Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Duw ynom ni

Y posibilrwydd o Dduw yn byw gyda ni ac ynom ni

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ystyried ein perthynas â Duw byw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen i arweinydd y gwasanaeth fod yn gyfarwydd â'r sgript er mwyn ei chyflwyno’n dda.

Gwasanaeth

  1. Dyma gwestiwn i bob un ohonoch. A ydych chi erioed wedi dychmygu sut beth yw bod yn feichiog, yn cario bod dynol byw arall tu mewn i'ch corff, sy'n rhan ohonoch, eto'n rhannol yn rhywun sydd â'i hunaniaeth ef neu hi ei hun? Gallwch deimlo'r bod dynol byw hwn. Mae'n symud, yn aml yn ddirybudd, oherwydd mae iddo ei fywyd ei hun. Caiff ei effeithio gan y ffordd yr ydych chi'n byw, eich tymer a'ch arferion a'r hyn y byddwch yn ei fwyta a'i yfed, a hefyd bydd yn cael effaith ddramatig ar yr hyn y byddwch neu na fyddwch yn gallu ei wneud. Allwch chi ddychmygu sut y byddai hyn yn teimlo? Gall ymateb bechgyn fod yn wahanol i ymateb merched ynghylch y syniad o gario babi. I lawer o'r merched yma, bydd peth fel hyn yn realiti ar ryw adeg, o bosib, ac yn brofiad y bydd y rhan fwyaf yn ei gael mewn gwirionedd.

  2. Mae fy nghwestiwn o bwys neilltuol ar adeg y Nadolig, pryd y byddwn yn cofio am stori Mair. Roedd hi'n cario babi, ac roedd hynny, rwy'n siwr, yn cael effaith arni hi mewn llawer o'r ffyrdd rydw i wedi eu disgrifio. Ar ben hyn oll, bu raid i Mair oddef taith hir, anghyfforddus oherwydd trefn gofrestru'r Rhufeiniaid. Merch ifanc, feichiog oedd hi, wedi dyweddïo, ond er hynny heb briodi, ac, yn ôl y Beibl, heb gael profiad o gyfathrach rywiol. Mae Cristnogion yn credu ei bod hi wedi beichiogi mewn ffordd arbennig, a'i bod yn cario Mab Duw yn ei chroth. Mae Cristnogion yn credu nad bod dynol cyffredin oedd y plentyn a oedd yn tyfu yng nghroth Mair. Rhaid bod pen Mair yn llawn cwestiynau. Rhaid ei bod hi wedi profi pryderon, amheuon a llawer o ansicrwydd trwy gydol ei beichiogrwydd. Fodd bynnag, mae'r stori yn y Beibl hefyd yn disgrifio ei llawenydd a'r syniad o dangnefedd oedd ganddi am ei bod wedi cael ei dewis gan Dduw ar gyfer tasg mor arbennig.

  3. Mae gan wahanol grefyddau ddealltwriaethau amrywiol o'r berthynas rhwng Duw a'r rhai sy'n credu ynddo. Mae Iddewon a Christnogion yn credu bod pob bod dynol yn meddu ar rywbeth o Dduw. Mae storïau'r creu sydd gan y crefyddau hyn yn gytûn yn dechrau gyda'r gosodiad bod bodau dynol wedi cael eu creu ar lun a delwedd Duw. Maen nhw'n credu ein bod ni'n rhannu personoliaeth Duw ac agweddau o'i gymeriad. Er enghraifft, gallwn wahaniaethu rhwng da a drwg ac mae gennym obeithion a breuddwydion, ofnau a gofidiau. Mae Iddewon a Christnogion yn credu mai dyna beth sy'n gwahaniaethu pobl oddi wrth bob anifail arall. Mae gennym rywbeth o Dduw sy'n greiddiol ynom ni.

  4. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn gallu dod i mewn i fywyd unigolyn ar ffurf yr Ysbryd Glân. Maen nhw'n credu y gall hynny gael effaith dramatig ar y modd y mae unigolyn yn byw, yn union fel y gwnaeth Iesu i Mair. Mae Cristnogion yn credu bod arddel perthynas gyda Duw yn ein newid er gwell, yn fodd o ddileu camweddau a gofidiau'r gorffennol, ac yn ein hysgogi i fyw bywyd o fath gwahanol.

Amser i feddwl

Yn stori'r Nadolig, gall y rhan am ddyfodiad Iesu yn hawdd datblygu i fod yn rhywbeth hynod a sentimental - baban yn cael ei eni mewn beudy, yng nghwmni defaid anwesog a gwartheg serchog, ac yn derbyn ymweliad gan fugeiliaid a doethion. Fodd bynnag, realiti'r stori ar gyfer Cristnogion yw bod beichiogrwydd Mair yn arwydd grymus o ryngweithiad personol ac agos iawn Duw â'i fyd. Mae Duw yn cydnabod yr anawsterau a wynebwn wrth fyw ein bywyd. Mae'n deall pam y mae cymaint ohonom yn dyheu am ddyfodiad arch-arwr a fyddai’n gallu datrys ein problemau. Eto, nid yw ddim ond yn sefyll wrth ein hochr, neu'n ymyrryd ac wedyn yn ymadael. Nid yw'n gweithredu fel cynghorwr, mentor, barnwr neu fel eilydd o arch-arwr. Mae Cristnogion yn credu mai dymuniad Duw yw gweithredu oddi mewn i ni, i fod yn rhan o'n dealltwriaeth, ein hemosiynau, ein gobeithion a'n breuddwydion, ein dewrder â'n penderfyniadau.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am dy gynnig i ddod i rannu ein bywyd.
Atgoffa ni o hyn pan fyddwn ni’n teimlo’n unig, yn wrthodedig, neu’n fregus.
Gad i ni roi’r cyfle i ti fyw ynom ni.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Breath of heaven (Mary’s song)’ gan Amy Grant

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon