Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel

Bod yn ddiogel ar-lein

gan Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Tynnu sylw at Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 7 Chwefror 2017.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel (Safer Internet Day ) yn gyfle i feddwl eilwaith sut yr ydym yn defnyddio'r Rhyngrwyd ac ystyried y peryglon sydd yn gysylltiedig â hynny. Ei nod yw hybu defnydd diogel, cyfrifol, cadarn o dechnoleg ddigidol ymysg plant a phobl ifanc. Yn y flwyddyn 2016, llwyddwyd i gysylltu â mwy na 2.8 miliwn o blant a 2.5 miliwn o rieni trwy gyfrwng neges Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ac ymunodd mwy na 1,000 (mil) o fudiadau â'r ymgyrch.  

  2. Eleni, bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngwyd yn fwy Diogel yn digwydd ar 7 Chwefror ac mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bobl eto’n cymryd rhan. Thema eleni yw: ‘Byddwch y newid - unwch ynghyd ar gyfer gwell Rhyngrwyd’ (‘Be the change: unite for a better Internet’). Gallwn wneud hyn trwy gofleidio agweddau cadarnhaol y Rhyngrwyd, wrth addysgu pobl i osgoi risgiau ar-lein.                 
                                                                                                                                                          
  3. Mae tîm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn gwneud sawl awgrymiad er mwyn helpu ysgolion i estyn allan at blant a phobl ifanc ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ac ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn. Mae'r rhain yn cynnwys:

    - canolbwyntio ar e-ddiogelwch yn ystod gwasanaethau, amser dosbarth a gwersi
    - arddangos posteri Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel
    - gofyn i bobl ifanc gynllunio ap, gêm neu fideo sy'n pwysleisio pwysigrwydd e-ddiogelwch
    - cynnal sesiynau ar gyfer rhieni a gofalwyr lle gallan nhw glywed am e-ddiogelwch o le da
    - ymwneud â'r wasg leol
    - rhedeg cwisiau ynghylch diogelwch ar y Rhyngrwyd

  4. Caiff myfyrwyr eu hannog hefyd i helpu gyda'r gwaith o ledaenu'r gair am Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel trwy ymuno mewn sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy rannu logo Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar gael ar: http://tinyurl.com/jtzhhs7

  5. Mae gwefan swyddogol ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ar gael ar:http://www.saferinternet.org.uk/safer-internet-day/2017 sydd hefyd yn cynnwys pecynnau addysgol wedi eu paratoi'n arbennig, gyda phosteri, mwy o syniadau ar gyfer gwasanaethau addoli ar y cyd, cynlluniau gwersi a gweithgareddau.

  6. Mae’r mwyafrif o bobl wedi clywed am fwlis ar y we neu seibr-fwlis ('cyberbullies'). Mae'r llyfrgwn hyn yn defnyddio gorchudd y Rhyngrwyd i erlid pobl eraill. Oherwydd y cynnydd yn argaeledd y ffonau symudol clyfar a'r tabledi cyfrifiadurol, mae pobl yn aml mewn cyswllt â'r Rhyngrwyd ar bob adeg o'r dydd. Mae hyn wedi arwain at bobl yn cael eu targedu yn eu cartrefi, yn yr ysgol ac yn y gwaith. Yn drist, fel sy'n digwydd yn aml â bwlio, mae pobl yn dioddef yn dawel, ond nid felly y dylai hi fod. Mae'r seibr-fwlis hyn eisiau i'r rhai y maen nhw'n eu herlid aros yn dawel. Bydd seibr-fwlis yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso oddi wrth dawelwch y rhai y maen nhw'n eu herlid. Dyna paham y mae hi'n bwysig i sefyll i fyny yn erbyn bwlis o bob math.  Mae modd datrys pethau bob amser os byddwch chi'n fodlon ymddiried yn eich rheini neu athrawon, a gallwch gysylltu â mudiad fel Childline. 

  7. Yn anffodus, mae'r Rhyngrwyd yn ei gwneud hi'n bosib i unigolion guddio'u gwir hunaniaeth a'u cymhelliant oddi wrth y rhai hynny y maen nhw'n cysylltu â nhw ar-lein. Rhaid i ni fod yn wyliadwrus bob amser, ac o reidrwydd ddylen ni ddim ymddiried yr hyn yr ydym yn ei ddarllen ar-lein. Ddylen ni byth, ar unrhyw achlysur, gytuno i gyfarfod â rhywun yr ydym wedi ei gyfarfod ar-lein heb yn gyntaf hysbysu ein rheini neu ein gofalwyr.

Amser i feddwl

Mae'r Rhyngrwyd yn adnodd rhyfeddol, ond, fel llawer o bethau mewn bywyd, gall gael ei gamddefnyddio. Gall pobl guddio eu gwir hunaniaeth a thwyllo pobl i feddwl eu bod mewn sgwrs â rhywun hollol wahanol i'r unigolyn gwirioneddol. Gall y  seibr-fwlis fanteisio yn hawdd ar y cyfle i wneud bywyd rhywun yn ddiflas. Os oes gan unrhyw un ohonom unrhyw bryderon neu amheuon am yr hyn sy'n digwydd ar-lein, rhaid i ni ddweud wrth rywun yn syth, rhywun fel rhiant, athro neu athrawes neu unrhyw oedolyn cyfrifol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y datblygiadau rhyfeddol sydd wedi digwydd ym myd technoleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Diolch i chi am yr adnodd rhyfeddol, sef y Rhyngrwyd.
Gofynnwr i ti ein helpu ni i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddoeth - i ehangu ein meddyliau, ac i beidio â niweidio eraill.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Mae amryw o gyflwynwyr teledu CBBC wedi cynhyrchu caneuon sy’n codi ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd ac sy’n rhoi cyngor da.

- ‘Who do you share your details with?’ (2.32 munud o hyd), ar gael ar:http://www.bbc.co.uk/cbbc/watch/p014pfyk
- ‘Sometimes what seems like fun’(2.05 munud o hyd), ar gael ar:http://www.bbc.co.uk/cbbc/watch/p014sckf

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon