Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gallu dechrau’n dda

Mae dechrau da’n bwysig

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio brecwast fel enghraifft o allu dechrau’n dda wrth i'r flwyddyn newydd ddechrau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau o’r gwahanol fwydydd brecwast.

    Dywedwch wrth y myfyrwyr eich bod yn mynd i ddangos y lluniau iddyn nhw eto, ac yr hoffech chi iddyn nhw weiddi ‘Hwre!’ y tro yma pan fyddan nhw’n gweld y bwyd brecwast y bydden nhw’n ei hoffi fwyaf i’w fwyta yn y boreau. (Efallai byddai'n well gennych chi iddyn nhw godi eu dwylo yn hytrach na bloeddio.)

  2. Nodwch, er bod llawer o’r myfyrwyr wedi cymeradwyo eu hoff frecwast, mae'n debygol na fydd nifer wedi bwyta brecwast cyn dod i'r ysgol. Mae sawl rheswm am hyn.

    Efallai yr hoffech chi ofyn i’r myfyrwyr awgrymu rhai rhesymau.

    Er enghraifft:
    – oherwydd eu bod wedi codi’n rhy hwyr i gael brecwast
    – doedd dim i’w fwyta yn y ty oherwydd doedden nhw ddim wedi cael siawns i fynd i siopa 
    – oherwydd eu bod ar ddiet
    – oherwydd eu bod ddim yn hoffi bwyta’n gynnar yn y bore

  3. Mae meddygon yn dweud wrthym fod nifer o resymau da pam mae bwyta brecwast yn bwysig.

    – Mae'n rhoi cychwyn i fetaboledd y corff fel bod y corff yn gweithio'n well. (Mae'n debyg fod hyn yn help i rai sydd ar ddiet, yn hytrach na bod yn rhwystr!)
    – Mae pobl sydd heb fwyta brecwast yn canfod eu bod yn methu canolbwyntio ar eu gwaith wrth i'r bore fynd yn ei flaen.
    – Mae pobl sydd heb fwyta brecwast yn tueddu i fod yn ddrwg eu hwyl ac yn cweryla mwy.

  4. Mae brecwast yn bwysig oherwydd ei fod yn ddechrau da i'r diwrnod, ac mae dechrau da i’r diwrnod yn ein helpu trwy weddill y dydd. Mae dechrau da i’r diwrnod yn bwysig hefyd ar adegau neilltuol eraill.

    – Mewn ras sbrintio, mae'n hanfodol i’r athletwyr ddechrau rhedeg yn gyflym yn syth oddi ar eu blociau cychwyn os ydyn nhw am gael siawns o ennill.
    – Mewn arholiad, mae'n bwysig dechrau’n dda a pheidio â bod yn freuddwydiol am yr hanner awr cyntaf, fel arall fydd gennych chi ddim amser i orffen ateb cwestiynau’r arholiad.
    – Pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol, ac yn mynd am gyfweliad am swydd, fe fydd yn bwysig i gyflwyno’ch hun yn dda ar ddechrau'r cyfweliad oherwydd bod y rhai sy’n cyfweld yn cael eu dylanwadu’n fawr gan yr argraffiadau cyntaf.
    – Mewn swydd newydd, mae'n bwysig iawn gwneud argraff dda ar y dechrau yn hytrach na rhoi’r argraff eich bod yn ddiog.

  5. Yn yr un modd, ar ddechrau blwyddyn newydd yn yr ysgol, mae'n bwysig dechrau’n dda. Mae amser yn mynd yn gyflym ac mae'n bwysig gwneud y gorau o bob munud ac achub ar bob cyfle sy’n cael ei roi i chi. Fel hyn, gallwch wneud yn fawr o bob cyfle a ddaw i’ch rhan (a rhoi eich ymdrech orau).

  6. Mae adnod yn y Beibl yn sôn am gariad Duw tuag atom ni, ac yn disgrifio’r cariad hwnnw fel bod yn 'newydd bob bore'. Wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, mae gennym gyfle i ddechrau o'r newydd. Gadewch i ni ddewis defnyddio'r flwyddyn hon sydd o’n blaen mewn ffordd ddoeth, dechrau’n dda, ac yna parhau gyda'r un agwedd drwy gydol y flwyddyn.

Amser i feddwl

Mae dywediad enwog yn cyd-fynd â hyn, sef ‘Heddiw yw diwrnod cyntaf gweddill eich bywyd.’Oedwch am foment i feddwl ynghylch sut rydych chi eisiau treulio’r flwyddyn hon.

- Ydych chi eisiau ei gwastraffu?
- Neu a ydych chi eisiau gwneud yn fawr o’r holl gyfleoedd sy’n cael eu cynnig i chi?

Saib i feddwl.

- Ydych chi’n mynd i ddilyn pobl a fydd yn eich arwain i chi i ffwrdd rhag gwneud yr hyn rydych chi’n gwybod sydd orau i’w wneud?
- Neu a ydych chi’n mynd i sefyll yn gadarn a gwneud y gorau o’ch bywyd?

Saib i feddwl.

Yn ystod y flwyddyn hon, gadewch i ni i gyd feddwl ynghylch beth fyddai'r peth iawn i'w wneud, a phenderfynu ar y llwybr gorau i’w gymryd ym mhob sefyllfa.

Saib i feddwl.

Gweddi 
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl gyfleoedd y byddwn ni’n eu cael yn ystod y flwyddyn hon.
Helpa ni i wneud yn fawr o bob cyfle gawn ni.
Helpa ni i wneud y flwyddyn hon yn flwyddyn y byddwn ni’n gallu edrych yn ôl arni gyda balchder ac ymdeimlad o gyflawniad.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon