Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Elusen 'Crisis' Ar Adeg Y Nadolig

gan James Lamont (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar waith ‘Crisis’, yr elusen Brydeinig sy’n darparu ar gyfer y rhai sy’n ddigartref adeg y Nadolig, ac annog y myfyrwyr i ystyried pa mor bwysig yw helpu a rhoi ar adeg y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Elusen yw ‘Crisis’ sydd yn helpu pobl sengl digartref trwy Brydain, ac yn darparu lloches iddyn nhw neu gymorth i ddarganfod lle diogel i fyw neu hyd yn oed ddod o hyd i waith.

    Er gwaethaf ymdrechion gan lywodraethau olynol i sicrhau bod darpariaeth eang o les cymdeithasol ar gael i bobl, o’r crud i’r  bedd, mae miloedd o bobl yn ddigartref ar strydoedd Prydain, a’r disgwyliad yw y bydd y sefyllfa hon yn gwaethygu, o wybod beth yw cyflwr truenus yr economi a thoriadau i’r budd-dal tai. Mae prinder o dai cymdeithasol, a rhoddir blaenoriaeth i deuluoedd, sydd yn ei gwneud hi’n anos fyth i bobl sengl digartref gael lle i fyw. 

  2. Mae ‘Crisis’ yn brysur iawn dros gyfnod y Nadolig. Tymor y Nadolig yw, o bosib, yr amser gwaethaf i fod yn ddigartref. Yn ogystal â’r oerni gerwin, digyfaddawd, mae rhai anffodus yn cael eu hatgoffa’n  gyson o’r holl wario a’r dathlu sy’n cael ei wneud gan y rhai sydd yn fwy ffodus. 

    Yn 2010, yn ystod cyfnod y Nadolig, darparodd ‘Crisis’ loches ar gyfer 3,000 o bobl mewn canolfannau ar draws Llundain. Y flwyddyn hon, mae miloedd o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed i ddwyn y darpariaethau i ben, fydd yn croesawu dros 3,000 o bobl mewn naw canolfan ar draws Llundain rhwng 23 a 30 Rhagfyr.

    Y flwyddyn ddiwethaf fe weinyddodd y gwirfoddolwyr dros 25,000 o brydau bwyd, darparu dosbarthiadau celf a chrefft, cynnig cyngor ynglyn â gwaith, a galluogi pobl fregus i weld meddyg neu ddeintydd. Peth yr un mor bwysig, ond rhywbeth sydd ddim mor hawdd ei gofnodi, yw rhoi cynhesrwydd a chyfeillgarwch. Mae pob un ohonom, y rhai digartref yn ogystal â rhai sydd â chartrefi, angen cwmnïaeth - mae unigrwydd yn broblem fawr ym mhrif ffrwd y gymdeithas yn ogystal ag ar y cyrion. Mae  gwerth gweithredoedd unigol o gymorth a charedigrwydd yn anfesuradwy. 

  3. Canlyniad y ffaith nad oes digon o dai yw achos digartrefedd, ac mae hynny’n gyrru prisiau tai i fyny. Mae’n broblem y gellir ei datrys. Mae’n wir fod alcoholiaeth a bod yn gaeth i gyffuriau eraill yn gallu achosi pobl i golli eu cartrefi; ond fe ddylid edrych ar ddigartrefedd fel trasiedi ddynol yn hytrach na chosb. Nid yw bod yn gaeth i gyffuriau o unrhyw fath yn ddigon o drosedd i gyfiawnhau digartrefedd. 

    Mae dywediad enwog sy’n datgan os rowch chi bysgodyn i berson, y byddwch yn bwydo’r unigolyn hwnnw am ddiwrnod, ond os gwnewch chi addysgu rhywun i bysgota, byddwch yn bwydo’r person hwnnw trwy gydol ei oes. Os yw’n bosibl, trwy gymorth elusennau a’u cefnogwyr, rhoi sgiliau newydd i’r digartref, yna mae ganddyn nhw’r siawns i osgoi bod yn ddigartref. I sicrhau hyn, maen nhw angen cymorth gan y rhai mwyaf ffortunus.

    Datblygiad pellach
    O ganlyniad i feddwl am y digartref yr adeg hon o’r flwyddyn, efallai yr hoffech chi weithio fel ysgol i gyfrannu tuag at yr elusen ‘Crisis’.  Fel arall, gall fod banc bwyd wedi ei sefydlu gerllaw eich ysgol y byddai modd i chi, fel ysgol, gyfrannu bwyd i bobl leol sy’n dioddef o dlodi bwyd. (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ ar gyfer y wefan.)

Amser i feddwl

Mae’r rhoi a derbyn caredigrwydd dynol yn ganolog i’r Nadolig. Mae cymryd amser yn ystod gwyliau i helpu eraill, boed y bobl ar gyrion cymdeithas, fel y digartref hirdymor, neu unrhyw un sydd angen cefnogaeth, yn sicr o fod yn rhan wirioneddol o ystyr y Nadolig.

Rhannu tosturi, cynhesrwydd a charedigrwydd yw’r pethau sy’n ein gwneud yn ddynol.  Rhannwch y pethau hyn y Nadolig hwn, oherwydd nid oes gwell amser i wneud hynny.  

Gweddi

Dad nefol,
ar yr amser hwn o ddathlu,
o gynnal partïon, a theuluoedd yn dod ynghyd,
helpa fi i gofio bod rhai pobl yn cael eu heithrio,
yn oer, yn unig ac yn newynog.
Bendithia waith pawb o’r rhai hynny sy’n helpu i roi
Nadolig da i bobl mewn angen.
A helpa fi i weithio er mwyn creu Nadolig llawen i bawb. 

Cân/cerddoriaeth

Cân Phil Collins, ‘Another day in paradise’ (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’)

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon