Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arweinyddiaeth Rhan 3 – Ffydd a Beirniadaeth

Rhan tri mewn cyfres ynghylch datblygu potensial arweinyddiaeth yn y myfyrwyr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried effaith ffydd ar arweinyddiaeth, a’r ffordd y gall arweinwyr wynebu beirniadaeth yn aml.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r myfyrwyr am beth maen nhw'n meddwl pan fyddan nhw'n clywed y gair ‘arweinydd’.

    Dangoswch y ddelwedd o gasgliad o arweinwyr byd..

    Efallai y byddwch yn dymuno holi a yw'r myfyrwyr yn gallu enwi'r arweinwyr hyn.

  2. Nodwch, pan fyddwn ni’n ystyried y gair ‘arweinydd’, bydd rhai delweddau neilltuol yn dod i'r meddwl weithiau. Efallai y byddwn yn meddwl am bobl busnes tra-phwysig, yn gwisgo siwtiau smart, yn cyfleu grym. Efallai y byddwn yn meddwl am Lord Sugar!

    Dangoswch y ddelwedd o Lord Sugar.

  3. Dangoswch y ddelwedd o Mother Teresa.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ddychmygu eu bod heb glywed erioed am y Fam Teresa, ac yna gofynnwch y cwestiynau canlynol:

    - A fyddai'r gair ‘arweinydd’ yn dod i flaen y meddwl yn syth wrth weld y ddelwedd hon?
    - Pam?
    - Pam ddim?

    Eglurwch mai lleian Babyddol oedd y Fam Teresa a oedd wedi ei geni yn y wlad sydd erbyn heddiw’n cael ei galw’n Weriniaeth Macedonia. Roedd hi'n byw yn unol ag addewidion o ddiweirdeb, tlodi ac ufudd-dod, a bu'n gweithio am y rhan helaeth o'i bywyd yn India. Yno, roedd yn rhedeg hosbisau a chartrefi ar gyfer y tlodion, ar gyfer rhai a oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf a HIV, ac ar gyfer plant amddifad.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr beth oedd yn gwneud y Fam Teresa yn arweinydd byd.

  4. Darllenwch y dyfyniadau canlynol o eiddo'r Fam Teresa a gofynnwch i'r myfyrwyr feddwl am eu hystyr. Cymerwch saib er mwyn rhoi'r cyfle i'r myfyrwyr feddwl ar ôl pob dyfyniad.

    - ‘Do not wait for leaders; do it alone, person to person.’
    - ‘Not all of us can do great things. But we can do small things with great love.’
    - ‘I can do things you cannot, you can dothings I cannot; together we can do great things.’
    - ‘God has not called me to be successful; he has called me to be faithful.’

    Efallai y byddwch yn awyddus i ddangos y cwmwl geiriau sy'n arddangos y ‘geiriau arweinyddol’- egwyddorion, gwerthoedd, gostyngeiddrwydd, gwrando, gwerthfawrogiad, rhagwelediad, ymrwymiad a ffyddlondeb.

  5. Nodwch nad yw arweinyddion bob amser yn boblogaidd. Nid yn unig fe enillodd y Fam Teresa gymeradwyaeth; fe wynebodd feirniadaeth, hefyd, am ei safbwynt yn erbyn erthyliad. Dywedai eraill ei bod yn ffrind i dlodi yn hytrach na ffrind i'r tlodion, y dylai hi fod wedi adeiladu clinigau cyntefig, modern ar gyfer y tlodion, ac y dylai hi fod wedi hybu'r ymgyrch i geisio cael mwy o rym i ferched.

    Fodd bynnag, nid oes amheuaeth fod ei hesiampl wedi ysbrydoli miloedd o bobl gyffredin dros y byd i gyd i garu, gofalu a rhoi.  Roedd y Fam Teresa’n byw ei Ffydd Gristnogol o ddydd i ddydd ac roedd hynny'n ysgogi ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. 

  6. Dangoswch y ddelwedd o Angela Merkel.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw’n gallu enwi'r arweinydd byd sydd yn y llun. Rhowch y crynodeb byr hwn o'i bywyd i'r myfyrwyr.

    Mae Angela Merkel yn Gristion, yn ferch i weinidog Protestannaidd. Cafodd ei magu yn yr hyn oedd yn Ddwyrain yr Almaen, lle'r oedd ei theulu dan wyliadwriaeth gan lywodraeth gomiwnyddol a oedd yn gwrthwynebu'n ideolegol y ffydd Gristnogol a rhyddid yr unigolyn. Roedd ei chartref teuluol yn cynnwys canolfan eglwysig ar gyfer y rhai oedd ag anableddau meddyliol a chorfforol.

    Gwyddon wraig ymchwiliol oedd Angela Merkel cyn iddi ddod yn arweinydd yr Undeb Cristnogol Democrataidd (y CDU), ac yna'n Ganghellor yr Almaen. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn 2015, cafodd ei henwi fel Unigolyn y Flwyddyn gan y cylchgrawn Time am ei gwerthoedd dyngarol, ei haelioni anghyffredin, a'i goddefgarwch crefyddol.

    Roedd gan Angela Merkel gymaint o gonsyrn am yr argyfwng yn y Dwyrain Canol fel ei bod wedi cynnig lloches yn yr Almaen i'r rhai hynny oedd yn dianc rhag y gwrthdrawiadau ofnadwy yng ngwlad Syria a gwledydd cyffelyb. Fe ddangosodd nad oedd ganddi ofn sefyll yn gadarn dros yr hyn yr oedd yn ei gredu a'i gwerthoedd, ei gofal am y newynog a'r digartref, y ffoaduriaid a'r rhai oedd wedi eu difeddiannu, ceiswyr lloches, gweddwon a phlant amddifad. Tra roedd eraill eisiau cau allan estroniaid a dieithriaid, fe roddodd hi groeso cynnes i'r rhai a oedd yn wahanol.

    Efallai yr hoffech chi ddangos y cwmwl geiriau unwaith yn rhagor a holi ai'r un gwerthoedd fel arweinwyr oedd gan y Fam Teresa ac Angela Merkel.

  7. Nodwch fod Angela Merkel, fel y Fam Teresa, wedi derbyn beirniadaeth, yn bennaf gan rai sy'n teimlo dan fygythiad gyda'r mewnlifiad sydyn o fewnfudwyr. Mae ei safiad wedi niweidio ei phoblogrwydd ac wedi lleihau'r gefnogaeth i'w phlaid wleidyddol. Er hynny, mae hi wedi dyfalbarhau wrth wynebu'r her o roi lloches i dros filiwn o fewnfudwyr.

  8. Gall pobl fod â llawer o safbwyntiau gwahanol am y Fam Teresa ac Angela Merkel. Fodd bynnag, merched yw'r ddwy sy'n cael eu cydnabod yn arweinwyr. Mae bod yn arweinydd yn eich gosod mewn sefyllfa lle byddwch yn sicr o dderbyn beirniadaeth.

Amser i feddwl

Dangoswch y delweddau o’r Fam Teresa ac Angela Merkel eto.

Mae Angela Merkel, fel y Fam Teresa, wedi datgan mai’r llyfr mwyaf dylanwadol yn ei bywyd yw'r Beibl. Efallai bod stori'r Samariad Trugarog, a ofalodd am ddyn o wlad wahanol i’w wlad ef - dyn a oedd wedi ei anafu’n ddrwg iawn ac wedi cael ei adael yn hanner marw ar y ffordd - wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn nod iddi.

Myfyriwch am foment ynghylch sut mae ffydd wedi ffurfio arweinyddiaeth y merched hyn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y merched hynny sydd wedi ceisio byw mewn ffordd sy'n glynu at eu ffydd.
Diolch i ti am yr holl fywydau sydd wedi cael eu cyffwrdd gan eu gweithredoedd.
Helpa ni i fod yn barod i sefyll dros bobl eraill sydd mewn angen.
Helpa ni i feddwl am anghenion pobl eraill o flaen ein hanghenion ni ein hunain.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon