Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mwy nag un math o gariad

Gwasanaeth i’w ddefnyddio ar 13 Chwefror, y diwrnod cyn Dydd Sant Ffolant

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dealltwriaeth o wahanol fathau o berthnasoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a phedwar Darllenydd.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen y geiriau Groeg hynafol canlynol i’w harddangos ar gyfer y myfyrwyr iddyn nhw eu darllen:storge,philautia,philia,pragma,ludus,erosac agape.

Gwasanaeth

Arweinydd: Sut ydych chi'n teimlo? A oes synnwyr o ddisgwyliad gobeithiol yn rhedeg o amgylch yr ysgol? Pam? Oherwydd bod yfory yn un o’r dyddiau pwysig hynny mewn blwyddyn: Dydd San Ffolant. Tybed faint ohonoch chi sydd wedi archebu blodau, neu efallai eich bod wedi mynd am rosyn coch sengl. A ydych chi’n dal i brynu cardiau, neu a yw’r holl negeseuon yn cael eu hanfon drwy’r cyfryngau cymdeithasol y dyddiau hyn? Oes ots gennych chi a yw'r derbynnydd yn gwybod pwy ydych chi, neu a yw'n dal i fod yn beth cyffrous cael rhywbeth gan edmygydd anhysbys?

Rwy'n siwr fod rhai ohonoch yn hyderus y bydd o leiaf un cerdyn neu anrheg yn cyrraedd atoch. Yn wir, efallai y bydd tipyn o helynt yn wynebu eich ffrind arbennig os nad oes un yn dod ganddo ef neu ganddi hi. Bydd eraill yn gobeithio’n ddistaw bach y bydd rhywbeth yn cyrraedd, yn arwydd fod rhywun arbennig â meddwl mawr ohonyn nhw. Ni fydd rhai ohonoch â diddordeb o gwbl, efallai. Ond mae’n bosib y bydd rhai yn arswydo. Fe fyddan nhw'n ymwybodol na fydd Dydd Sant Ffolant yn dod ag arwydd o anwyldeb oddi wrth unrhyw edmygydd cyfrinachol. I'r bobl hyn, gall Ddydd Sant Ffolant fod yn dipyn o ddiflastod.

Cariad sydd wrth galon Dydd Sant Ffolant. Pan fyddwn ni’n defnyddio’r gair hwnnw, rydym yn tueddu i feddwl am gariad rhamantus, ond y mae llawer mwy i’r gair ‘cariad’ na hynny. Yn wir, roedd gan y Groegiaid ers talwm gynifer â 30 o wahanol eiriau i ddisgrifio'r amrediad o emosiwn y byddwn ni'n ceisio ei gynnwys yn yr un gair, sef ‘cariad’. Gadewch i ni edrych ar rai ohonyn nhw. Gall hyn efallai ein helpu i roi Dydd Sant Ffolant mewn persbectif.

Darllenydd 1:Mae cariad yn cychwyn mewn teulu.Storge(sy'n cael ei ynganu fel ‘storgê’) yw'r cariad sy'n bodoli rhwng rhieni a phlant.Oddi wrth rieni y mae plentyn yn cael ei fodolaeth a chynnyrch eu cariad yw’r plentyn, felly mae’r cyswllt biolegol bron yn amhosib i'w anwybyddu.

Darllenydd 2: Yna, mae philautia, sy'n golygu ‘cariad yr hunan’. Ar ei wedd waethaf, gall fod yn hunan-obsesiwn sydd yn troi'n gyfan gwbl o'm cwmpas i fy hun - ‘fi, fi, fi!’ Ond y mae hefyd yn ymwneud â hunanwerth, ynglyn â theimlo'n saff yn yr hyn ydyn ni a lle rydyn ni’n mynd. Yn y ffurf hon mae philautia yn fath o gariad positif a chadarnhaol sydd yng nghalon ein hunaniaeth.

Darllenydd 3: Y math nesaf o gariad yw philia, ac mae’r math hwn yn agwedd ar gariad sydd eisoes yn rhan o brofiad llawer ohonom. Mae'n disgrifio'r cyfeillgarwch dwfn, ffyddlondeb ac ymddiriedaeth sy'n bodoli rhwng ffrindiau gorau. Mae philia hefyd yn air sy'n cael ei ddefnyddio am ysbryd tîm fel sy'n cael ei greu mewn tîm chwaraeon, er enghraifft.

Darllenydd 4: Yn aml bydd Dydd Sant Ffolant yn ymwneud â gwahanol fathau o gariad. Mae ludus ac eros y disgrifio'r atyniad corfforol sydd rhwng dau berson. Yna mae pragma, sydd yn fath o gariad a gewch chi rhwng cyplau sy'n dathlu pen-blwydd eu priodas arian, eu priodas ruddem neu hyd yn oed eu priodas aur. Mae'n ymwneud ag ymrwymiad hirdymor, hyd yn oed pan fydd ludus ac eros wedi edwino tipyn. Mae'n ymwneud â bod yn fodlon cyfaddawdu a bod yn barod i faddau.

Arweinydd: Yn olaf, mae agape, a hwn, o bosib, yw'r pwysicaf o'r cyfan. Mae agape yn anhunanol, anhaeddiannol a hael. Dyma'r math ar gariad sy'n cymell pobl i wirfoddoli am y swyddi nad oes neb arall eisiau eu cyflawni. Mae'n fath o gariad sydd â chonsyrn am anghenion pobl fregus, y rhai sy'n unig, y rhai gwan a phobl nad oes neb eisiau gofalu amdanyn nhw. Mae Cristnogion yn credu mai'r darlun gorau o agape yw'r ffordd y mae Duw yn dangos y cariad sydd ganddo drosom ni.  Maen nhw'n credu bod Duw yn ein caru er gwaetha'r ffaith ein bod yn aml yn amherffaith, yn anufudd, yn annibynadwy ac yn annymunol.

Amser i feddwl

Arweinydd: Gadewch i ni fynd yn ôl at Ddydd Sant Ffolant. Mae'n ddiwrnod pan fyddwn ni’n dathlu cariad ac yn dangos cariad tuag at bobl eraill. P'un a ydym yn rhoi neu'n derbyn cardiau ar y Dydd San Ffolant hwn, fe allwn ni i gyd ddangos rhywfaint o gariad tuag at bobl eraill.

- Beth am i ni ddangos rhywfaint o gariad storge tuag at ein rhieni neu’r rhai sy’n gofalu amdanom?
- Beth am i ni ddangos rhywfaint o gariad philia tuag at ein ffrindiau gorau?
Gorau oll, beth am wneud rhywbeth hollol annisgwyl, fel gweithred o garedigrwydd tuag at rywun sydd ddim yn disgwyl hynny, sef gweithred o gariad agape?

Gallai pob un ohonom wneud Dydd Sant Ffolant yn ddiwrnod arbennig ar gyfer rhywun!

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y cariad rydyn ni’n ei brofi yn ein bywyd.
Helpa ni i rannu’r profiad hwn gyda’r rhai sydd o’n cwmpas.
Helpa ni i beidio byth â rhoi’r gorau i garu.
Helpa ni bob amser i sylwi ar y bobl y mae angen i ni fod yn ofalgar tuag atyn nhw.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

‘More than one kind of love’ gan Joan Armatrading

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon