Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arweinyddiaeth Rhan 2 – Pethau bach

Rhan dau mewn cyfres ynghylch datblygu potensial arweinyddiaeth yn y myfyrwyr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae gwneud y pethau bach yn dda yn gallu helpu pan fyddwn mewn sefyllfa o fod yn arweinydd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd o’r gwely heb ei dwtio.

    Tybed faint ohonoch sydd â'ch gwelyâu yn edrych yn debyg i hyn y foment hon. Os yw'r llun hwn yn dangos eich gwely, tybed sut olwg sydd ar weddill eich ystafell wely!

    Efallai eich bod yn pendroni pam yr ydym yn sôn am wneud gwelyâu mewn gwasanaeth sydd yn ymwneud ag arweinyddiaeth. Gobeithio, fe ddaw hynny'n eglur. 

  2. Dangoswch y ddelwedd o’r US Navy SEALs.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw'n adnabod y lifrau.

    Nodwch,os bu'r myfyrwyr yn edrych ar unrhyw raglen ar y teledu am yr hyfforddiant trwyadl y mae milwyr yn y lluoedd arbennig yn ei gael, fe fyddan nhw'n ddiamau wedi sylwi ar y rhinweddau arweinyddol y mae'r bobl hyn yn meddu arnyn nhw. Wedi'r cyfan, mae gofyn iddyn nhw fynd i rai o'r lleoedd mwyaf brawychus a heriol yn y byd. 

  3. Mae'r dyfyniad canlynol yn dod o anerchiad a gyflwynodd y Llyngesydd William H. McRaven, nawfed cadlywydd Awdurdod Gweithrediadau Arbennig yr UDA, gerbron graddedigion yn nhalaith Texas. Yn yr anerchiad hwn, rhannodd gyda'r graddedigion y deg gwers a ddysgodd yn ei hyfforddiant cychwynnol gyda'r SEALS

    Every morning, in SEAL training, my instructors . . . would show up in my barracks room and the first thing they’d do was inspect my bed. If you did it right, the corners would be square, the covers would be pulled tight, the pillow centred just under the headboard and the extra blanket folded neatly at the foot of the rack.

    It was a simple task, mundane at best, but every morning, we were required to make our bed to perfection. It seemed a little ridiculous at the time, particularly in light of the fact that we were aspiring to be real warriors - tough, battle-hardened SEALs - but the wisdom of this simple act has been proven to me many times over.’

  4. Gofynnwch y cwestiwn canlynol i'r myfyrwyr.

    - Pa wersi feddyliwch chi gafodd eu dysgu trwy berfformio'r dasg ddomestig, syml, hon?

    Efallai y byddwch am wrando ar ymateb rhai o’r myfyrwyr.

    Yn ei anerchiad, aeth y Llyngesydd McRaven ymlaen i egluro bod gwneud eich gwely'n daclus bob diwrnod yn golygu y gallwch chi:

    - wybod y byddwch wedi cyflawni tasg gyntaf y dydd
    - teimlo syniad bach o falchder
    - teimlo'n galonogol i wneud tasg arall 
    - dysgu bod y pethau bach mewn bywyd yn cyfrif
    - gwerthfawrogi, ar ôl diwrnod caled, pa mor hyfryd yw hi i ddod adref i wely sydd wedi ei wneud yn daclus ac yn barod i chi ddisgyn i mewn iddo a gallu gorffwys yn braf.

  5. Atgoffodd y Llyngesydd McRaven y graddedigion, os na fydd rhywun yn gallu ymddiried ynom ni i wneud y pethau bychain, fe fyddwn ni'n llai tebygol o gael ein hymddiried â phethau mwy. Weithiau, mae dysgu disgyblaeth a chysegru ein hunain i ymwneud â thasg fechan yn ein paratoi ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni tasg llawer mwy.

    Gall gwneud y gwely’n daclus ymddangos yn enghraifft od, ond fel y dywedodd y Llyngesydd McRaven, ‘the wisdom of this simple act has been proven to me many times over . . . so, if you want to change the world, start off by making your bed!’ 

  6. Dychmygwch mai eich unig her arweinyddol fyddai annog cannoedd o rai eraill i wneud eu gwelyâu’n daclus yn y bore. Faint o densiwn y byddech chi'n llwyddo i'w leddfu mewn cannoedd o deuluoedd?!

  7. Dangoswch y ddelwedd o’r person mewn oferôl.

    Dyma'r ffordd y mynegodd Thomas Edison, dyfeisiwr y bwlb golau trydanol, hyn pan ddywedodd,‘Opportunity is missed by most people because it is dressed in overalls and looks like work.’ Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn colli cyfle oherwydd bod y cyfle hwnnw wedi ei wisgo mewn oferôls ac yn edrych fel gwaith.

Amser i feddwl

Arweinwyr yw pobl sydd wedi dysgu pa mor bwysig yw gwneud y pethau bychain yn dda.

Pa bethau bach y gallech chi ganolbwyntio arnyn nhw heddiw? Cofiwch eich bod, drwy eu gwneud yn dda, yn cymryd camau ar y ffordd i arweinyddiaeth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Dysga ni beth y mae gwir arweinyddiaeth yn ei olygu.
Helpa ni i ddeall nad yw bod yn glyfar, yn ‘bossy’, neu’n boblogaidd ddim o angenrheidrwydd yn ein gwneud ni’n rhai a allai fod yn arweinwyr.
Helpa ni i fod yn ffyddlon gyda’r pethau bychain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon