Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Goron Goch a’r Goron Wen

Maximilian Kolbe, Sant Auschwitz

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o hunanaberth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen dwy goron bapur, un wen ac un goch.

Gwasanaeth

Arweinydd: A oeddech chi'n ddireidus pan oeddech chi'n iau? Mae'r mwyafrif o fechgyn a genethod yn ddireidus ar ryw amser. Roedd Raymund Kolbe yn sicr yn un direidus . . .

Darllenydd 1: Cafodd Raymund ei eni yng Ngwlad Pwyl yn y flwyddyn 1894, yn fab i wehydd tlawd. Yn dilyn un digwyddiad o ymddygiad direidus, a olygodd ei fod wedi derbyn ffrae haeddiannol, fe syrthiodd Raymund i gysgu. Tra roedd yn cysgu, cafodd freuddwyd. Yn y freuddwyd, fe ddaeth Mair, mam Iesu, ato a chynnig dwy goron iddo. Roedd un goron yn wen, ac roedd y llall yn goch. Dywedodd Mair y byddai'r goron wen yn fodd iddo fyw bywyd lle byddai ef yn dda, ac y byddai'r goron goch yn golygu y byddai'n dod yn ferthyr, rhywun fyddai'n marw dros ryw achos.  Pan gynigiwyd dewis iddo, fe ddewisodd Raymund y ddwy goron.

Arweinydd: Fel yr oedd yn tyfu i fyny, fe deimlodd Raymund mai'n rhan o'r eglwys y dylai fyw ei fywyd. Daeth yn fynach Ffransisgaidd a mabwysiadodd enw crefyddol, sef Maximilian. Roedd yn athro neilltuol a sefydlodd fynachdai yng Ngwlad Pwyl, Siapian ac India. Yn y flwyddyn 1939, pan oresgynnwyd Gwlad Pwyl gan yr Almaen, roedd Kolbe gartref yn ei wlad ei hun. Dan ei arweinyddiaeth ef, daeth y mynachdy ger Warsaw yn lloches ar gyfer ffoaduriaid, a'r mwyafrif ohonyn nhw'n Iddewon. Chymerodd hi ddim yn hir i'r awdurdodau Natsïaidd arestio Kolbe a'i gyd-offeiriaid a'u hanfon i'r gwersyll angau yn Auschwitz.

Darllenydd 2:Roedd yr amodau ar gyfer carcharorion yn Auschwitz yn ofnadwy, er hynny fe fabwysiadodd Maximilian fywyd lle'r oedd yn gwasanaethu'r rhai oedd o'i amgylch. Caniataodd i eraill gymryd y dognau prin o fwyd a roddwyd iddo a rhannu gydag eraill y tameidiau prin y byddai'n cael gafael ynddyn nhw. Bob nos, fe fyddai'n symud oddi wrth y naill garcharor at y nesaf, gan ofyn iddyn nhw beth fyddai ef yn gallu ei wneud iddyn nhw, yn arbennig fel offeiriad. Dysgodd iddyn nhw faddau i'w gwarchodwyr ac i oresgyn y drygioni o'u hamgylch â daioni. Pan gai Maximilian ei guro a'i arteithio, byddai'n gweddïo dros y rhai a oedd yn ei niweidio. Er hynny, roedd ei weithred bwysicaf eto i ddod.

Arweinydd: Un diwrnod, diflannodd tri charcharor o Auschwitz, a gorchmynnodd penswyddog y gwersyll y dylai deg o ddynion gael eu hatal rhag cael bwyd a newynu i farwolaeth mewn byncer tanddaearol fel arwydd o ddial. Un o'r deg a ddewiswyd oedd dyn ifanc a oedd yn drallodus wrth feddwl y byddai'n rhaid iddo ymadael â'i deulu ifanc. Camodd Maximilian ymlaen a chynnig ei hun i gymryd ei le, a derbyniodd y penswyddog ei gynnig.

Ar 14 Awst 1941, ar ôl pythefnos heb fwyd, bu farw Maximilian Kolbe. Fe ddaeth yn ferthyr. Lledaenodd y stori amdano drwy'r gwersyll. Disgrifiodd un carcharor ei weithred fel ‘pelydryn nerthol o oleuni yn nhywyllwch y gwersyll’. Cafodd y dyn ifanc gafodd ei achub, fyw i weld ddiwedd y rhyfel a chael ail-ymuno â'i wraig. Bu farw yn y flwyddyn 1995, yn 93 mlwydd oed.

Amser i feddwl

Arweinydd: Mae Cristnogion yn credu, yn yr un ffordd ag aberthodd Maximilian Kolbe ei fywyd er mwyn rhywun arall, yn yr un modd fe roddodd Iesu ei fywyd er mwyn eraill. Fe ddaeth dewis Iesu'n esiampl i bawb sydd yn ei ddilyn, yn cynnwys y Tad Maximilian. Nid yw Cristnogion yn credu fod Iesu'n ein galw i gyd i fod yn ferthyron, ond maen nhw'n credu fod Iesu eisiau i ni fyw bywyd hunanaberthol, trwy roi anghenion eraill o flaen ein hanghenion ni ein hunain. Felly sut y gall hyn fod yn berthnasol i chi a fi? Rwyf wedi meddwl am dair ffordd yn unig, ond rwy'n sicr y byddwch chi'n gallu meddwl am lawer mwy!

Darllenydd 1: Ffordd syml i ddechrau yw i ni feddwl am yr ymadrodd , ‘Ar eich ôl chi’. A ydych yn casáu ciwiau? Dyna farn llawer ohonom. Rydym eisiau cyrraedd blaen y ciw, cael ein tro heb aros, yn arbennig os oes unrhyw debygolrwydd na fydd y cyfle'n parhau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd yn newynu, gadawodd y Tad Maximilian i eraill fynd o'i flaen. Nid dim ond ynglyn â chymryd y lle a roddir i ni y mae hunanaberth yn ymwneud, ond hefyd am fod yn ddigon graslon i roi lle i eraill o'n blaen, yn enwedig pan maen nhw'n iau, yn llai abl neu'n llai dominyddol.

Darllenydd 2: Ail ffordd o fod yn hunanaberthol yw derbyn bai yn ddi-gwestiwn pan ydym yn euog. Gall eraill fod yn rhan o achos neilltuol a cheisio gwadu eu heuogrwydd, ond gobeithio, fe fyddai'n esiampl ni yn cael effaith ar eraill, fel bod cyfiawnder yn cael ei weithredu.

Darllenydd 1: Yn olaf, gallwn ddangos hunanaberth trwy ddatblygu agwedd lle bydd anghenion pobl eraill yn cael blaenoriaeth dros ein hanghenion ni. Yn Auschwitz, aeth y Tad Maximilian o gwmpas yn gofyn cwestiwn syml, ‘Beth alla' i wneud i chi?’

Beth am roi cynnig ar hynny heddiw? Cyn dweud unrhyw beth amdanom ein hunain, beth am ofyn sut y mae rhywun arall yn teimlo? Cyn ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ni elwa arno mewn sefyllfa neilltuol, beth am ofyn a oes unrhyw un angen rhywbeth? Yn hytrach na meddwl amdanom ni ein hunain wrth i ni fynd o amgylch yr ysgol, beth am edrych o gwmpas ar eraill, gweld y sawl sy'n unig, yn anhapus neu’n nerfus, a gofyn iddyn nhw beth allech chi ei wneud i helpu. Mae'n agwedd sy'n allblyg yn hytrach na bod yn un fewnblyg.

Tynnwch y ddwy goron allan a chynhigiwch nhw i'r myfyrwyr.

Tybed fyddech chi'n derbyn y goron wen a bod yn fyfyriwr da, teimladwy a gweithgar?
Tybed fyddech chi'n derbyn y goron goch ac yn fodlon bod yn hunanaberthol?
Tybed faint ohonoch fyddai, fel y Tad Maximilian, yn derbyn y ddwy?

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y cyfleoedd ym mywyd ein cymuned i ni allu helpu ei gilydd.
Boed i ni fod yn sensitif wrth weld y cyfleoedd hynny, ac yn weithgar wrth ymgymryd â nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘Reach out (I’ll be there)’ gan y Four Tops

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon