Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fe ddaw’r gwirionedd i’r golwg

Fe ddaw’r gwirionedd i’r golwg yn y pen draw

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ein hatgoffa y bydd y gwir yn dod yn hysbys yn y pen draw, waeth faint bynnag o gelwyddau y byddwn ni’n eu dweud.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘This is Me’ gan Demi Lovato a Joe Jonas. Neu, fe allech chi chwarae ychydig o gerddoriaeth arall sy’n helpu rhywun i fyfyrio yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’ ar ddiwedd y gwasanaeth. Trefnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth.

    Mae’r gân ‘This is me’ gan Demi Lovato a Joe Jonas ar gael ar: https://www.youtube.com/watch?v=WpBeGJjGMNs ac mae’n para am 3 munud.

Gwasanaeth

  1. Yn anffodus, mae sawl un o’n cwmpas yn dweud celwyddau. Mae rhai gwleidyddion yn dweud celwydd am yr hyn y maen nhw’n bwriadu ei wneud dros y wlad petaen nhw’n cael eu hethol. Mae rhai o sêr byd y ffilmiau yn dweud celwydd am eu perthynas â phobl eraill.Mae rhai chwaraewyr pêl-droed yn dweud celwydd am dacl annheg. Mae rhai arweinwyr busnes yn dweud celwydd am eu datganiadau treth.

    Ac mae rhai pobl fel petaen nhw’n llwyddo i osgoi cael eu dal.

  2. Dros 400 mlynedd yn ôl, ysgrifennodd William Shakespeare y brawddegau canlynol yn ei ddrama, The Merchant of Venice
    truth will come to light; 
    murder cannot be hid long; 
    a man's son may, but in the end truth will out.

    ‘Truth will out.’  Mae pobl yn dal i ddefnyddio’r ymadrodd Saesneg hwnnw hyd heddiw. Dro ar ôl tro, rydym yn darllen yn y papurau newydd ac yn gweld ar y teledu bod celwyddau’n cael eu datgelu, a bod y gwir yn dod i’r golwg.
     
  3. Yn y ffilm Camp Rock, mae Mitchie yn darganfod y gwir drosti ei hun drwy’r ffordd anodd.Pan fydd hi’n clywed am y tro cyntaf ei bod hi’n cael mynd i Camp Rock, ysgol haf sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, mae hi wrth ei bodd.Mae ei mam wedi cael ei chyflogi i wneud gwaith arlwyo, ac o ganlyniad, mae Mitchie yn cael mynd i’r ysgol haf am bris gostyngol, cyn belled â’i bod hi’n helpu yn y gegin.

    Mae Mitchie yn cael ei gorlethu wrth feddwl am y rhieni enwog a swm yr arian sydd gan y plant eraill yn ôl pob golwg.Mae ganddi gywilydd o’i rhieni, ac mae hi’n dweud celwydd er mwyn cyd-fynd â’r norm.Mae hi’n honni bod ei mam yn rheolwr gyfarwyddwr Hot Tunes TV China.Ac unwaith mae hi wedi dweud celwydd, does dim troi’n ôl. Hyd yn oed pan ddaw ei mam i gyflwyno ei hun i ffrindiau Mitchie, nid yw hi’n cyfaddef y gwir, ond mae’n cyfeirio ati fel rhywun sydd wedi coginio i’r sêr i gyd.

    Ond, fe ddaw’r gwir i’r golwg.Pan sylweddolodd ei ffrind Caitlin bod Mitchie ddim yn dweud y gwir, mae hi’n ei disgrifio hi fel rhywun sy’n boddi yn ei chelwyddau, ac mae Mitchie yn cyfiawnhau ei hun drwy ddweud, ‘Doeddwn i ddim ond eisiau bod yr un fath â phawb arall, iawn?’

    Ond dydi hynny ddim yn iawn, fodd bynnag.Pan mae diva’r ysgol haf, Tess Tyler, yn dod i wybod y gwir, mae hi’n codi cywilydd ar Mitchie yn gyhoeddus, ac yn tynnu sylw at y celwyddau roedd hi wedi eu dweud.Mae Mitchie yn dysgu drwy’r ffordd anodd nad delwedd yw popeth, ond yn hytrach drwy ganiatáu i bobl weld pwy ydych chi mewn gwirionedd.

  4. Yn union fel Mitchie, fe allwn ni’n hawdd ymgolli yn ein celwyddau, a chael ein dal gan ein twyll.Ond does dim rhaid i ni ddweud celwydd am bwy ydyn ni, neu sut rai yw ein teuluoedd, neu am yr hyn sydd gennym ni.Bydd ein ffrindiau go iawn yn ein derbyn ni fel rydyn ni.Ac yna, fel Mitchie, fe allwn ni ddod o hyd i’r rhyddid i fod yn ni ein hunain trwy ddweud y gwir.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y tro diwethaf i chi ddweud celwydd.

- Pam y gwnaethoch chi hynny?
- Oedd gormod o ofn arnoch chi i ddweud y gwir?
- Oedd gennych chi gywilydd o’ch teulu neu rywbeth arall?
- Oeddech chi’n poeni y byddech chi’n peri gofid i rywun?
- Oeddech chi’n ceisio osgoi’r canlyniadau?
- Oedd arnoch chi ofn bod yn chi eich hunan?

Wrth i chi wrando ar eiriau cân Mitchie (‘This is Me’), cymerwch foment neu ddwy i feddwl am bethau rydych chi wedi dweud celwydd yn eu cylch. Oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud er mwyn gallu gwneud iawn am hynny? Weithiau mae’n cymryd dewrder mawr i ddweud y gwir.

Allwch chi feddwl am un sefyllfa lle rydych yn mynd i ddweud y gwir o hyn ymlaen?

Cofiwch, fe fydd y gwir yn dod i’r golwg.

Cân/cerddoriaeth

This is me’ gan Demi Lovato a Joe Jonas, ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=WpBeGJjGMNs

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon