Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adfent: Disgwyl a Gobeithio

Tymor y paratoi

gan Tim and Vicky Scott (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein helpu i ddeall ystyr tymor Cristnogol yr Adfent.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen calendr Adfent. Os yw'n galendr sy’n cynnwys siocledi, efallai y byddwch yn dymuno rhannu’r rhain tuag at ddiwedd y gwasanaeth fel gwobrau ar gyfer y rhai sy'n gallu ateb cwestiynau am ystyr yr Adfent.

    Mae hefyd yn ddefnyddiol os oes gennych chi galendr Adfent traddodiadol, heb siocledi, sy'n dangos golygfa Gwyl y Geni ar y blaen. Os nad oes un ar gael, gallech ddefnyddio delwedd o Wyl y Geni yn lle hynny, ac os felly, fe fydd arnoch chi hefyd angen y modd o arddangos y ddelwedd honno. Mae delwedd ar gael ar: http://tinyurl.com/j9nlson

Gwasanaeth

  1. Eleni, mae Sul cyntaf yr Adfent ar 27 Tachwedd.

    Bydd Sul cyntaf yr Adfent yn digwydd ar y pedwerydd Sul cyn dydd Nadolig. Yn nhraddodiad Cristnogol y Gorllewin, mae’n nodi cychwyn y flwyddyn eglwysig.

  2. Daw’r gair ‘Adfent’ o’r Lladin ‘adventus’, sy’n golygu ‘dyfodiad’ neu ‘cyrraedd’.

    Beth yw pwrpas tymor Cristnogol yr Adfent? Yng nghalendr yr eglwys, mae’n dynodi’n syml bod y Nadolig bron â chyrraedd: dyfodiad Iesu Grist i’r byd 2000 o flynyddoedd yn ôl, fel baban, ym Methlehem. Mae’r digwyddiad hwnnw’n cael ei alw Yr Adfent Cyntaf.

    Ond mae Cristnogion yn credu bod tymor yr Adfent hefyd yn gyfnod o edrych ymlaen yn ddisgwylgar at ddychweliad Crist yn ei Ail Adfent, yn y dyfodol. Felly nid yw’r Adfent yn gymaint ag yn gyfnod sy’n cofnodi digwyddiad hanesyddol; mae hefyd yn gyfnod o ddathlu bod Duw’n datguddio ei hun trwy Iesu, y Brenin sydd ar ddyfod. Bydd cyfnod yr Adfent yn parhau hyd at hanner nos ar Noswyl y Nadolig. 

  3. Mae Cristnogion yn credu eu bod nhw’n awr yn byw yn y cyfnod rhwng yr Adfent Cyntaf a’r Ail Adfent. Yn ystod tymor yr Adfent, wrth i Gristnogion ganolbwyntio ar y gorffennol yn ogystal ag ar y dyfodol, maen nhw’n cadarnhau bod Iesu wedi camu i mewn i’n hanes ni fel pobl 2000 o flynyddoedd yn ôl, ac maen nhw’n credu y bydd Iesu’n dod eto, i ddod â chyfiawnder, heddwch a thegwch byd-eang.

  4. Yn draddodiadol mae’r Adfent yn gyfnod o ympryd - yn amser i gwtogi ar faint fyddwn ni’n ei fwyta a’i yfed, i weddïo mwy, a throi ein meddyliau tuag at ddyfodiad Iesu fel baban. Golyga hyn, wrth i ni nesáu at ddydd y Nadolig ei hun, y byddwn ni, o bosib, yn gallu mwynhau’r dathliadau yn well.Ond, ychydig iawn o bobl sy’n ymprydio’r dyddiau hyn yn ystod yr Adfent, a’r gwir yw, fodd bynnag, mae’r mwyafrif ohonom yn cael ein partïon Nadoligaidd yn ystod yr Adfent y dyddiau hyn, yn hytrach nag yn ystod y ‘deuddeg diwrnod’ ar ôl y Nadolig, fel y byddai pethau’n digwydd yn ôl yr hen draddodiad.

  5. Dechrau cyfnod yr Adfent fel rheol yw’r adeg pryd y bydd ein paratoadau ar gyfer y Nadolig yn cychwyn o ddifrif – anrhegion yn cael eu dewis a’u lapio, caiff y cardiau Nadolig eu hysgrifennu a’u postio i’n teuluoedd a’n ffrindiau, fe fydd ein tai yn cael eu haddurno - yn aml â goleuadau, a golygfa o Wyl y Geni a’r gwahanol gymeriadau rydyn ni’n eu cysylltu â’r hanes, a byddwn yn canu carolau.

  6. Dangoswch eich calendr Adfent i’r myfyrwyr.

    Bydd calendrau Adfent fel rheol yn dechrau ar 1 Rhagfyr, gyda 24 ‘ffenestr’. Bydd y calendrau’n gyfrwng i rifo’r dyddiau tuag at y Nadolig – ac mae rhai yn cynnwys siocledi hefyd! (Os ydych chi’n meddwl fod hynny’n briodol, fe allech chi ofyn rhai cwestiynau ynglyn â’r Nadolig a rhoi’r siocledi fel gwobrau i’r rhai fydd yn ateb yn gywir.)

Amser i feddwl

Mae’r Adfent yn gyfnod o aros disgwylgar a pharatoi ar gyfer dathlu genedigaeth Iesu fel bod dynol. Er gwaethaf gostyngeiddrwydd genedigaeth Iesu, mae Cristnogion yn credu bod ei ddyfodiad cyntaf i’r Ddaear wedi newid y byd am byth.

Meddyliwch am y newidiadau yr hoffech chi eu gweld yn digwydd er mwyn dod â chyfiawnder a heddwch i’r byd. Sut mae modd i chi helpu i wneud i’r newidiadau hynny ddigwydd?

Beth ydych chi’n ei hoffi am y Nadolig? Sut y gallwch chi helpu i wneud y Nadolig hwn yn adeg o lawenydd a heddwch i bobl eraill?

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon