydd, ar adeg o wrthdaro, wedi aberthu eu bywyd eu hunain er lles eraill.
Helpa bob un ohonom i ymdrechu dros wneud ein byd yn lle gwell i bawb fyw mewn heddwch.
Helpa ni i sefyll yn gadarn yn erbyn anghyfiawnder a chymryd camau positif i helpu'r sawl sydd mewn angen.
Amen.