Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Dydd Llun y Felan yn dod!

Ambell waith, fe fyddwn yn chwilio am hapusrwydd yn y llefydd anghywir

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried lle mae’n bosib canfod gwir hapusrwydd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae'n swyddogol: Dydd Llun 16 Ionawr 2017 fydd diwrnod mwyaf diflas y flwyddyn! Yn ôl seicolegydd o’r enw Cliff Arnall, y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr bob amser yw diwrnod mwyaf digalon y flwyddyn. Caiff ddydd Llun 16 Ionawr 2017 ei adnabod yn swyddogol fel Dydd Llun y Felan. Felly, pam ydych chi'n meddwl y dylai'r Dydd Llun neilltuol hwn fod yn ddiflas? (Gall yr atebion gynnwys y ffaith bod y Nadolig drosodd, ond bod talu am y Nadolig ymhell o fod drosodd; mae'r tywydd drwg yn ymddangos ei fod yma i aros; mae'r boreau'n dywyll ac mae'r nosweithiau hyd yn oed yn dywyllach; mae pob un o'n haddunedau Blwyddyn Newydd wedi eu torri, ond heb fynd yn angof; does ddim i'w edrych ymlaen ato; ac, ar ben y cyfan, mae'n fore Llun unwaith eto.)

    Os nad oeddech yn ddigalon cyn clywed y rhestr yna o 'och a gwae', mae'n debygol eich bod yn teimlo felly yn awr!

  2. Fodd bynnag, rydym i gyd yn dymuno bod yn llawen. Fel mater o ffaith, fe wnaeth Brenin Bhutan ddatgan y gosodiad enwog hwyn ryw dro, ‘Gross national happiness is more important than gross national product.’ Roedd yn well ganddo i'w bobl fod yn hapus nag yn gyfoethog.

  3. Mae mynd ar ôl hapusrwydd yn un o'r gyrwyr pwysicaf mewn cymdeithas. Ond ymhle yr ydym yn chwilio am hapusrwydd? Gadewch i ni ystyried y gosodiadau canlynol. A ydych yn cytuno â nhw? (Dewisol: efallai y byddech yn dymuno gofyn i'ch myfyrwyr i glapio, gweiddi ‘Hwre!’, neu godi eu dwylo os ydyn nhw'n cytuno â phob gosodiad.)

    - Pe byddai'r cariad perffaith gen i, fe fyddwn i'n hapus.
    - Hapusrwydd yw ennill y loteri.
    - Fe fyddwn i'n hapus pe na byddai’n rhaid i mi fynd i'r ysgol byth eto.
    - Hapusrwydd yw mynd i barti ar nos Sadwrn.
    - Pe byddwn i yn llwyddo yn y cyfan o'm harholiadau, fe fyddwn i'n hapus.
    - Hapusrwydd yw syrffio ar donnau'r môr yn Awstralia. 

  4. Byddwn yn chwilio am hapusrwydd yn y profiadau a'r meddiannau oddi allan i ni ein hunain, ond yn aml yr hyn sydd o bwys yw beth sy'n digwydd oddi mewn i ni. Mae ymchwil wedi dangos nad yw cynnydd mewn cyfoeth yn cael fawr o effaith ar hapusrwydd. Rydym yn gyfarwydd â chlywed na all arian brynu hapusrwydd ac mae'n ymddangos bod hynny'n wir. Mae cyflawniad mewnol a bodlonrwydd yn amhrisiadwy. Hapusrwydd ar y tu mewn sy'n cyfrif.

    Yn y Beibl, mae adnod yn dweud, ‘Byddwch yn ddiariangar yn eich dull o fyw; byddwch yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Oherwydd y mae ef wedi dweud, “Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.”’ (Hebreaid 13.5) Felly, nid yw cariad at arian yn rhywbeth newydd. Wnaeth o ddim dod i fodolaeth pan ddyfeisiwyd y cerdyn credyd a phan gafodd canolfannau siopa eu hadeiladu. Hyd yn oed 2,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd awdur yr adnod hon yn ymwybodol nad oedd modd dod o hyd i gyfrinach hapusrwydd trwy gasglu llawer o gyfoeth ynghyd.

  5. Mae rhai ohonom ni'n ei chael hi'n anodd bod yn fodlon ein byd. Roedd yr adnod flaenorol o'r Beibl yn dweud wrthym am fod yn ‘fodlon ar yr hyn sydd gennym’. Fe ddylen ni  fod yn ddiolchgar am y pethau hynny yr ydym yn aml yn eu cymryd yn ganiataol: to dros ein pennau; bwyd ar y bwrdd; cwpwrdd yn llawn o ddillad i'w gwisgo; dwr glân; a meddygon ac athrawon, a'r holl bobl eraill sy'n gwneud ein bywydau'n ddiogel.

    Yn yr adnod flaenorol o'r Beibl, fe ddywedodd Duw, ‘Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.’ Mewn perthnasoedd mae dod o hyd i wir hapusrwydd. Perthynas â Duw, perthynas â'n ffrindiau, a pherthynas ag aelodau ein teulu - y rhai hynny a fydd yno bob amser i ni, byth yn ymadael â ni, byth yn troi cefn arnom ni. Mae yna bobl yn y byd sydd yn meddu ar bopeth y gall arian ei brynu, eto maen nhw'n unig ac yn anhapus.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio ar hapusrwydd wrth i ni ddod â'n hamser gyda'n gilydd i ben.

Meddyliwch sut ydych chi'n teimlo'r funud hon.

- Beth sydd yn eich gwneud yn hapus?
- Beth sydd yn eich gwneud yn anhapus?
- Am beth ydych chi'n ddiolchgar y funud hon?
- Beth sy'n eich gwneud yn hapus?

Rhowch ddiolch am y pethau hynny yma'n awr.

Sut allwch chi greu rhywfaint o newyddion da heddiw?Oni fyddai'n wych pe bydden ni i gyd yn gallu cael Dydd Llun y Felan hapus!

Cân/cerddoriaeth

Monday, Monday’ gan y Mamas and the Papas

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon