Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechrau newydd

Blwyddyn newydd, tymor newydd, cyfleoedd newydd

gan Nicola Freeman

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i ddeall bod blwyddyn newydd yn cynnig cyfleoedd i ddechrau o'r newydd.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Atgoffwch y disgyblion fod tymor newydd a blwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd newydd gyda nhw, a'r cyfle i rywun 'ddechrau o'r newydd'. Mae'r hen dymor a'r hen flwyddyn y tu ôl i ni, wedi mynd, felly mae'n amser i symud ymlaen tuag at y dyfodol.

    Gofynnwch a oes unrhyw rai o’r myfyrwyr wedi gwneud addunedau Blwyddyn Newydd.

    Rhowch rai enghreifftiau o addunedau, fel cadw'n heini, dysgu sgil newydd neu fwyta'n fwy iachus. 
    Nodwch fod dechrau blwyddyn newydd yn adeg ardderchog ar gyfer cael eich ysgogi i newid pethau, ond mae 'dechreuadau' eraill drwy gydol y flwyddyn a fyddai’n gallu ein hatgoffa bod newid yn bosib:

    - dechrau’r wythnos
    - dechrau’r mis 
    - dechrau’r tymor

    Fe allech chi ddweud bod Duw wedi rhoi rhythm yn ein bywydau sy'n rhoi llawer o gyfleoedd i ni ailosod ein hunain.

    Nodwch, er bod rhai ohonom yn hoffi'r syniad o ddechrau o'r newydd, gall eraill fod yn teimlo nad oes llawer o bwrpas. Efallai bod yr addunedau Blwyddyn Newydd eisoes wedi cael eu torri, neu efallai ein bod yn teimlo na fyddwn yn sicr y byddem yn gallu newid pethau, felly does dim llawer o bwynt ceisio.

  2. Rhowch y ddau wydr yfed ar y bwrdd. Llenwch un gwydr yn hanner llawn â dwr. Eglurwch fod gwydr hwn yn cynrychioli y llynedd neu’r tymor diwethaf ac mae'r dwr yn cynrychioli'r holl gyfleoedd a ddarparwyd.

    Arllwyswch ychydig ddiferion o’r lliw bwyd neu’r cordial i mewn i'r gwydr, gan esbonio bod rhywbeth yr ydym wedi ei ddweud neu ei wneud efallai wedi gwneud i ni deimlo bod y cyfleoedd wedi eu difwyno neu wedi eu staenio.

    Mae adnod yn y Beibl sy'n dweud wrthym fod cariad Duw yn mynd ymlaen ac ymlaen am byth, a bod ei ofal drosom ni yn newydd bob bore (Llyfr Galarnad 3.22-23).

    Arllwyswch ychydig mwy o ddwr i mewn i'r gwydr. Eglurwch fod y lliw yn mynd yn llai amlwg, ychydig fel atgof neu edifeirwch yn diflannu. Fodd bynnag, mae angen inni gofio nad yw dechrau o'r newydd yn golygu fod y camgymeriadau yn ein gorffennol ddim ond yn cael 'glastwreiddio'. Mae dechrau newydd fel cael gwydr newydd, gyda dwr cwbl glir ynddo.

    Arllwyswch ddwr glân i’r gwydr arall.

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ddychmygu eu bod wedi cael dalen o bapur glân lle bydden nhw’n gallu cofnodi'r hyn yr hoffen nhw ei gyflawni yn ystod y tymor hwn neu'r flwyddyn hon, wrth feddwl y gallen nhw ddechrau o’r newydd yn hollol ffres. Beth fydden nhw'n ei ysgrifennu?

    - Dim cael eu cadw i mewn fel cosb?
    - Dim pwyntiau negyddol?(Addaswch hyn yn ôl system wobrwyo eich ysgol.)
    - Dim rhegi?
    -Cynyddu eu hyder?

  3. Gofynnwch a oes unrhyw un o'r myfyrwyr wedi gweld y ffilm Bruce Almighty. Yn y ffilm hon, mae Bruce yn cael y cyfle i brofi sut beth fyddai hi i gael nerth Duw. Fel mae Bruce yn dechrau derbyn cannoedd o weddïau, mae'n gwneud y penderfyniad i ddweud 'iawn' ynghylch pob gweddi. Fodd bynnag, nid yw gweithredoedd Bruce yn gweithio ac mae popeth yn mynd yn llanast! Eglurwch fod Bruce, yn yr olygfa y mae’r myfyrwyr yn mynd i’w gwylio, yn sgwrsio â Duw ynghylch beth i'w wneud nesaf.

    Dangoswch y clip fideo, ‘Bruce Almighty - Want to see a miracle?’. Mae’n para am 1.05 munud.

  4. Mae dau ddyfyniad enwog yn cael eu llefaru gan ‘Dduw’ yn y ffilm, y rhan sy’n cael ei chwarae gan Morgan Freeman:

    ‘No matter how filthy something gets, we can always clean it right up.’
    - ‘People want me to do everything for them, but . . . they have the power. Do you wanna see a miracle, son? Be the miracle.’

    Dywedwch wrth y myfyrwyr bod y grym ganddyn nhw i fod y wyrth honno ac i newid.

    Dewisol: efallai yr hoffech chi ddangos y clip fideo YouTube ysgogol, ‘Stop whining, start grinding’. Mae'n para am 3.59 munud, ac mae ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=fxrSr2vV68g

  5. Dangoswch Sleid 2.

    Heriwch y myfyrwyr i ystyried y gair‘START’wrth iddyn nhw feddwl am wahanol feysydd eu bywyd. (Speech, Time, Attitude, Reactions, Talents)

    Speech.Mae’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthych chi eich hunan ac wrth eraill yn bwysig.
    Time.Mae amser yn fuddsoddiad. Beth sy’n cymryd y rhan fwyaf o'ch amser? Peidiwch â’i wastraffu, buddsoddwch eich amser. Er enghraifft, ar amser egwyl, a ydych yn chwarae gemau ar eich ffôn neu a ydych chi’n cysylltu â phobl ac yn gwneud ffrindiau? Mae pob munud, bob dydd, yn cyfrif.
    Attitude.Gyda pha bersbectif y byddwch chi’n ymwneud â sefyllfaoedd? Beth yw eich agwedd arferol?
    Reactions.Sut byddwch chi’n ymateb i sefyllfaoedd? Gyda dicter? Neu hunanreolaeth?
    Talents.Sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio a datblygu eich doniau eleni?

Amser i feddwl

Dangoswch Sleid 3.

Mae adnod yn y Beibl yn dweud, ‘Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen’ (Philipiaid 3.13).

Gadewch i ni roi'r gorffennol y tu cefn i ni, ac yn hytrach ganolbwyntio ein hegni ar wneud penderfyniadau da ar gyfer y dyfodol. Mae ein dyfodol yn ein dwylo ni.

Dangoswch Sleid 4.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch nad yw dy gariad di tuag atom ni yn dod i ben, byth.
Diolch i ti, waeth beth rydyn ni wedi'i ddweud neu wedi’i wneud, dwyt ti byth yn troi dy gefn arnom ni.
Diolch i ti fod pob diwrnod yn gyfle i ni ddechrau o'r newydd.
Helpa ni i i gymryd perchnogaeth o’n bywydau a gwneud penderfyniadau doeth o ran yr hyn y byddwn yn ei ddweud, y ffordd y byddwn yn defnyddio ein hamser, ynglyn â'n hagwedd, ein hadwaith a’n doniau, fel y gallwn ni fod y bobl hynny yr ydyn ni’n dymuno bod.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r gân ‘Mercy’ gan Amanda Cook, ac os felly, fe fydd arnoch chi angen trefnu modd o’i chwarae yn ystod y gwasanaeth. Mae'n para am 4.09 munud ac ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=sILwvJShMV8

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon