Arweinyddiaeth Rhan 4 – Dewis arweinwyr
Rhan pedwar mewn cyfres ynghylch datblygu potensial arweinyddiaeth yn y myfyrwyr
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y math o bobl y gwnaeth Duw eu dewis fel arweinwyr, yn ôl yr hanes yn y Beibl.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pedwar llefarydd i ddarllen rhannau Moses, Dafydd, Nehemeia a Simon Pedr. Fe fydd ar y llefarwyr hyn angen amser i ymarfer eu rhannau cyn y gwasanaeth.
- Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno ymgyfarwyddo â'r gwasanaethau blaenorol yn y gyfres hon – hefyd mae cyfieithiadau Cymraeg i’w cael ar wahân i’r fersinau canlynol Saesneg:
- ‘Arweinyddiaeth Rhan 1 - Rhinweddau’, ar gael ar : http://www.assemblies.org.uk/sec/2674/leadership-part-1--qualities
- ‘Arweinyddiaeth Rhan 2 - Pethau Bach’, ar gael ar : http://www.assemblies.org.uk/sec/2696/leadership-part-2--little-things
- ‘Arweinyddiaeth Rhan 3 - Ffydd a Beirniadaeth’, ar gael ar : http://www.assemblies.org.uk/sec/2730/leadership-part-3--faith-and-criticism
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r myfyrwyr nodi rhai o'r rhinweddau sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth sydd wedi cael eu trafod yn y gwasanaethau blaenorol yn y gyfres. (Gwelwch rannau blaenorol y gyfres hon, yn enwedig ‘Arweinyddiaeth Rhan 1 – Rhinweddau’, ar gael yn Gymraeg ar wahân i’r fersiwn Saesneg ar :http://www.assemblies.org.uk/sec/2674/leadership-part-1--qualities)
- Eglurwch eich bod heddiw, yn mynd i fod yn gwrando ar wybodaeth am arweinwyr mawr y Beibl. Gofynnwch i'r myfyrwyr wrando am rinweddau arweinyddol sydd wedi cael eu nodi o'r blaen, a hefyd sylwi a oes modd iddyn nhw adnabod rhinweddau arweinyddol eraill.
Llefarydd 1: Fy enw i yw Moses. Cefais fy ngeni i rieni Iddewig tlawd, ond cefais fy mabwysiadu gan ferch Pharo a'm magu yn yr Aifft. Fan honno, fe wnes i ladd Eifftiwr a bu raid i mi ffoi o'r wlad. Daeth Duw o hyd i mi ac fe wnes i ei gyfarfod yn ymyl perth a oedd yn llosgi. Fe roddodd orchymyn i mi fynd at Pharo a gofyn iddo ryddhau'r holl Iddewon a oedd yn cael eu cadw ganddo fel caethweision. Doeddwn i ddim eisiau'r gwaith. Roedd gen i ofn. Fe ddywedais wrtho, ‘Dydw i ddim yn gallu siarad yn dda. Mae gen i atal dweud!’
Fodd bynnag, rhoddodd Duw nerth i mi fynd at y brenin Pharo lawer o weithiau i ofyn iddo ryddhau'r Iddewon. Bu nifer o adegau enbyd! Yn y pen draw, fe wnes i arwain exodus of 600,000 o bobl o'r Aifft. Fe wnaeth pob un ohonom dystio i'r Môr Coch yn agor yn rhyfeddol o'n blaenau. Roedd Duw wedi gwneud addewid i ni y byddem yn cael tir i ni ein hunain ac yn awr roedd yn ein harwain yno.
Fu hi ddim yn hir fodd bynnag cyn roedd grwgnach a chwyno. Roedd yr Israeliaid yn griw lletchwith iawn! Yn fwy na hynny, roedden nhw'n anufudd iawn, yn addoli eilunod aur, a dim yn ymddiried yn Nuw. Roedd Duw yn flin iawn gyda nhw ac, o ganlyniad, bu raid i ni grwydro yn yr anialwch am 40 o flynyddoedd. Er bod fy ngorchwyl yn un anodd a rhwystredig dros ben, fe ddysgais i ddibynnu ar Dduw bob amser. Mi wnes i dystio pa mor nerthol oedd Duw.
Pa rinweddau arweinyddol yr oedd Moses yn eu harddangos?
Llefarydd 2: Fy enw i yw Dafydd. Jesse oedd enw fy nhad. Fi oedd yr ieuengaf o wyth o'i feibion, felly cefais y dasg o fugeilio'r defaid. Roeddwn wrth fy modd yn cael bod allan yn y caeau, yn enwedig dros nos pan oeddwn yn gallu gorwedd a syllu ar y myrdd o sêr yn yr awyr glir. Ar ochr y bryn, fe fyddwn i'n canu fy nhelyn a chyfansoddi caneuon am ryfeddod creadigaeth Duw.
O bosib, fe gaf fy nghofio orau am yr ymladdfa rhyngof fi â chawr mawr, y Philistiad o'r enw Goliath. Roedd Goliath yn codi ofn ar bobl Israel, ond roeddwn i'n gwybod fod Duw yn gryfach nag unrhyw gawr. Fe wnes i ymladd yn erbyn Goliath ac ennill y frwydr. Cefais fy newis fel brenin ar gyfer y dyfodol pan oeddwn yn fachgen ifanc. Fe ddaeth y proffwyd, Samuel, i'n ty ni. Roedd Duw wedi dweud wrtho y byddai rhywun o'n teulu ni yn dod yn frenin, ond roedd Samuel wedi disgwyl mai un o'm brodyr hyn a fyddai hwnnw. Fe welodd Samuel nad oeddwn i mor dal nac mor olygus â'm brodyr, ond fe ddywedodd Duw wrtho, ‘Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon.’ Yna, fe eneiniodd fi fel brenin y dyfodol! Aeth blynyddoedd lawer heibio a llawer o galedi cyn i mi ddod yn frenin mewn gwirionedd. Roedd y Brenin Saul, y brenin o'm blaen i, yn genfigennus iawn ohonof, oherwydd, gyda chymorth gan Dduw, roeddwn wedi arwain llawer o frwydrau llwyddiannus ac roeddwn i'n boblogaidd gyda'r bobl. Yn y diwedd, bu raid i mi ddianc rhag Saul a chuddio mewn ogof yng nghwmni dieithriaid tra roedd y Brenin Saul yn chwilio'n ddyfal ym mhob rhan o'r wlad er mwyn ceisio fy lladd!
Fe wnes i lawer o gamgymeriadau fel brenin. Y camgymeriad mwyaf yn sicr wnes i oedd trefnu bod milwr dewr yn cael ei ladd mewn brwydr fel fy mod i'n gallu priodi ei wraig, Bathsheba - roedd hynny'n rhywbeth drwg iawn i'w wneud! Fodd bynnag, mae'n rhaid bod Duw wedi gweld hyn ac, er gwaethaf fy nghamweddau ofnadwy, a'r troeon yr oeddwn wedi gwneud cawlach o bethau, roedd yn gwybod, yng ngwaelod fy nghalon, fod gen i gariad at bobl ac mai cael bod yn arweinydd da oeddwn i ei eisiau. Yn y diwedd, cafodd Iesu, perthynas pell i mi, ei eni.
Pa rinweddau arweinyddol yr oedd Dafydd yn eu harddangos?
Llefarydd 3: Fy enw i yw Nehemeia. Israeliad oeddwn i mewn swydd uchel yn Ymerodraeth Persia, fel trulliad i'r brenin. Fodd bynnag, roeddwn bob amser yn meddwl am fy mhobl, a oedd wedi dychwelyd o gaethiwed, ac a oedd yn ôl gartref yn Jerwsalem. Fe dderbyniais y newydd trist fod fy mhobl yn profi trafferth fawr yno, fel eu bod wedi colli eu hunaniaeth a'u gobaith. Roeddwn yn drist iawn ac fe wnes i barhau i weddïo y byddai Duw yn fy helpu mewn rhyw ffordd. Yna, un diwrnod, fe welodd y brenin fy mod i mewn cyfyngder. Roedd yna foment eithaf brawychus pan holodd y brenin paham yr oeddwn yn edrych yn drist yn ei bresenoldeb - roedd bod yn drist o flaen y brenin yn golygu y gallai rywun wynebu cosb o farwolaeth! Fodd bynnag, pan wnes i ddweud wrth y brenin beth oedd yn fy mhoeni, fe drefnodd fy mod i'n cael dychwelyd i Jerwsalem i helpu fy mhobl i ail-adeiladu'r ddinas.
Roedd yn rhaid i mi fod yn ofalus iawn oherwydd doedd llawer o bobl ddim eisiau i furiau'r ddinas gael eu hail-adeiladu. Felly, ar ôl i mi wneud archwiliad o'r ddinas, fe wnes i alw'r bobl ynghyd a'u hannog i ymuno â'i gilydd a dechrau adeiladu. Cawsom lu o wrthwynebiadau. Roedd llawer o bobl yn chwerthin am ein pennau a bu raid i ni hyd yn oed barhau â'r gwaith adeiladu gyda chleddyf mewn un llaw rhag ofn i ni wynebu ymosodiad! Fe wnaethon ni lawer o weddïo ac, ar ôl dim ond 52 diwrnod, roedd muriau'r ddinas wedi eu hail-adeiladu. Dyna barti gawson ni pan oedd y cyfan ar ben!
Pa rinweddau arweinyddol yr oedd Nehemiah yn eu harddangos? - Llefarydd 4: Fy enw i yw Simon Pedr. Roeddwn yn bysgotwr yng Ngalilea. Fy mrawd, Andreas, a minnau oedd y rhai cyntaf y gofynnodd Iesu i ni fod yn ddisgyblion iddo. Yn y pen draw, fe wnaeth deg o ddisgyblion eraill ymuno â ni. Fe wnes i edrych ar Iesu’n denu cannoedd o bobl ato, trwy bregethu a'u haddysgu â neges newydd. Doedd dim ymddygiad ymosodol yn perthyn iddo, dim galwad i arfogi ein hunain, fel y byddem yn ei ddisgwyl, ar adeg o gael ein goresgyn gan y Rhufeiniaid.
Un diwrnod, fe anfonodd Iesu ni allan fesul dau i wneud ein gwaith, i ddweud wrth bobl am Dduw ac i iacháu'r cleifion. Roedd yn dasg enfawr i ni! Doeddem ni ddim i fynd ag unrhyw beth gyda ni ar gyfer y daith, dim ffon, dim pwrs, dim bara, dim arian, dim dillad dros ben - dim byd ond ymddiried yn Nuw i ddarparu popeth ar ein cyfer.
Pan ddechreuodd Iesu siarad am farw a brad, roeddwn i'n sicr na fyddwn i fyth yn ei adael, nac ychwaith ei siomi, ond mae gen i gywilydd cyfaddef i mi wneud hynny. Fi oedd y llwfrgi gwaethaf. Pan ddaeth y gwarchodwyr Rhufeinig yn annisgwyl i'w arestio, fe wnes i redeg am fy mywyd. Byddai hynny ynddo'i hun yn ddigon drwg, ond pan gefais fy holi’n ddiweddarach fel un o'i ffrindiau, fe wnes i ddweud nad oeddwn i erioed wedi cyfarfod ag Iesu.
Pan gafodd Iesu ei groeshoelio, fe wnes i feddwl mai hynny oedd y diwedd, ond fe ddaeth Iesu’n fyw drachefn ac ymweld â mi. Fe wnaeth o faddau i mi ac fe roddodd dasg arbennig i mi eu gwneud. Fi fyddai'r graig y byddai'n adeiladu ei Eglwys arni. Meddyliwch - fy newis i o bawb er gwaethaf yr holl bethau roeddwn i wedi eu cael yn anghywir! Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fe wnes i ddarganfod bod Duw yn caniatáu i mi wneud rhai o'r gwyrthiau yr oedd Iesu ei hun wedi eu cyflawni. Fe wnaeth miloedd o bobl ymuno gyda ni. Yn ddiweddarach, pan gefais fy arestio am fy ffydd, wnes i ddim gwadu Iesu, ac felly cefais fy lladd.
Pa rinweddau arweinyddol yr oedd Simon Pedr yn eu harddangos? - Gofynnwch y cwestiynau canlynol. Os yw'n briodol, gofynnwch i'r myfyrwyr drafod eu hatebion gyda'r rhai sy’n eistedd agosaf atyn nhw. Fel arall, gofynnwch i'r myfyrwyr dreulio ychydig funudau mewn myfyrdod tawel ar ôl i chi holi'r cwestiynau.
- O'r pedwar, Moses, Dafydd, Nehemeia a Simon Pedr, pa un ohonyn nhw y byddech chi'n dweud wnaeth arddangos y rhinweddau arweinyddol mwyaf?
- O ba le y byddech chi'n dweud fod y dynion hyn wedi cael y doethineb i arwain? (gwelwch Nehemeia 2.4-5: ‘Yna gweddïais ar Dduw’r nefoedd, a dweud wrth y brenin.’)
- Dywedodd Duw, ‘Yr hyn sydd yn y galon a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon.’ Pa mor wir yw hyn am Dafydd? (Sylwch mai Dafydd oedd yr ieuengaf yn ei deulu ac yn fugail di-nod. Doedd Dafydd ddim mor dal nac mor olygus â'i frodyr.)
- Pa mor wir yw'r un datganiad am Simon Pedr? (Sylwch fod Simon Pedr yn bysgotwr, garw, gweithgar. Ychydig iawn o addysg y byddai wedi ei gael, ac o bosib, ychydig iawn o ddysg am foesau.)
- Pa un o'r pedwar dyn oedd yn eofn ac yn ddewr?
- Pa un o'r pedwar dyn oedd yn meddu ar amynedd?
Amser i feddwl
Gofynnwch i'r myfyrwyr pa un o'r cymeriadau hyn â'ch ysbrydolodd chi fwyaf.
Y gwahaniaeth rhwng yr arweinwyr hyn a rhai o'r arweinwyr eraill y cawsom eu hanes yn y gwasanaethau blaenorol yw mai gan Dduw yn gyntaf oll y cafodd yr arweinwyr mawr yn y Beibl eu galw, a derbyn ganddo swydd benodol i'w chyflawni. Fe deimlodd pob un ohonyn nhw nad oedd modd iddyn nhw allu cwblhau'r dasg a roddwyd iddyn nhw ar eu pen eu hunain, ond, gyda chymorth Duw a help gan bobl eraill, roedd modd iddyn nhw wneud hynny. Fe welodd Duw rywbeth arbennig ym mhob unigolyn. Wnaeth Duw ddim edrych yn benodol ar eu meddyliau nac ar eu hedrychiad corfforol; yn hytrach fe edrychodd ar eu calonnau.
Yn yr un modd, mae gan bob un ohonom ni ddoniau a galluoedd sy'n unigryw a neilltuol. Yn achos rhai ohonom, mae'n ddawn o arwain. Os ydyn ni'n cael ein galw i fod yn arweinwyr, gadewch i ni arwain yn dda a dangos y rhinweddau mawr hynny y buom yn eu hystyried. Fodd bynnag, gadewch i ni hefyd fod yn arweinwyr a fydd yn barod i ofyn am help a gwerthfawrogi cyfraniad pobl eraill.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolchwn i ti am storïau am bobl gyffredin y gwnest ti eu gwneud yn bobl arbennig fel arweinwyr.
Gofynnwn i ti ein helpu ni i ddefnyddio ein doniau mewn ffordd arbennig.
Helpa ni i geisio dy gymorth.
Helpa ni i werthfawrogi’r rhai sydd o’n cwmpas ni wrth i ni geisio eu gwasanaethu.
Amen.