Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydyn ni’n unigryw

Mae pob un ohonom yn wahanol, mae pob un ohonom yn unigryw

gan Lee Jennings (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried natur unigryw pob unigolyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth yma (Unique) a’r modd o’u dangos.

  • Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r clip fideo YouTube: ‘Dove - evolution commercial’, ac os felly, fe fydd arnoch chi angen trefnu’r modd o’i ddangos. Mae’n para am 1.14 munud, ac ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=hibyAJOSW8U

Gwasanaeth

  1. Ydych chi wedi meddwl ryw dro ynghylch pa mor rhyfeddol yw ein corff? Cymerwch rywfaint o amser i edrych o’ch cwmpas; wrth i ni edrych ar ein gilydd, fe allwn ni weld yn union pa mor wahanol yr ydym i gyd. Dyma rai ffeithiau rhyfeddol am ein corff.

    Dangoswch Sleid 2.

    Oeddech chi’n gwybod?

    - Er mwyn gwgu rhaid defnyddio 43 o gyhyrau, ond dim ond 17 o gyhyrau i wenu. Efallai y dylem wenu’n amlach!
    - Ar gyfartaledd, rydyn ni’n blincio tua 25 gwaith y funud.
    - Mae’r ysgyfaint ar ein hochr chwith yn llai na'r ysgyfaint ar ein hochr dde er mwyn gwneud lle i’r galon yno hefyd.
    - Bydd 50,000 o gelloedd wedi marw ac wedi cael eu hadnewyddu erbyn i mi orffen y frawddeg hon.
    - Mewn sgwâr o groen sy’n mesur 2.5 cm2,mae gennym 1,300 o gelloedd nerfol, 3 miliwn o gelloedd normal a 100 o chwarennau chwys.

  2. Dangoswch Sleid 3.

    Oeddech chi'n gwybod bod y corff ar gyfartaledd gyda digon o:

    - sylffwr i ladd yr holl chwain ar gi cyffredin
    - carbon i wneud 900 o bensiliau
    - potasiwm i danio gwn canon tegan 
    - braster i wneud saith bar o sebon
    - ffosfforws i wneud pennau i 2,200 o fatsis?

  3. Dangoswch Sleid 4.

    Oeddech chi'n gwybod?

    - Rydyn ni’n llosgi 26 o galorïau mewn cusan sy’n para munud!
    - Mae gan bob person olion bysedd unigryw.
    - Mae gan bob person ôl tafod unigryw.

  4. Dewisol: efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r clip fideo YouTube: ‘Dove - evolution commercial’. Mae’n para am 1.14 munud, ac ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=hibyAJOSW8U

  5. Mae ein corff yn anhygoel, ac mae llawer o ddamcaniaethau ynghylch sut y mae ein corff wedi esblygu. Rwy'n mynd i ddarllen i chi ran o gerdd o'r Beibl. Mae'r detholiad yn ymwneud â pha mor rhyfeddol yw ein cyrff, ac yn mynegi'r gred fod Duw wedi creu pob person yn unigol. Fe ysgrifennwyd y gerdd tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl - ymhell cyn i fodau dynol ddyfeisio pethau fel peiriannau pelydr-X a stethosgopau!

    Salm 139, adnodau 13-16
    Ti a greodd fy ymysgaroedd;
    a’m llunio yng nghroth fy mam.
    Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
    ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
    Yr wyt yn fy adnabod mor dda; ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
    pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
    Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
    y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd un ohonynt.

    Mae gan bob un ohonom gorff sy’n wahanol i gorff unrhyw un arall, corff unigryw iawn. Ond yr hyn sy'n fwy pwysig na hynny hyd yn oed yw sut rai ydyn ni ar y tu mewn. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi creu pob un ohonom yn unigryw ac yn gyfartal, a'i fod yn ein caru ni yn union fel rydyn ni.

Amser i feddwl

Gadewch i ni beidio byth â gadael i bobl ein bychanu oherwydd pwy ydyn ni neu oherwydd sut rydyn ni’n edrych. Mae pob un ohonom yn unigryw ac yn arbennig. Mae rhai pethau yn y byd hwn dim ond ni fyddai’n gallu eu gwneud. Mae Duw’n eich caru chi fel ydych chi ac, wedi'r cyfan, fe fyddai'r byd yn lle diflas iawn pe baem ni i gyd yr un fath!

Gweddi
Diolch i ti, Dduw, ein bod ni i gyd yn wahanol i’n gilydd, i gyd yn unigryw.
Helpa ni i werthfawrogi’r gwahaniaethau sydd rhyngom ni.
Helpa ni i fwynhau’r amrywiaeth sydd yn y byd.
Helpa ni i weithio gyda phobl rydyn ni’n ei chael hi’n anodd i wneud hynny.
Helpa ni i beidio byth â barnu pobl yn ôl eu hymddangosiad yn unig.
Helpa ni i barchu pawb, a thrwy hynny ennyn eu parch hwythau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon