Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arweinyddiaeth Rhan 5 – Esiampl dda

Rhan pump mewn cyfres ynghylch datblygu potensial arweinyddiaeth yn y myfyrwyr

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried esiampl Iesu fel gwas ac arweinydd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r myfyrwyr a ydyn nhw'n gallu cofio am rai o'r nodweddion arweinyddol y buoch yn eu trafod mewn gwasanaethau blaenorol.

    Gofynnwch iddyn nhw i feddwl am rywun y bydden nhw'n ei ystyried yn arweinydd da. Gall yr unigolyn hwn fod yn rhywun enwog neu’n rhywun y mae'r myfyrwyr yn ei adnabod yn bersonol.

    Eglurwch fod y gwasanaeth heddiw yn ystyried Iesu fel arweinydd da.

  2. Nodwch y bydd arweinwyr yn aml yn dueddol o fod yn huawdl ac yn nerthol yn y modd y maen nhw'n llefaru. Yn ystod etholiadau, fe fyddwn yn aml yn clywed ymgeiswyr yn datgan yr hyn y maen nhw'n ei gredu ynddo a'u bwriadau gyda pherswâd ac emosiwn mawr. Gadewch i ni wrando ar un o areithiau cyntaf Iesu.

    Llefarydd 1:Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd . . .
    Llefarydd 2:Tlawd yn yr ysbryd? Gwan, gorthrymedig, ydych chi'n ei feddwl, heb lais? Gwyn eu byd? A yw hynny fod i feddwl eu bod yn hapus felly?
    Llefarydd 1: . . . oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
    Llefarydd 3: Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru . . .
    Llefarydd 2: Y rhai sy'n galaru? Ydych chi’n golygu pobl sy'n sâl iawn, neu sydd wedi colli eu gwaith neu wedi colli rhywun sy’n annwyl ganddyn nhw, a phobl sy'n wynebu marwolaeth? 
    Llefarydd 3: . . . oherwydd cânt hwy eu cysuro.
    Llefarydd 1: Gwyn eu byd y rhai addfwyn . . .
    Llefarydd 2: Ydych chi’n golygu pobl dawel ac addfwyn, a'r rhai sy’n hawdd eu gorfodi i wneud rhywbeth? Yn sicr, fydd pobl felly ddim yn cael llawer yn y byd hwn.
    Llefarydd 1: . . . oherwydd cânt hwy etifeddu’r ddaear.
    Llefarydd 3: Gwyn eu byd y rhai trugarog . . .
    Llefarydd 2: Ydy, mae hynny'n swnio'n iawn, ond mae rhai pobl yn ein byd sydd ddim yn haeddu trugaredd, fel bwlis a charcharorion a therfysgwyr.
    Llefarydd 3: . . . oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.
    Llefarydd 1: Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder . . .
    Llefarydd 2: Felly, rydych chi’n dweud y dylai pobl sy'n cael eu poeni am eu credoau, am eu ffordd o fyw, fod yn hapus?
    Llefarydd 1: . . . oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.
    Llefarydd 3: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich casáu.
    Llefarydd 2: Beth? Na, daliwch arni am funud!

  3. Dweud llai na’r gwir fyddai dweud fod yr hyn a gredai Iesu, a'i ddysgeidiaeth, yn wahanol. Roedd Iesu'n aml yn troi safbwyntiau'n hollol wyneb i waered gan adael y bobl yn syfrdan gydag effaith ei eiriau. Ar ddechrau’r Bregeth ar y Mynydd, mae Iesu'n llefaru am fod yn Wynfydedig, neu’n wyn eich byd, (Blessed are ....). Rydym yn tueddu i ddefnyddio'r gair hwn i egluro ein sefyllfa hapus pan fydd pethau'n mynd yn dda iawn i ni, a phan fyddwn yn derbyn pleserau annisgwyl ac anrhegion.  Efallai y byddwn ni’n dweud, ‘Bendigedig! Ar yr adegau hynny. Mae ‘Gwyn eu byd’ yn y cyd-destun hwn yn golygu bod yn hapus, ond mae'r hapusrwydd hwn yn gwbl ar wahân i amgylchiadau. Mae'n hapusrwydd mewnol, a gaiff ei brofi o ganlyniad i fyw'n gyfiawn. 

  4. Ochr yn ochr â'r geiriau y mae arweinydd yn eu llefaru, mae'n bwysig sylwi ar weithgareddau'r arweinydd hwnnw. Fydd neb yn barod i ddilyn rhywun sy'n dweud un peth, ond sy'n gwneud rhywbeth arall. Mae tystiolaeth amlwg yn y storïau am fywyd Iesu ei fod yn ymarfer yr hyn yr oedd yn ei bregethu ac yn cadw at yr hyn yr oedd yn ei ddatgan. Roedd yn caru'r tlawd, yr aflan, yr afiach, y pechadur a'r alltud, er gwaethaf y diystyrwch ac weithiau'r casineb a oedd yn cael ei ddangos tuag at y bobl hynny gan aelodau mwyaf crefyddol a chysegredig y gymuned. 

  5. Gwrandewch ar y stori hon am y swper olaf a rannodd Iesu yng nghwmni ei ddisgyblion.

    Gofynnwch i’r darllenydd ddarllen yr adnodau o Efengyl Ioan 13.4-5 a 12-17, neu adroddwch yn eich geiriau eich hun stori Iesu’n golchi traed y disgyblion.

    Un nodwedd a oedd yn amlwg yn y ffordd yr oedd Iesu’n arwain oedd ‘gostyngeiddrwydd’. Ystyr gostyngeiddrwydd yw peidio â bod yn drahaus a hunandybus, ond yn hytrach bod yn ddiymhongar, yn wylaidd, anhunanol, parchus a thawedog.

  6. Nid yw gostyngeiddrwydd yn nodwedd sy'n gyffredin y dyddiau hyn. Byddai cael Iesu yn mynd ar ei liniau a golchi traed budr ei ddisgyblion yn debyg i gael yr Arglwydd Sugar yn glanhau'r toiledau yn ei swyddfeydd, neu'r Frenhines yn gwneud y brechdanau ar gyfer ei garddwest ei hun!

    Mae Jim Collins, Americanwr sy'n arbenigwr ar ddadansoddi busnes, yn priodoli gostyngeiddrwydd fel un o'r nodweddion allweddol i lwyddiant ei gwmni. Roedd yn tybio bod gostyngeiddrwydd yn bwysicach na phersonoliaeth, ac fe ddywedodd hyn am arweinyddiaeth, ‘The X-factor of great leadership is not personality, it’s humility.’ 

  7. Tra roedd ar y ddaear, Iesu oedd y model pennaf o ostyngeiddrwydd. Roedd yn was-arweinydd a oedd yn ystyried anghenion eraill o flaen ei anghenion ei hun.

Amser i feddwl

Sut fath o beth fyddai busnesau, neu sut le fyddai yn y byd, pe byddai pobl sydd cael eu hunain mewn rôl arweinyddol yn ystyried eu hunain fel gweision yn gyntaf? Faint o arweinwyr sy'n gosod gwasanaethu'r rhai sydd o’u cwmpas fel eu prif nod?

Beth yw eich teimlad am y gosodiad hwn: ‘Yn y pendraw, fe fydd maint eich dylanwad yn dibynnu ar ddyfnder eich gofal am eraill’ – ‘The extent of your influence depends on the depth of your concern for others’?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae meddwl amdanom ein hunain fel gweision weithiau’n ymddangos fel cysyniad rhyfedd.
Yr ydym yn ôl ein natur, yn rhy aml, yn hunan-ganolog.
Helpa ni i drin pobl eraill yn dda.
Helpa ni i ddilyn esiampl Iesu ac i ofalu am bawb sydd mewn angen.
Helpa ni i adnabod llawenydd o fod yn meddu ar galon wasanaethgar.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon