Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidiwch â bod ag ofn

Mae sawl gwahanol fath o ddatganiadau ‘peidiwch â...’

gan Helen Bryant (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y gorchymyn, 'peidiwch â bod ofn' a'r addewid, 'bydd popeth yn iawn'.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Tybed allwch chi ddyfalu beth yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin yn y Beibl. Fe wna i roi awgrym i chi: y ddau air cyntaf yw 'Peidiwch â’.

  2. Mae’n debyg y bydd llawer ohonoch chi’n meddwl am y Deg Gorchymyn - peidiwch â gwneud y peth yma a pheidiwch â gwneud y peth arall: Peidiwch â dwyn, peidiwch â thoi tystiolaeth ffals am rywun, ac ymysg pethau eraill peidiwch â llofruddio. Mae'n ymddangos ein bod yn cael gwybod yn aml ynghylch beth i beidio â'i wneud. Yr hyn sy’n aml yn dilyn datganiad ‘peidiwch â’ yw cyfarwyddyd i roi rhywbeth i lawr neu i stopio gwneud rhywbeth. Fodd bynnag, mae'r Deg Gorchymyn yn gyfarwyddiadau ynghylch sut i fyw a sut i ddod ymlaen yn dda gyda'ch cyd-ddyn. Mae’r rhain yn ddeddfau pwysig: dyna pam y mae deddfau sy'n rheoli ein tir a'n Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn seiliedig yn fras ar y cyfarwyddiadau hyn.

    Yn wir, mae’r geiriau ‘peidiwch â’ yn ymddangos yn aml iawn yn y Beibl, yn enwedig yn yr Hen Destament, y rhan o’r Beibl sy’n dweud wrthym am yr adeg cyn i Iesu gael ei eni. Mae’r datganiadau ‘peidiwch â’ yn cyfeirio at bob math o wahanol bethau, yn cynnwys bwydydd a dilladau.

  3. Fodd bynnag, mae'r geiriau eraill sy'n rhan o'r ymadrodd mwyaf cyffredin yn y Beibl yn rhoi darlun gwahanol iawn i ni o’r Duw sy'n gyson yn dweud wrth bobl am beidio â gwneud rhywbeth. Dyma ychydig o enghreifftiau o pan fydd y cymal rydyn ni’n sôn amdano’n cael ei ddefnyddio. Yna, meddyliwch beth yw’r geiriau eraill sydd yn y gorchymyn.

    - Fe ddefnyddiodd yr angel Gabriel yr ymadrodd hwn pan ymddangosodd i Mair a rhoi gwybod iddi ei bod yn mynd i roi genedigaeth i faban, sef Iesu.
    - Fe ddefnyddiodd yr un angel yr ymadrodd hwn eto pan ymddangosodd i’r bugeiliaid ar ochr y bryn y tu allan i Fethlehem.
    - Fe ddefnyddiodd Iesu yr ymadrodd hwn wrth siarad â’r disgyblion ar ôl iddo dawelu storm ar y môr.
    - Fe ddywedwyd y geiriau wrth Paul pan siaradodd Duw ag ef cyn iddo fynd ar brawf.

    Ydych chi wedi dyfalu beth yw’r ymadrodd eto? Y geiriau eraill yn y dilyniant yw 'ofni', felly yr ymadrodd a ddefnyddir fwyaf yn y Beibl yw, ‘Peidiwch â bod ag ofn’ neu 'Paid ag ofni'. Mae'n cael ei ddefnyddio tua 365 o weithiau. Ambell dro, mae’n cael ei ddweud wrth unigolion ac weithiau wrth grwpiau o bobl. Mae rhai pobl yn mewn sefyllfaoedd brawychus, mae rhai wedi cael newyddion annisgwyl iawn, mae eraill yn wynebu marwolaeth, yn wynebu Duw neu hyd yn oed ddim ond yn wynebu digwyddiadau anghyffredin.

  4. Mae'n neges syml, ond eto mae ystyr pwysig iddi. Bod yn ofnus yw bod yn bryderus ac yn ansicr. Gall bod yn ofnus ein hatal rhag gwneud pethau, a gall ofn ein dal ni’n ôl. Beth allai fod wedi digwydd pe byddai Mair wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth yr angel Gabriel? Gall ofn uchder, ofn y tywyll neu ofn nadroedd ein dal ni’n ôl. Mae hyd yn oed ofn rhywbeth nad ydym yn gwybod digon amdano nac yn deall yn ddigon da yn gallu gwneud i ni osgoi pobl wahanol neu sefyllfaoedd newydd.

  5. Yr hyn y mae Duw yn ei ddweud yn y Beibl yw y gallwn ni fod yn teimlo’n ofnus, ond fe allwn ni ddal i symud ymlaen. Mae Duw'n dweud wrthym, hyd yn oed pan fyddwn yn teimlo'n ofnus, y gallwn ni ymddiried ynddo ef oherwydd ei fod bob amser yno gyda ni ym mhob sefyllfa. Felly, y tro nesaf y byddwch yn canfod eich bod yn teimlo’n ofnus, naill ai’n ofni rhywbeth neu rywun, cofiwch yr ymadrodd, 'Peidiwch â bod ag ofn' a cheisiwch eich gorau i goncro’r ofn hwnnw. Efallai na fydd, yn y pen draw, mor ddrwg ag yr oeddech chi’n meddwl ar y dechrau y byddai.

Amser i feddwl

Rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd gwraig o'r enw Julian, a oedd yn byw ger Norwich, yn Lloegr, yn dioddef salwch a oedd yn bygwth ei bywyd. Ond fe wnaeth hi wella, ac ar ôl iddi wella fe ysgrifennodd lyfr am y pethau yr oedd hi wedi eu gweld tra roedd hi mewn coma. Roedd un o’r gweledigaethau hyn yn cynnwys y geiriau canlynol, ‘All will be well, and all will be well, and all manner of things will be well.’

Roedd Julian yn byw mewn cyfnod o ryfel a phla, felly roedd yn teimlo bod hyn yn addewid gan Dduw iddi. Fe allwn ninnau hefyd feddwl am y neges hon, ar adegau anodd. Hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd o chwith, gallwn fod yn sicr yn y pen draw, y bydd pethau'n newid ac y 'bydd popeth yn iawn’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa fi i fod yn ddewr, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd iawn.
Pan fydda i’n teimlo’n unig,
Pan fydda i’n oer ac yn newynu,
Pan fydda i’n wynebu penderfyniadau anodd,
Helpa fi i beidio bod ag ofn.
Helpa fi i wybod sut i symud ymlaen yn y ffordd iawn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon