Gwerth
Ydych chi'n deall eich gwir werth?
gan Nicola Freeman
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ein hannog i ddeall ein gwerth.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen y sleidiau PowerPoint sy’n cyd-fynd â’r gwasanaeth hwn (Value)a’r modd o’u dangos.
- Fe fydd arnoch chi angen dau fwrdd gwyn bach hefyd, a phinnau ysgrifennu, lliain i sychu’r atebion wedyn, ac (os yn briodol) gwobr ar gyfer y gêm.
Gwasanaeth
- Dangoswch Sleid 1.
Eglurwch fod y gwasanaeth heddiw’n ymwneud â 'gwerth' a’ch bod chi'n mynd i ddechrau drwy chwarae gêm sy'n edrych ar rai o'r pethau y gellir eu prynu ar eBay. Efallai y byddwch yn dymuno gwahodd gwirfoddolwyr i'r tu blaen i gymryd rhan yn y gêm, fe allech chi ofyn i'r myfyrwyr godi eu dwylo i ateb cwestiynau, neu eich bod yn syml yn gofyn iddyn nhw feddwl am yr atebion yn eu pen. - Dangoswch Sleid 2. (Gwnewch yn siwr eich bod wedi gosod y cyflwyniad i chwarae fel sioe sleidiau.)
Faint fyddech chi’n fodlon ei dalu am gynhwysydd gyda rhywfaint o wallt wedi ei dorri ynddo?
Faint fyddech chi’n fodlon ei dalu pe byddai’r gwallt hwnnw’n perthyn i Justin Bieber?
Datgelwch y swm a dalwyd amdano wrth i rywun ei brynu oddi ar eBay: £25,024
Dangoswch Sleid 3.
Faint fyddech chi'n fodlon ei dalu am het ‘fedora’?
Faint fyddech chi'n fodlon ei dalu pe byddai’r het honno wedi bod yn eiddo i Pharrell Williams?
Datgelwch y swm y cafodd ei gwerthu amdano ar eBay: £26,444
Dangoswch Sleid 4.
Faint fyddech chi'n fodlon ei dalu am yr het y gwnaeth y Dywysoges Beatrice ei gwisgo ym mhriodas y Tywysog William a Kate Middleton?
Datgelwch y swm a dalwyd amdani wrth i rywun ei phrynu oddi ar eBay: £81,100
Tynnwch sylw at y ffaith y gallai'r rhain ymddangos fel symiau enfawr o arian i ni, ond roedd rhywun, yn rhywle, yn credu bod yr eitemau yn werth hynny! - Dangoswch Sleid 5
Rydym i gyd yn werthfawr. Fodd bynnag, os bydden ni’n gwerthu potyn o'n gwallt ni ar eBay, fyddai pobl ddim mor barod efallai i dalu llawer iawn o arian am hynny! Fe wnaeth gwallt Justin Bieber werthu am swm mor fawr oherwydd i bwy yr oedd y gwallt hwnnw’n perthyn, ac oherwydd bod iddo werth yng ngolwg y person a'i prynodd. Mae gwerth yn aml yn dibynnu ar dri pheth:
- i BWY roedd yr eitem yn perthyn
- PAM roedd rhywun eisiau’r eitem honno (eu cymhelliad)
- FAINT mae rhywun yn fodlon ei dalu am yr eitem - Gofynnwch faint o'r myfyrwyr sydd wedi clywed am Meryl Streep. Mae hi’n actores enwog iawn, ond nid oedd hyn yn wir bob amser.
Dangoswch Sleid 6.
Pan oedd Meryl Streep yn actores anhysbys, aeth i glyweliad ac fe gafodd y profiad canlynol. Dyma ei geiriau:
‘This [photograph] was me on my way home from an audition for King Kong where I was told I was too “ugly” for the part. This was a pivotal moment for me. This one rogue opinion could derail my dreams of becoming an actress or force me to pull myself up by the boot straps and believe in myself. I took a deep breath and said“I’m sorry you think I’m too ugly for your film but you’re just one opinion in a sea of thousands and I’m off to find a kinder tide.”Today I have 18 Academy Awards.’
Weithiau mewn bywyd, fe allwn ni deimlo fel pe nad yw pobl yn ein gwerthfawrogi'n fawr iawn. Ar adegau fel hyn, mae angen i ni ddilyn esiampl Meryl Streep a phenderfynu dal ati i ymgeisio! - Pan fydd pobl yn ystyried gwerthu eu ty, fe fyddan nhw’n cael rhywbeth a elwir yn brisiad (valuation) wedi ei wneud arno. Bydd rhywun yn ymweld â'r ty ac yn gwerthuso faint y maen nhw’n ei feddwl yw gwerth y ty, ac yna’n penderfynu faint y maen nhw’n ei gredu y dylai’r pris amdano fod. Yn aml, mae gwahanol briswyr yn awgrymu gwahanol brisiau, felly mae'n rhaid i bobl sy'n berchen ar y ty benderfynu pa werth y maen nhw am ei ddilyn.
Os bydd y perchnogion yn dewis pris sy’n rhy isel, fe allai’r ty gael ei werthu’n gyflym, ond efallai na fydden nhw’n cael cymaint o arian am y ty ag y gellid bod wedi ei gael. Fodd bynnag, os ydyn nhw’n dewis pris sy’n rhy uchel, efallai na fydd y ty yn gwerthu oherwydd na fydd y bobl sy’n edrych arno yn meddwl ei fod yn werth cymaint â hynny.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol:
- Pa leisiau ydych chi'n gwrando arnyn nhw?
- Pa werthusiadau y mae pobl yn eu gwneud am eich gwerth chi?
- A ydych chi’n sylweddoli eich bod yn cael dewis ynghylch a ddylech chi gredu bod gwerthusiad yn wir neu'n anwir?
Mae deall ein gwerth yn effeithio ar sut yr ydym yn gadael i bobl eraill ein trin ni a sut yr ydyn ni’n trin ein hunain.
Dangoswch Sleid 7. - Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn meddwl fod pobl yn ddigon gwerthfawr iddo anfon ei fab, Iesu, i'r byd. Un o'r adnodau mwyaf adnabyddus yn y Beibl yw’r adnod o Efengyl Ioan 3.16: ‘Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol’.Mae Cristnogion yn credu mai cymhelliad Duw oedd ei fod yn caru pobl. Maen nhw’n credu mai cost cariad Duw oedd iddo ganiatáu i Iesu farw.
Amser i feddwl
Dangoswch Sleid 8.
Gofynnwch i'r myfyrwyr wrando wrth i chi ddarllen rhai o'r datganiadau ar y sleid a gofyn iddyn nhw dderbyn y geiriau fel rhai ar eu cyfer nhw eu hunain.
- Rydych chi’n cael eich caru.
- Rydych chi’n werthfawr.
- Rydych chi wedi eich llunio â harddwch a phwrpas.
- Does neb arall fel chi.
- Does dim angen i chi edrych fel pawb arall, na siarad fel pawb arall, na bod fel pawb arall.
- Mae’r byd hwn eich angen chi fel yr ydych chi.
- Does dim gwirionedd yn y celwydd sy’n dweud nad ydych chi’n cyfrif.
- Rydych wedi cael eich rhoi yma am reswm.
- Rydych chi’n cael eich caru.
- Nid damwain oeddech chi.
- Nid camgymeriad ydych chi.
Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried a ydyn nhw’n credu bod y datganiadau hyn yn wir amdanyn nhw eu hunain.
Gofynnwch y cwestiwn canlynol i'r myfyrwyr, ‘Os ydym yn wir yn credu'r datganiadau hyn, sut y byddai hynny'n effeithio ar y ffordd yr ydym yn byw, y ffordd yr ydym yn trin pobl eraill, y ffordd yr ydym yn caniatáu i bobl eraill ein trin ni, a'r penderfyniadau a wnawn?’
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddeall ein bod ni’n werthfawr ac yn cael ein caru.
Helpa ni i dderbyn ein gwerth a chaniatáu i’n bywyd adlewyrchu hyn.
Helpa ni i werthfawrogi eraill ac i gymryd amser i’w gweld yn union fel y maen nhw.
Amen.