Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Edrych ar gynfas wag

Fe allwn ni i gyd baentio ar gynfas ein bywyd

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod gennym y grym i newid y delweddau ar gynfas ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o baentiad sy'n cynnwys o leiaf un person, ac a gafodd ei baentio gan un o’r hen feistri. Fe fydd arnoch chi angen trefnu’r modd o arddangos y ddelwedd yn ystod y gwasanaeth:

    - unigolion, ar gael ar:http://tinyurl.com/jrpmfal
    - grwpiau, ar gael ar:http://tinyurl.com/gldb5w9

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y ddelwedd wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

    Mae gen i rai cwestiynau yr hoffwn i chi eu hystyried.

    - Ble byddech chi'n dechrau pe byddech chi’n artist ac wedi cael testun y paentiad hwn fel comisiwn?
    - Fyddech chi’n dechrau gyda’r cefndir?
    - Fyddech chi’n dechrau gyda’r prif gymeriad yn y canol?

    Dychmygwch sut y byddai'r arlunydd wedi teimlo, gan edrych ar y gynfas wag. Mae ehangder enfawr o wynder, lle gwag, sydd angen ei lenwi. Byddai'r dasg braidd yn frawychus, efallai. 

  2. Tybed a fyddech chi’n dechrau drwy fraslunio’r amlinelliadau ac awgrymu rhai siapiau. Mae llawer o artistiaid yn dechrau yn y modd hwn, trwy fraslunio a thynnu llun mewn pensil neu siarcol yn gyntaf. Ni fyddai’r brasluniau o reidrwydd wedi bod ar y cynfas ei hun, ond mewn llyfr braslunio. Mae gennym y brasluniau, neu’r 'cartwnau', hynny a luniodd Michelangelo ar femrwn, yn dangos sut y datblygodd ei syniadau cyn iddo ddechrau ar y dasg enfawr o beintio nenfwd y Capel Sistinaidd. Mae hyn yn dangos bod angen i athrylith hyd yn oed gynllunio a datblygu ei waith neu ei gwaith.

  3. Fodd bynnag, nid yw'r ffocws ar gyfer y gwasanaeth heddiw yn ymwneud yn union â sut roedd pobl fel Michelangelo, Leonardo da Vinci a Rubens wedi paentio eu gweithiau rhyfeddol a hardd. Mae ein ffocws heddiw yn ymwneud ag ystyried sut mae ein bywydau, pan fyddwn yn ifanc, yn debyg i gynfas wag, yn barod ar gyfer y delweddau i gael eu paentio arni.

  4. Ar adeg ein geni, rydym wedi etifeddu ychydig o bethau sydd wedi cael eu nodi arnom ni. Rydym wedi cael ein genynnau, a fydd yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn edrych, sut y byddwn ni’n ymddwyn a sut y byddwn yn datblygu; mae dylanwadau arnom y mae gwyddonwyr yn gynyddol yn dweud sy’n effeithio arnom ni yn y groth hyd yn oed. Ond fel arall, cynfasau gwag ydyn ni i gyd pan ddown ni i’r byd, yn barod i baentio arnyn nhw ein hunain! Wrth i ni fynd yn hyn, rydyn ni’n ennill mwy o reolaeth dros sut rydyn ni’n datblygu’r gynfas hon a beth rydyn ni’n ei roi arni.

    Dychmygwch eich hun fel delwedd: pa liwiau fyddech chi? A fyddech chi wedi dechrau llenwi lliw y cefndir yn ysgafn, neu a fyddech chi wedi taflu’r paent ar y gynfas ar unwaith?

  5. Mewn moment o ddistawrwydd, fe hoffwn i chi ddychmygu eich bod yn paentio eich bywyd ar gynfas enfawr. Dychmygwch eich hun yn paentio eich dewisiadau, eich camau gweithredu a’ch penderfyniadau. Ydych chi wedi gorfod gwneud penderfyniadau mawr ryw dro? A pob un o’r dewisiadau wedi bod yn dda? A oes gennych benderfyniadau mawr i’w gwneud ar hyn o bryd ynghylch eich ffrindiau, am eich dyfodol, neu am eich teulu? Gwyliwch y lliwiau a’r delweddau’n mynd yn aneglur ac yn newid, gyda phopeth yn toddi i’w gilydd. 

  6. Gadewch i ni stopio am foment. Oes yna unrhyw beth ar y gynfas yr hoffech chi ei newid, ei rwbio allan, neu ei ailosod? Rwy'n siwr bod pawb yn gallu meddwl am rywbeth y gallen nhw ei newid: delwedd, gweithred neu berson y byddai’n llawer gwell ganddyn nhw petai’r peth hwnnw ddim yno ar y gynfas.

    Allwn ni ddim cael gwared yn hollol ar bethau o'n gorffennol, ond fe allwn ni eu symud i ffwrdd o ganol ein cynfas, yn nes at yr ymyl, fel eu bod yn llai amlwg. Fe allwn ni ddysgu oddi wrth brofiadau, hyd yn oed rai profiadau annymunol, ond mae angen i ni ganiatáu i ni ein hunain symud ymlaen heb ofni'r camgymeriadau a wnaethom o'r blaen. 

  7. Gan fynd yn ôl at y pwnc o baentiadau gan hen feistri, mae technoleg fodern wedi ein galluogi ni i weld rhai o frasluniau rhagarweiniol yr artistiaid o'r gorffennol. Mae wedi ein galluogi ni i weld pryd y newidiodd yr artistiaid eu meddyliau, yr adegau y cawson nhw bethau'n anghywir a gwneud camgymeriadau. Mae hefyd yn dangos i ni fod yr artistiaid wedi dysgu oddi wrth eu camgymeriadau drwy rwbio allan ffigurau, neu newid eu safiad neu fynegiant yr wyneb hyd yn oed, ac ychwanegu pobl eraill er mwyn gwella’r darlun.

    Mae'r un peth yn wir am ein bywydau ni ein hunain. Rydyn ni’n dysgu o'n profiadau, a chan y bobl sy'n dod i mewn ac allan o'n bywydau. Fe allan nhw ein cyfoethogi ni, neu ein helpu ni i ddysgu o'n camgymeriadau, a’r broses honno sy’n ein helpu ni i ddatblygu fel pobl.

    Rydyn ni y rhai ydyn ni oherwydd ein hymddygiad a ddysgwyd gennym a'r profiadau a gawsom ni. Mae'n help i ni gofio beth rydyn ni wedi ei 'baentio' yn y gorffennol; mae’n bosib i’r lliwiau a’r delweddau gyfrannu at y darlun yn y dyfodol.

Amser i feddwl

Nid yw ein cynfasau’n sefydlog. Dydyn nhw ddim yr un fath o’r naill flwyddyn i’r llall, o ddydd i ddydd, nac hyd yn oed o awr i awr. Fe allwn ni newid pethau, ac efallai fynd i gyfeiriad gwahanol. Gallwn rwbio rhannau o'r gynfas yn lân a dechrau ar adrannau unwaith eto, gwneud dewisiadau gwahanol. Ran amlaf, rydyn ni â rheolaeth o'n bywyd, ac yn gallu newid y pethau sydd o fewn ein gallu.

Cofiwch na fydd unrhyw gynfas byth yr un fath ag un arall; mae pob un yn unigryw. Beth fyddwch chi'n ei baentio ar eich cynfas chi heddiw - neu yfory, y flwyddyn nesaf neu yn y deng mlynedd nesaf? Chi sydd â’r penderfyniad. Rwy'n siwr y byddwch yn gwneud newidiadau, gan ychwanegu lluniau newydd, paentio dros bethau eraill, atgyweirio camgymeriadau a gwella clwyfau. Cofleidiwch y gallu i fod yn greadigol ac yn rhydd, a cheisiwch fyw eich bywyd mewn lliwiau llachar!

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Helpa fi i weld fy mywyd fel cynfas arlunydd, rhywbeth y byddaf i’n cymryd cyfrifoldeb drosto.
Gad i mi weld fy mod yn gallu byw fy mywyd fel rwy’n dewis, gan roi lliw i mi fy hun ac i'r rhai sydd o fy nghwmpas. 
Rho i mi’r ysbrydoliaeth rwyt ti’n ei rhoi i’n hartistiaid mawr, er mwyn i mi allu paentio a thynnu llun fel yr wyf yn ei ystyried yn briodol, dysgu oddi wrth bobl eraill ac oddi wrth fy nghamgymeriadau i fy hun, a thrwy hynny ddatblygu a dod yn berson gwell.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon