Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydyn ni’n awdurdodus?

Ystyried cydraddoldeb, wrth i ni gael ein hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol

gan Claire Law

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hannog i feddwl ynghylch sut y mae'r defnydd o iaith yn effeithio ar gydraddoldeb o ran rhyw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen sleidiau PowerPoint sy'n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (International Women’s Day) a’r modd o’u dangos.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch Sleid 1.

    Darllenwch yr hyn sy’n disgrifio’r senario ar y sleid: ‘Roedd dyn a'i fab mewn damwain car. Bu farw'r dyn ar y ffordd i'r ysbyty, ond cafodd y bachgen ei rhuthro i mewn i'r theatr i gael llawdriniaeth. Dywedodd y llawfeddyg, "Alla i ddim rhoi llawdriniaeth iddo, fy mab i ydyw!”’

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried sut y byddai hyn yn bosib, a chaniatewch rywfaint o amser iddyn nhw feddwl am hyn.

    Gofynnwch am rai atebion posib gan y myfyrwyr. Efallai y byddan nhw’n cael yr ateb cywir: mae’r llawfeddyg yn fenyw, mam y bachgen! Fel arall, efallai y bydd rhai myfyrwyr yn cymryd yn ganiataol bod y llawfeddyg yn ddyn, gan nodi rhywfaint o ddryswch efallai ynghylch pwy yw'r tad biolegol, ac ati.

    Eglurwch, yn achos llawer o bobl, nid yr ateb syml sef bod y llawfeddyg yn fenyw yw'r ateb cyntaf y maen nhw’n meddwl amdano.

  2. Mae'r pos yn helpu i ddangos nad yw'r iaith a ddefnyddiwn, yn aml, yn niwtral o ran rhyw. Drwy hyn, rydyn ni’n yn golygu bod arwyddocâd llawer o eiriau yn cael eu hystyried gan lawer o bobl naill ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd. Esboniwch eich bod yn mynd i restru sawl proffesiwn, ac fe hoffech chi i'r myfyrwyr feddwl a ydyn nhw, yn ôl eu hymateb cyntaf, yn gweld y rôl fel rôl 'gwrywaidd' neu rôl 'fenywaidd'.

    Darllenwch y rhestr ganlynol, gan oedi ar ôl pob gair:

    - nyrs
    - ymladdwr tân
    -gyrrwr cae rasio Formula One
    - meddyg
    - un sy’n rhoi triniaethau harddwch (beautician)

    Awgrymwch i'r myfyrwyr bod y rhan fwyaf ohonom â syniadau rhagdybiedig ynghylch pa swyddi sy’n nodweddiadol ar gyfer dynion neu ferched. Gofynnwch i'r myfyrwyr a yw hyn yn bwysig mewn gwirionedd.

    Efallai yr hoffech chi wrando ar ymateb rhai o’r myfyrwyr.
     

  3. Dangoswch Sleid 2.

    Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ar 8 Mawrth ers 1913. Ei nod yw tynnu sylw at y mater o stereoteipiau, a cheisio herio'r ffordd yr ydym yn defnyddio iaith. Y bwriad o gynnal y diwrnod hwn hefyd yw ceisio gweithio tuag at fwy o gydraddoldeb rhwng dynion a merched.

    Dangoswch Sleid 3.

    Mae'r gair Saesneg ‘parity’, sy’n golygu cydraddoldeb, yn cael ei ddiffinio fel, 'y statws neu’r cyflwr o fod yn gyfartal, yn enwedig o ran statws neu dâl'. Mewn sawl rhan o'r byd, nid oes tâl cyfartal neu statws cyfartal rhwng gwrywod a benywod. Heddiw, fe hoffwn i ni feddwl am sut y gall y ffordd yr ydym yn defnyddio iaith ein helpu ni tuag at fod yn nes at gydraddoldeb, neu fynd â ni ymhellach i ffwrdd oddi wrth gydraddoldeb ymysg dynion a merched.

  4. Dangoswch Sleid 4.

    Gadewch i ni feddwl am y gair 'pendantrwydd' - yn Saesneg ‘assertive’. A yw hwn yn air y byddwn ni’n ei ddefnyddio’n fwyaf aml i ddisgrifio dynion neu ferched? Beth am y gair 'arweinydd'? Beth am y gair 'awdurdodus’, neu ddweud fod rhywun yn ‘ormod o geffyl blaen' neu o ddefnyddio’r gair Saesneg, yn ‘bossy’?

  5. Dangoswch Sleid 5.

    Fel y gallwn weld o'r graff hwn, mae astudiaethau wedi dangos bod y gair 'bossy', yn y cyfryngau, yn cael ei ddefnyddio’n llawer mwy aml i ddisgrifio merched na dynion. Mae merch sy'n dangos sgiliau arwain neu sydd ag agwedd bendant yn aml yn cael ei disgrifio fel rhywun sy’n 'ormod o geffyl blaen' neu'n ‘bossy’. Mae'r gair hwn yn swnio'n negyddol. Mae wedi cael ei nodi bod pobl sy'n cael y label ‘bossy' yn llai llwyddiannus mewn busnes, tra bod pobl sy'n cael eu galw'n gymeriadau ‘pendant’ (‘assertive’) yn ennill mwy o gyflog, ac yn fwy llwyddiannus yn eu gyrfa. Felly a yw bod yn awdurdodus (neu’n ‘bossy’) yn golygu'r un peth a bod yn ‘bendant’ (‘assertive’)?

  6. Dangoswch Sleid 6.

    Yn 2014, fe wnaeth Prif Swyddog Gweithredu Facebook, Sheryl Sandberg, lansio ymgyrch o'r enw ‘Ban Bossy’. Mae’r wefan yn nodi, ‘When a little boy asserts himself, he’s called a “leader”. Yet when a little girl does the same, she risks being branded “bossy”.’Profiad Sandberg ei hunan oedd bod cael y label 'bossy' yn golygu fod gan ei hathrawon a'u cyfoedion agwedd negyddol tuag ati a allai fod wedi ei dal ei ôl rhag llwyddo. Gwnewch y pwynt mai barn Sandberg yw hon, a gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried beth yw eu barn nhw ar y pwnc.

  7. Mae angen i ni ystyried a yw'n ddigon i ddim ond newid yr iaith a ddefnyddiwn er mwyn ein helpu ni i gyflawni mwy o gydraddoldeb rhwng gwrywod a benywod. Yn sicr mae angen i ni newid mwy na dim ond ein hiaith: mae angen i ni ystyried ein hagweddau a'n gwerthoedd.

  8. Dangoswch Sleid 7.

    Ein hagweddau a'n gwerthoedd sylfaenol sy'n effeithio ar yr ymddygiad yr ydym yn ei arddangos. Mae'r sleid yn awgrymu bod ein cymhellion, ein moeseg a’n credoau yn effeithio ar ein gwerthoedd, ein safonau a’n barn. Mae'r agweddau hyn, yn eu tro, yn effeithio ar ein hymddygiad. Mae’n debyg, mewn ffordd, i fynydd iâ, mae llawer o sut rydym yn ymddwyn neu’n siarad (y pethau y mae pobl eraill yn gallu eu GWELD amdanom ni) yn cael ei ddylanwadu'n drwm gan y credoau, y syniadau a’r agweddau sydd gennym ynghudd dan yr wyneb. Weithiau, nid yw pethau hyn yn hawdd i ni ein hunain eu gweld!

Amser i feddwl

Heddiw, gadewch i ni feddwl am ein credoau, ein syniadau ac am ein hagweddau tuag at gydraddoldeb.

Dangoswch Sleid 8.

Mae'r Beibl yn ein dysgu bod dynion a merched yr un mor bwysig â’i gilydd yng ngolwg Duw.

Darllenwch y ddau ddyfyniad sy’n ymddangos ar y sleid, yn araf:

- ‘God shows no favourites’ (Romans 2.11)
- ‘In the image of Godhe created them; male and femalehe created them’ (Genesis 1.27)

Y geiriau Cymraeg fyddai:

- ‘Nid oes ffafriaeth gerbron Duw’ (Rhufeiniaid 2.11)
- ‘ Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.’ (Genesis 1.27)

Dangoswch Sleid 9.

Mae’r Qur'an hefyd yn ein dysgu bod dynion a merched yr un mor bwysig â’i gilydd yng ngolwg Duw.

Yn araf eto, darllenwch y dyfyniad sy’n ymddangos ar y sleid:

‘Be it man or woman; each of you is equal to the other’(the Qur’an 3.195)

Dangoswch Sleid 10.

Wrth i ni feddwl am Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, gadewch i ni oedi am foment i ystyried beth allwn ni ei wneud heddiw er mwyn helpu i gyflawni mwy o gydraddoldeb.

Gadewch i ni feddwl beth yw ein credoau, ein hagweddau a’n syniadau am gydraddoldeb mewn gwirionedd.

A allwn ni roi ein hymddygiad ar waith mewn ffordd a fydd yn helpu i wneud ein byd yn lle tecach, ac yn lle mwy cyfartal?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cydnabod bod llawer o annhegwch yn ein byd.
Rwyt ti wedi creu byd lle rwyt ti wedi gwneud gwryw a benyw yn gydradd.
Helpa ni heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy wneud un cam bach y nes at fwy o degwch a chydraddoldeb.
Helpa ni heddiw i fod yn ymwybodol o'r geiriau a ddefnyddiwn.
Helpa ni i ystyried nid yn unig ein geiriau, ond hefyd ein credoau a’n hagweddau sylfaenol.
Helpa ni i weithredu fel y bydd ein hagweddau yn gariadus, yn garedig ac yn deg.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon