Mae maddeuant yn bwysig
Mae maddau’n gwneud gwahaniaeth
gan Helen Levesley (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Ystyried beth yw ystyr maddau.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
Gwasanaeth
Arweinydd: Beth mae maddau'n ei olygu? Mewn geiriadur Saesneg fe fyddech yn debygol o weld diffiniad fel a ganlyn ar gyfer y gair ‘forgive’: ‘no longer feel angry about or wish to punish [someone for] an offence, flaw or mistake, or cancel a debt’.
Gadewch i ni edrych ar ddwy enghraifft o wir faddeuant.
Darllenydd 1: Glaslanc gyda'i fywyd i gyd o'i flaen oedd Anthony Walker. Roedd wedi sefyll ei arholiadau Lefel A, ac roedd disgwyl iddo ennill gradd 'A' ym mhob pwnc. Roedd yn bwriadu mynd i brifysgol. Cafodd Anthony ei lofruddio'n greulon mewn ymosodiad hiliol yn ystod yr haf yn y flwyddyn 2005. Pan gafwyd y rhai a’i llofruddiodd yn euog ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, safodd Gee, mam Anthony, y tu allan i'r llys a gwnaeth y datganiad canlynol.
Darllenydd 2: ‘Why live a life sentence? Hate killed my son, so why should I be a victim, too? Unforgiveness makes you a victim and why should I be a victim? Anthony spent his life forgiving. His life stood for peace, love and forgiveness and I brought them up that way.’
Arweinydd: Dyna i chi ddynes ryfeddol! Mae gallu dweud eich bod yn maddau i rywun am gymryd bywyd eich mab oddi arnoch chi, a golygu hynny, yn gwneud Gee Walker yn rhywun sy'n wirioneddol ryfeddol. Ac eto, gallwn ddefnyddio maddeuant yn ein bywyd o ddydd i ddydd, boed hynny yn achos y brad mwyaf neu'n ffrae ddibwys.
Mae'n anodd i ni ddychmygu sefyllfa sy'n debyg i'r un yr oedd Gee Walker ynddi. Ond mae maddeuant yn un o'r camau pwysicaf y gallwch ei gymryd tuag at dawelwch meddwl, hyd yn oed os yw'n golygu maddau i'ch chwaer am dorri eich teclyn trin gwallt, i’ch mam am eich rhwystro rhag gadael y ty, neu i’ch tad am ymadael, neu hyd yn oed faddau i’ch nain am farw.
Mae bywyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ni deimlo llid, i feithrin niwed, ail-fyw hen gwynion a mudferwi â dicter cyfiawn. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan Archesgob Desmond Tutu i'w ddweud am faddeuant. Bu ef yn ymwneud â phrosiectau cymod yn Ne Affrica a Gogledd Iwerddon.
Darllenydd 3: ‘When I talk of forgiveness, I mean the belief that you can come out the other side a better person. A better person than the one being consumed by anger and hatred. Remaining in that state locks you in a state of victimhood, making you almost dependent on the perpetrator. If you can find it in yourself to forgive, then you are no longer chained to the perpetrator. You can move on, and you can even help the perpetrator to become a better person, too.’
Arweinydd: Yr hyn sy'n cael ei fynegi yma yw fod cyswllt rhyngoch chi a'r unigolyn sydd wedi eich brifo, beth bynnag wnaethon nhw, a bod y broses o faddeuant yn galluogi i'r cyswllt hwnnw gael ei dorri. Yr hyn sy' eich clymu ynghyd yw'r holl deimladau hynny o lid a niwed. Gall faddeuant fod y siswrn sy'n torri'r rhwymyn a'ch galluogi chi i ddeall a symud ymlaen.
Nid yw maddau byth yn hawdd; gall fod yn hynod anodd cyflawni hynny, hyd yn oed wrth ymwneud â phethau dibwys. Gall niwed emosiynol, y sioc o fod yn ddioddefwr, barhau am amser hir, hyd yn oed am oes. Ond mae dechrau'r broses o faddau yn helpu'r adferiad hwnnw. Mae Gee Walker yn parhau i alaru am ei mab, ond pan ofynnwyd iddi pam y dewisodd faddau, fe soniodd am ei ffydd, gan ddweud, ‘I have to practise what I preach’ - rhaid i mi ymarfer yr hyn rwy'n ei bregethu. Fel Cristion ymroddedig, mae hi'n dilyn esiampl Iesu o faddau i eraill, hyd yn oed i’r rhai a fu'n gyfrifol am ei groeshoelio. Ar y groes, fe ddywedodd Iesu, ‘O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.’
Felly, y tro nesaf y bydd rhywun wedi brifo’ch teimladau oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i chi, meddyliwch am yr enghreifftiau o faddeuant yr ydym wedi rhoi sylw iddyn nhw heddiw. Hyd yn oed os byddwch yn dechrau mewn ffordd fach, pan fyddwch yn dechrau ac yn ailadrodd yr ymarfer o faddau, fe ddaw fel diferyn o ddwr: dros amser, bydd yn treulio'r garreg, ac yn eich galluogi i ddeall a symud ymlaen.
Amser i feddwl
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rho i ni’r gallu i faddau, hyd yn oed os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny.
Gad i ni weld bod maddau i bobl yn ein galluogi ni i symud ymlaen.
Gad i ni ddilyn esiampl Gee Walker, ac yn ei thro, yr enghraifft a roddwyd i ni gan Iesu, a maddau.
Gad i ni hefyd ddeall bod maddeuant yn emosiwn a fydd yn cymryd amser i ni ei ddeall, ond gyda dy gymorth di, fe allwn ni ddod i ddeall, a maddau.
Amen.